[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Mount Vernon

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Mount Vernon a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 16:11, 18 Ebrill 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Mount Vernon

Cartref teuluol George Washington, yn Virginia, Unol Daleithiau America, yw Mount Vernon, ar lan Afon Potomac fymryn i'r de o Washington, D.C..

Mae'r tŷ, ar yr ystâd sylweddol o'r un enw, yn adeilad newydd-glasurol Siorsaidd a godwyd gan dad George Washington yn 1741-1742. Symudodd y teulu iddo yn 1743. Mae'n adeilad pren dau lawr hardd sy'n nodweddiadol o dai mawr cefn gwlad y cyfnod yn nhaleithiau'r De.

Bu farw George Washington yno yn 1799. Mae Washington a'i wraig Martha wedi eu claddu ar ystâd Mount Vernon yn y beddrod teuluol.

Mae'r adeilad erbyn hyn yn gofeb genedlaethol.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]