[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

geni

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɡɛnɪ/
  • yn y De: /ˈɡeːni/, /ˈɡɛni/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol geny ‘geni; esgor ar’ o'r Gelteg *gan-i̯o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ǵenh₁- ‘cenhedlu’ a welir hefyd yn y Lladin gignere ‘cenhedlu’, yr Hen Roeg geínomai (γείνομαι) ‘geni; cenhedlu’ a'r Sansgrit janati (जनति) ‘cenhedlu’. Cymharer â'r Gernyweg genys ‘ganedig’, y Llydaweg genel ‘geni; esgor ar’ a'r Hen Wyddeleg gainithir ‘genir’.

Berfenw

geni berf amhersonol (bôn: gan-)

  1. Cael genedigaeth, dod i'r byd drwy enedigaeth fel epil.

Nodyn defnydd

  • Mae'r Cymraeg llenyddol yn defnyddio'r ffurfiau amhersonol gyda gwrthrych: Ganwyd hi yn Lloegr
  • Mae'r Cymraeg llafar yn defnyddio'r cystrawen oddefol gyda cael: Cafodd hi ei geni yn Lloegr

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau