Arglwyddes Godiva
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uchelwraig Sacsonaidd o'r 11g oedd yr Arglwyddes Godiva (neu Godifa) (Hen Saesneg: Godiva, sef "Anrheg gan Dduw"); Saesneg Diweddar: Lady Godiva), yn ôl y chwedl. Mae'r chwedl amdani'n tarddu'n ôl i'r 13g ac yn ei disgrifio'n marchogaeth ceffyl drwy strydoedd Coventry yn noethlymun, er mwyn derbyn pardwn gan denantiaid ei gŵr am godi rhent a threthi mor aruchel. Dywed chwedl arall i'w gŵr ei hateb gan ddweud y byddai'n rhoi gostyngiad yn y trethi "y diwrnod y byddai hi'n marchogaeth drwy'r dref yn noeth". Cymherodd hi ef yn llythrennol, a gwnaeth hynny ond gorchmynodd i drigolion y dref gadw i'w tai a chau'r ffenestri rhag ei gweld yn noeth.
Mewn fersiwn diweddarach o'r chwedl hon y defnyddiwyd y gair "peeping Tom" (neu voyer) am deiliwr lleol o'r enw "Tom" a ddallwyd pan edrychodd arni'n noeth. Yn ei lyfr The Journey from Chester to London (Y Siwrnai o Gaer i Lundain) ysgrifennodd y naturiaethwr Cymreig Thomas Pennant (1726-1798) am y digwyddiad hwn: "...ac o ran cywreinrwydd, cymerodd y teiliwr gip sydyn arni, gan drechu ei ofnau." Roedd yn disgrifio'r prosesiwn, blynyddol, a dywedodd fod yr actores a gymerai ran Arglwyddes Godifa wedi'i dilladu mewn "sidan tynn, o liw croen".[1]
Ffigwr hanesyddol
[golygu | golygu cod]Gwraig i Leofric, Iarll Mersia oedd Godiva, ac roedd ganddynt un mab o'r enw Aelfgar.[3]
Ceir yr enw (mewn sawl sillafiad gwahanol) yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book): Godgifu neu Godgyfu ydy'r fersiynnau mwyaf cyffredin; Godiva yw'r ffurf Ladin. Ceir llawer o bobl gyda'r enwau hyn yn Llyfr Dydd y Farn.[4][5]
Er mwyn y chwedl, mae llawer yn ei chysylltu gyda pherson o'r un enw a ysgrifennwyd amdani yn Liber Eliensis sef hanes Abaty Ely a sgwennwyd yn y 12g. Dywed y llawysgrif honno iddi briodi Leofric pan oedd yn wraig weddw. Roedd y ddau'n hael eu rhoddion ar gyfer sefydlu abatai. Yn 1043 sefydlodd Leofric Abaty Benedictaidd yn Coventry.[6] ar dir hen leiandy a ddinistrwyd gan y Daniaid. Dywed awdur y llawysgrif (sef Roger o Wendover) mae Godiva oedd y tu ôl i hyn.
Yn 1656 ysgrifennodd William Dugdale y ceid ffenestr liw wedi'i chysegru i'r Arglwyddes Godiva yn Eglwys y Drindod, Coventry a oedd yn dyddio'n ôl i oes Rhisiart II, brenin Lloegr, sef diwedd y 14g. Tynnwyd y gwydr lliw'n ddarnau yn 1775. Dywed Dugdale ei bod yn marchogaeth ceffyl gwyn mewn gwisg felen a bod yn ei llaw dusw o flodau'r ddraenen ddu neu'r ddraenen wen.[7] Cysylltir y ddraenen gyda defodau paganaidd.
Cysylltiad paganaidd
[golygu | golygu cod]Yn ôl rhai haneswyr ceir elfenau o ddefodau cyn-Gristnogol yn y chwedl hon sy'n ymdebygu i'r ddefod Geltaidd o anrhydeddu un o forynion Calan Mai; defod yn ymwneud â frwythlondeb a dyfodiad y gwanwyn fyddai hon. Mae'n bosib fod cysylltiad yma â Rhiannon (neu Epona) sef duwies y ceffylau yn y Mabinogi. Epona oedd un o'r ychydig dduwiau Celtaidd roedd y Rhufeiniaid, hefyd, yn ei haddoli; ceir hefyd Macha yn ffigwr tebyg mewn chwedloniaeth Gwyddelig. Roedd llun ohoni ar ffenestr liw Eglwys y Drindod, Coventry (gweler uchod) hyd at 1775 ac roedd yn atgyfnerthu'r cysylltiad hwn. Am o leiaf tri chan mlynedd, yn ddi-dor, hyd at 1575, ceid prosesiwn i'w choffháu drwy Coventry; atgyfodwyd y prosesiwn hwn a pharheir i ethol 'Brenhines Fai' i gynrychioli Godiva o blith merched glasoed y dref. Yn ôl rhai (megis Janet a Stewart Farrar) mae geiriau'r rhigwm hynafol Saesneg Ride a cock horse to Banburry Cross / To see a fine Lady on a white horse... yn deillio'n ôl i'r un traddodiad Celtaidd. Mae ceffyl pren (neu'r “hobby horse” / “cock horse”) yn hen degan: sef ffon hir i'w osod rhwng y cluniau a phen ceffyl allan o bren; fe'i defnyddir hyd heddiw gan rai grwpiau o ddawnswyr gwerin e.e. dawnswyr Morris a gwisgir clychau ar y coesau fel yr arferwyd ei wneud gyda'r Fari Lwyd.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Paentiad olew gan Edmund Blair Leighton, 1892
-
Arglwyddes Godiva: cerflun gan John Thomas (1813–1862; o Chalford, Swydd Gaerloyw) a gedwir yn Amgueddfa Maidstone, Caint, Lloegr.
-
Golwg arall o'r cerflun yn Amgueddfa Maidstone.
-
Paentiad olew gan Marshall Claxton: Lady Godiva (1850), Amgueddfa Herbert, Coventry
-
Lady Godiva gan P. Pargetter, Amgueddfa Herbert
-
Cloc Mawr Broadgate, Coventry a wnaed yn y 1950au
Mewn diwylliant
[golygu | golygu cod]- Ysgrifennodd Alfred Tennyson gerdd amdani.
- Caiff ei henwi yn un o ganeuon y grŵp Queen: "Don't Stop Me Now" (1979), o'u halbwm Jazz a gyhoeddwyd ym 1978: "I'm a racing car / Passing by like Lady Godiva / I'm gonna go go go / There's no stopping me."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pennant, Thomas, The Journey from Chester to London 1811 edition, tud.190
- ↑ Douglas, Alton (1991). Coventry: A Century of News. Coventry Evening Telegraph. t. 62. ISBN 0-902464-36-1. Unknown parameter
|month=
ignored (help) - ↑ Patrick W. Montague-Smith Letters: Godiva's family tree The Times, 25 Ionawr 1983
- ↑ (Saesneg) Williams, Ann (Medi 2004). "Godgifu (d. 1067?)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/10873.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ "Lady Godiva, the book, and Washingborough", Lincolnshire Past and Present, 12 (1993), tud. 9–10.
- ↑ "Anglo-Saxons.net, S 1226". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-07. Cyrchwyd 2012-11-16.
- ↑ Dugdale, William (1656). Antiquities of Warwickshire. London.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhiannon
- Y Fari Lwyd
- Llygadu: neu voyeriaeth
- Godiva (siocledi)
- Ceffyl Gwyn Uffington