Rhydweli
Gwedd
Rhydwelïau yw pibellau gwaed cyhyrol sy'n cario gwaed i ffwrdd o'r galon. Maent yn gweithredu'n groes i wythiennau, sy'n cario gwaed yn ôl at y galon.
Mae'r system cylchrediad gwaed yn bwysig iawn i gynnal bywyd. Ei brif swyddogaeth yw cario ocsigen a maeth i gelloedd yr organebau, cludo carbon deuocsid a chynhyrchion gwastraff i ffwrdd, cadw lefel pH i'r optimwm, a symud elfennau, proteinau a chelloedd y system imiwnedd.
Mae gan rydwelïau swydd bwysig yn rheoli pwysedd gwaed hefyd oherwydd maent yn ymateb i'r system nerfol sympathetig.