iaith
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
Geirdarddiad
Cymraeg Canol ieith o'r Gelteg *jextis o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *i̯ek- ‘siarad’ a welir hefyd yn y Lladin iocus ‘dywediad; cellwair, ffraetheb’, yr Hen Almaeneg Uchel jehan ‘siarad, dweud, cyffesu’ a'r Tochareg A yask ‘galw, cardota’. Cymharer â'r Gernyweg yeth, y Llydaweg yezh a'r Gwyddeleg Canol icht ‘pobl, cenedl, tylwyth’.
Enw
iaith b (lluosog: ieithoedd)
- Y dull o gyfathrebiad dynol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn strwythur arbennig er mwyn cyfleu negeseuon.
Nodyn defnydd
- Ni ddylid dweud yr iaith Gymraeg/Saesneg/Ffrangeg a.y.b. am fod yr ôl-ddodiad -eg yn dangos mai iaith yw'r gair.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
- iaith ddifrïol
- ieithwedd
- ieithyddiaeth, ieitheg, ieithydd
- ieithyddol
- bratiaith
- yr iaith fain (Saesneg)
Cyfieithiadau
|
|