[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gush Shalom

Oddi ar Wicipedia
Gush Shalom
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
SylfaenyddUri Avnery Edit this on Wikidata
PencadlysHolon Edit this on Wikidata
Enw brodorolגוש שלום Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://zope.gush-shalom.org/index_en.html Edit this on Wikidata

Mudiad heddwch a hawliau dynol yn Israel yw Gush Shalom (Hebraeg, yn golygu "Y Cynghrair Heddwch"). Fe'i sefydlwyd gan Uri Avnery ac eraill yn 1993 fel mudiad heddwch radicalaidd heb berthyn i unrhyw blaid wleidyddol na chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth seneddol. Mae'n credu mewn "torri'r 'consensws cenedlaethol' a seilir ar gamwybodaeth" y llywodraeth a'r sefydliad.[1]

Mae'n ymgyrchu i ddylanwadu ar y farn gyhoeddus yn Israel er mwyn sefydlu heddwch parhaol rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid wedi'i sefydlu ar yr egwyddorion o:

  • Dod â meddiant Israel o'r tir Palesteinaidd a feddianwyd ers 1967 i ben.
  • Sefydlu ffin agored rhwng gwladwriaeth Israel a gwladwriaeth Palesteina newydd, wedi i'r tiroedd dan feddiant gael eu hadfer.
  • Sefydlu Jeriwsalem (Al-Quds) yn brifddinas i'r Israeliaid (Gorllewin Jeriwsalem) a'r Palesteiniaid (Dwyrain Jeriwsalem), dan un awdurdod dinesig unedig.
  • Derbyn hawl y ffoaduriaid Palesteinaidd i ddychwelyd os mynnent.
  • Sicrhau heddwch trwy gytundebau.
  • Ceisio sefydlu heddwch ehangach rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd a chreu cyngor rhanbarthol.[1]

Does dim aelodaeth fel y cyfryw. Yn ôl y mudiad ei hun mae yna "gnewyllyn neu gylch mewnol" o tua 100 o ymgyrchwyr gyda tua 600 eraill sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau. Yn ogystal mae yna gylch ehangach o bobl sy'n gweithredu'n achlysurol neu sy'n cefnogi'r mudiad.[1]

Mae ymgyrchoedd Gush Shalom yn cynnwys un i ryddhau carcharorion gwleidyddol Palesteinaidd yn Israel (tua 10,000 ohonynt) ac atal adeiladu rhagor o wladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol a lleoedd eraill.[1]

Mae'r mudiad wedi cael ei feirniadu'n hallt yn y wasg Israelaidd a gan wleidyddion y Sefydliad, ac mae ei aelodau wedi cael eu bygwth.

Mae'n galw ar i lywodraeth Israel gydnabod y llywodraeth Hamas yn Llain Gaza ac wedi cynnal nifer o brotestiadau yn erbyn yr ymosodiad presennol ar Gaza.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  • (Hebraeg) (Saesneg) Gwefan Gush Shalom (ar gael hefyd mewn Ffrangeg ac ieithoedd eraill hefyd)