[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

rhoi

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:37, 23 Medi 2023 gan Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)

Cymraeg

Cynaniad

  • /r̥ɔi̯/

Geirdarddiad

  1. Cymraeg Canol roðy ‘rhoi (trosglwyddo)’ o'r Frythoneg *rroðọd o'r Gelteg *ɸro-dāti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *deh₃- ‘rhoi (trosglwyddo)’. Cymharer â'r Gernyweg r(e)i, y Llydaweg reiñ a'r Hen Wyddeleg do·rata (dib.) ‘mae wedi rhoi’.
  2. Cymraeg Canol rodif ‘rhoi (gosod)’ o'r Frythoneg *rroðid o'r Gelteg *ɸro-dīti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *dʰeh₁- ‘rhoi (gosod)’.

Berfenw

rhoi berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: rhodd-, yn llenyddol rhoi-)

  1. Trosglwyddo gwrthrych i feddiant rhywun arall yn rhad ac am ddim.
  2. Amcangyfrif neu ddarogan (amser neu debygolrwydd rhywbeth).
    Byddaf yn rhoi deg munud iddo gyrraedd ac yna rwyn gadael.
  3. Gosod rhywbeth mewn man penodol.
    Roeddwn i wedi rhoi'r arian ar y ddesg.

Amrywiadau

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau