migwrn
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈmɪɡʊrn/
- yn y De: /ˈmiːɡʊrn/, /ˈmɪɡʊrn/
Geirdarddiad
Cyfansoddair o elfen gyntaf anhysbys a'r ail elfen *cwrn (fel yn asgwrn, llosgwrn). Cymharer â'r Gernyweg mygorn ‘cymal; migwrn bys’, y Llydaweg migorn ‘madruddyn; cartilag’ a'r Wyddeleg (taf.) mudharn ‘ffêr’.
Enw
migwrn g (lluosog: migyrnau)
- (anatomeg) Y cymal sy'n cysylltu'r droed gydag esgyrn y goes isaf, yn benodol y colyn-gymal yn cysylltu'r talws gyda'r tibia a'r ffibwla
- (anatomeg) Chwydd llyfndew dorsal ar gymal bys, yn enwedig un o'r cymalau sy'n cysylltu'r bysedd â'r llaw
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|