[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Trevelin

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:11, 4 Mawrth 2013 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
Trevelin
Tref
Diwrnod o aeaf yn Nhrefelin
Diwrnod o aeaf yn Nhrefelin
GwladYr Ariannin
TalaithChubut
DosbarthFutaleufú
Poblogaeth
 • Cyfanswm6,395
Parth amserART (UTC-3)
Côd PostU9203
Côd deialu+54 2945

Mae Trevelin (weithiau Trefelín) yn dref gyda phoblogaeth o tua 5.000 yn nhalaith Chubut, Ariannin. Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a sefydlwyd gan John Daniel Evans yn 1889.

Trevelin yn y gaeaf

Trevelin oedd canolbwynt y gwladychiad Cymreig yng Nghwm Hyfryd. Enw Sbaeneg yr ardal yw Valle 16 de Octubre, gan iddo gael ei sefydlu ar y 16eg o Hydref, 1888. Yn 1902, yn dilyn anghydfod rhwng Ariannin a Chile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o'r Ariannin.

Mae Trevelín yn y rhan gwlyb o Batagonia. Ymhlith y mannau o ddiddordeb mae'r Museo Histórico Regional yn hen felin John Evans, a Museo Cartref Taid lle gellir gweld nifer o gelfi oedd yn perthyn i John Daniel Evans. Gerllaw, mae bedd ceffyl John Evans, Malacara, a achubodd ei fywyd trwy neidio i lawr dibyn serth pan ymosodwyd arno gan Indiaid.