310 CC
Gwedd
5g CC - 4g CC - 3g CC
360au CC 350au CC 340au CC 330au CC 320au CC - 310au CC - 300au CC 290au CC 280au CC 270au CC 260au CC
315 CC 314 CC 313 CC 312 CC 311 CC - 310 CC - 309 CC 308 CC 307 CC 306 CC 305 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Antigonos yn gyrru ei fab, Demetrius Poliorcetes, i ymosod ar Babilonia o'r gorllewin, ac un o'i gadfridogion, Nicanor, i ymosod o'r dwyrain. Fodd bynnag, gorchfygir Nicanor gan Seleucus ger afon Tigris.
- Antigonos yn sefydlu dinasoedd Antigonia Troas (yn ddiweddarach Alexandria Troas) ac Antigoneia (yn ddiweddarach Nicaea).
- Agathocles, unben Siracusa, yn dianc o'r gwarchae ar y ddinas gan fyddin Carthago ac yn ymosod ar diriogaethau Carthago yng Ngogledd Affrica.
- Mae'r Samnitiaid yn perswadio'r Etrwsciaid i ddiweddu eu cynghrair a Gweriniaeth Rhufain. Ym Mrwydr Llyn Vadimo. gorchfygir yr Etrwsciaid gan y Rhufeiniaid dan Fabius Maximus Rullianus.
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Aristarchus o Samos, seryddwr a mathemategydd Groegaidd (tua'r dyddiad yma)