[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Cost

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Cost a ddiwygiwyd gan Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) am 21:12, 7 Awst 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Yn economeg, busnes, a chyfrifeg, cost yw gwerth y mewnbynnau sydd wedi cael eu dihysbyddu er mwyn cynhyrchu rhywbeth, ac sydd o'r herwydd ddim ar gael bellach.

Yn nhermau busnes, gallai cost fod yr hyn a werir i gael rhywbeth, ac os felly mae cyfanswm yr arian a werir yn cyfrif fel cost; yn yr achos hwn arian yw'r mewnbwn oedd yn rheidiol i gael y peth. Gall y gost hon, a elwir yn 'gost meddiannu', fod y cyfanswm o'r gost cynhyrchu gan y cynhyrchydd gwreiddiol, ynghyd â chostau ychwanegol a ddaw i ran y prynwr/meddiannwr yn ychwanegol i'r pris a delir i'r cynhyrchydd ei hun. Fel rheol, mae'r pris hwnnw yn cynnwys elw farcio i fyny dros ben y gost cynhyrchu.

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am cost
yn Wiciadur.