[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Trevelin

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:15, 21 Hydref 2005 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)

Mae Trevelín (neu Trefelin) yn dref gyda phoblogaeth o tua 5.000 yn nhalaith Chubut, Ariannin. Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a gychwynwyd gan John Evans yn 1889.

Trevelin oedd canolbwynt y sefydliad Cymreig o'r enw Valle 16 de Octubre gan iddo gael ei sefydlu ar y 16eg o Hydref, 1888, yn yr ardal a alwai'r Cymry yn flaenorol yn "Cwm Hyfryd". Yn 1902, yn dilyn cystadleuaeth rhwng Ariannin a Chile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o Ariannin.

Mae Trevelín yn y rhan wlyb o Batagonia, er yn agos i ffin y rhan sych, gyda thymheredd o rhwng 10°C a 5°C ar gyfartaledd a llawer o eira yn y gaeaf.