Coleg y Drindod, Caergrawnt
Gwedd
Coleg y Drindod, Prifysgol Caergrawnt | |
Arwyddair | Virtus vera nobilitas |
Enw Llawn | Coleg y Drindod Sanctaidd ac Anrhanedig y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt o Sefydliad Harri yr Wythfed |
Sefydlwyd | 1546 |
Enwyd ar ôl | Y Drindod Sanctaidd |
Lleoliad | Trinity Street, Caergrawnt |
Chwaer-Goleg | Eglwys Crist, Rhydychen |
Prifathro | Syr Gregory Winter |
Is‑raddedigion | 700 |
Graddedigion | 350 |
Gwefan | www.trin.cam.ac.uk |
- Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Neuadd y Drindod, Caergrawnt.
- Gweler hefyd Coleg y Drindod (gwahaniaethu).
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg y Drindod (Saesneg: Trinity College). Fe yw'r coleg cyfoethocaf o golegau Caergrawnt a Rhydychen, ac un o'r mwyaf o ran nifer o fyfyrwyr a chymrodyr. Sefydlwyd gan Harri VIII ar 19 Rhagfyr 1546[1] pryd cyfunwyd dau goleg Michaelhouse a Neuadd y Brenin (King's Hall).
Aelodau Nodedig
[golygu | golygu cod]- Charles Babbage (1791–1871), mathemategydd a dyfeisiwr
- Syr Francis Bacon (1561–1626), athronydd, gwleidydd a gwyddonydd
- Stanley Baldwin (1867–1947), gwleidydd a Phrif Weinidog
- Arthur Balfour (1848–1930), gwleidydd a Phrif Weinidog
- Nick Bourne (g. 1952), gwleidydd
- Spencer Compton Cavendish, Dug Devonshire (1833–1908), gwladweinydd
- Erskine Hamilton Childers (1905–1974), gwleidydd ac Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon
- Albert Ruskin Cook (1870 - 1951), meddyg a chenhadwr yn Wganda
- John Davies (1938–2015), hanesydd
- Walter Davies (1761–1849), bardd
- John Dee (1527–1608), mathemategydd ac alcemydd
- John Dryden (1631–1700), bardd a dramodydd
- Edward VII (1841–1910), Brenin y DU
- Nicholas Edwards, Arglwydd Crughywel (g. 1934), gwleidydd
- Edward FitzGerald (1809–1883), bardd
- Cyril Flower, Arglwydd Battersea (1843–1907), noddwr y celfyddydau a gwleidydd
- Stephen Frears (g. 1941), cyfarwyddwr ffilm
- Mel Giedroyc (g. 1968), digrifwr, actores, a chyflwynydd
- Antony Gormley (g. 1950), cerflunydd
- Richard Grosvenor, Arglwydd Stalbridge (1837–1912), gwleidydd a gŵr busnes
- Ivor Churchill Guest, Arglwydd Wimborne (1873–1939), gwleidydd
- John Gwilliam (1923–2016), chwaraewr rygbi
- Arthur Humphreys-Owen (1836–1905), gwleidydd
- Douglas Hurd (g. 1930), gwleidydd
- George Jeffreys (1645–1689), barnwr
- R. T. Jenkins (1881–1969), hanesydd
- Thomas Jones (1756–1807), mathemategydd
- Brian David Josephson (g. 1940), ffisegydd
- Bryn Lewis (1891–1917), chwaraewr rygbi
- Alfred Lyttelton (1857–1913), gwleidydd
- G. W. Lyttelton (1883–1962), llenor
- Thomas Macaulay (1800–1859), hanesydd a gwleidydd
- James Mackenzie Maclean (1835–1906), newyddiadurwr a gwleidydd
- A. A. Milne (1882–1952), awdur
- John Montagu, Arglwydd Sandwich (1718–1792), gwladweinydd a dyfeisiwr y frechdan
- John Lloyd Morgan (1861–1944), barnwr a gwleidydd
- Charles Morley (1847–1814), gwleidydd
- Jawaharlal Nehru (1889–1964), gwladweinydd Indiaidd
- Syr Isaac Newton (1643–1727), mathemategydd a ffisegydd
- Richard Osman (g. 1970), gyflwynydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu
- Zachary Pearce (1690–1774), Esgob Bangor
- Spencer Perceval (1762–1812), gwleidydd a Phrif Weinidog
- Enoch Powell (1912–1998), gwleidydd
- Henry Morris Pryce-Jones (1878–1952), milwr Cymreig
- Eddie Redmayne (g. 1982), actor
- John Herbert Roberts, Arglwydd Clwyd (1863–1955), gwleidydd
- Edward John Sartoris (1814–1888), tirfeddiannwr a gwleidydd
- Peter Shaffer (1926–2016), dramodydd
- Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (g. 1948)
- Siôr VI (1895–1952), Brenin y DU
- Alfred, Arglwydd Tennyson (1809–1892), bardd
- William Makepeace Thackeray (1811–1863), nofelydd
- Syr Eubule Thelwall (1562–1630), cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig
- Henry Hussey Vivian, Arglwydd Abertawe (1821–1894), diwydiannwr
- Arthur Walsh, Arglwydd Ormathwaite (1827–1920), tirfeddianwr ac AS
- Clough Williams-Ellis (1883–1978), pensaer
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Palmer, Alan; Veronica (1992). The Chronology of British History. London: Century Ltd. tt. 147–150. ISBN 0-7126-5616-2.