1868
18g - 19g - 20g
1810au 1820au 1830au 1840au 1850au - 1860au - 1870au 1880au 1890au 1900au 1910au
1863 1864 1865 1866 1867 - 1868 - 1869 1870 1871 1872 1873
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Am y tro cyntaf etholwyd mwyafrif o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol o Gymru.
- 27-31 Ionawr - Brwydr Toba-Fushimi yn Japan.
- 23 Mawrth - Mae'r Prifysgol Califfornia yn cael ei sefydlu yn Oakland.
- 9-13 Ebrill - Brwydr Magdala yn Ethiopia.
- Mehefin - Dechreuad y "Rhyfel Titokowaru" yn Seland Newydd.
- 20 Awst - Damwain drên Abergele; 33 o bobol yn colli ei bywydau.
- Llyfrau
- Louisa May Alcott - Little Women
- Wilkie Collins - The Moonstone
- Robert Elis (Cynddelw) - Geiriadur Cymreig Cymraeg
- John Ceiriog Hughes - Oriau eraill
- Jabez Edmund Jenkins - Rhiangerdd — Gwenfron o'r Dyffryn
- Griffith Jones (Glan Menai) - Enwogion Sir Aberteifi
- Rhys Gwesyn Jones - Caru, Priodi, a Byw
- John Phillips (Tegidon) - Y Ddeilen ar y Traeth
- Barddoniaeth
- Robert Browning - The Ring and the Book
- Cerddoriaeth
- Georges Bizet - Variations chromatiques de concert
- Ignaz Brüll - Concerto piano rhif 2
- Gwyddoniaeth
- Darganfyddiad yr elfen gemegol Heliwm gan Pierre Janssen a Norman Lockyer
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- 6 Ionawr - Vittorio Monti, cyfansoddwr (m. 1922)
- 28 Mawrth - Maxim Gorki, awdur (m. 1936)
- 6 Mai - Nicholas II, tsar Rwsia (m. 1918)
- 7 Mehefin - Charles Rennie Mackintosh, arlunydd, cerflunydd ac pensaer (m. 1928)
- 14 Gorffennaf
- Gertrude Bell, llenores, teithwraig ac archaeolegydd (m. 1926)
- Helen Gibson, arlunydd (m. 1938)
- 23 Hydref - Alfred Mond, diwydiannwr, ariannwr a gwleidydd (m. 1930)
- 24 Hydref - Alexandra David-Néel, fforiwr a llenor (m. 1969)
- 31 Hydref - Holman Fred Stephens, peiriannydd (m. 1931)
- 24 Tachwedd - Scott Joplin, pianydd a chyfansoddwr (m. 1917)
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- 27 Ionawr - Ellis Owen, hynafiaethydd a bardd, 78
- 11 Chwefror - Léon Foucault
- 22 Mehefin - Owain Meirion, 65
- 17 Hydref - Laura Secord
- 13 Tachwedd - Gioachino Rossini, cyfansoddwr, 76
Tywydd
[golygu | golygu cod]Tywydd haf 1868 “....yng nghanol llyfr poced Huw Derfel cefais hyn wedi ei ysgrifennu â phensel blwm, am wres mawr yr haf 1868: ‘Y Gwresfesurydd yn 134, ac ychwaneg am amryw ddyddiau olynol yng Nghloddfa y Cae, Gorffennaf 1868. Dywedir fod dau ych i’r un gŵr ym Môn wedi syrthio i lawr yn farw o fewn ychydig i’w gilydd o eisiau dwfr. Mae’r Coed Derw yn gwywo gan y gwres yn y Bryn Llwyd wrth y Chwarel. Delir eogiaid gan y ciperiaid yn Ogwen, a dodir hwy mewn dwfrlestri i’w symud i’r Llynnau mwyaf. Nid oes nemor wlith un noson. Mae’r adar bron wedi tewi canu. Mae nifer mawr o’r chwilod hedegog a elwir yn Hwrli Bwmp ac o’r glöyn byw yn hedeg o gwmpas. Mae rhywbeth dieithr yn y sychder a’r gwres yma. Mae y ffynhonnau oddeutu Pendinas bron wedi sychu. Y gwartheg yn brefu am ddwfr a bwyd, a’r holl wlad â’i glaswellt wedi marw. Glannau Menai a holl wlad Fôn wedi eu llosgi gan eisiau dwfr. Mae llais y llysiau a’r coed yn gweiddi am law, a’r llaid wedi troi yn lludw. Mae llygod mawr a mân wedi cilio o’r chwarel o eisiau dwfr. Caed neidr wedi marw, fel y bernir, o syched yng Nghoed y Dinas, Gorffennaf 25, 1868. Richard Owen, pregethwr o Fôn, yn dweud fod y gwartheg ym Môn yn marw o eisiau dwfr; dywedai hyn ar ei weddi ddoe, Gorffennaf 26, yn Shiloh, Tregarth. Cannoedd o bobl allan o waith yn Ffestiniog a Chloddfa y Cae am nad oes dwfr i yrru’r peiriannau. Y Felin Fawr wedi sefyll. Ogwen bron a sychu. Hen bobl tri a phedwar ugain oed fel Robert Owen, Tyddyn Dicwm, ddim yn cofio y fath sychder. Yr oedd y samons yn marw ac yn drewi’n dost ym Mharc y Penrhyn. Dywed rhai fod dwfr yn chwe cheiniog y chwart yng Nghaergybi y dyddiau diweddaf. Cerid dwfr gyda’r trên o Fangor i Gonwy’. “Yna daw’r nodyn gorfoleddus” meddai Marian: ‘Dyma law braf yn dechrau, Gorffennaf 28, o hanner awr wedi pedwar y pnawn. Diolch, O diolch i’r Arglwydd am dano.’ ”[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ysgrif yn Meddwn I gan Syr Ifor Williams, Chwefror 9, 1941.