Dolur annwyd
Gwedd
Ceir dolur annwyd o ganlyniad i wefus person gael ei heintio gan feirws o'r enw herpes simplex. Gall achosi swigod neu ddoluriau oddeutu'r geg.
Pan effeithir y wyneb cyfan gelwir y cyflwr yn "orofacial herpes"; a "herpetic stomatitis" pan effeithir y geg yn unig. Ystyr y gair Groeg "stomatitis" ydy ceg (stoma). Mae doluriau annwyd fel arfer yn gwella ar ôl tua tair wythnos ond mae'r feirws a achosodd y doluriau'n parhau yn y corff. Byw yn nerfau'r wyneb mae'r feirws hwn.
Gwellhad
Nid oes gwellad llwyr i'w gael rhagddo. Ond mae meddyginiaeth gwrthfeirws yn medru lleihau'r amser a lleihau'r nifer o weithiau mae'n codi i'r wyneb.
Meddygaeth amgen
Dywedir fod y llysiau canlynol yn help i leddfu'r boen: Bergamot, Saets y waun.