Enwi’r Ferch
gan Dafydd ab Edmwnd
- Gwrid mawr o gariad morwyn
- y sydd nos a dydd i’m dwyn;
- caru gwen fwnwgl hirwyn
- heb wybod oll i bob dyn.
- Y mae gwin im o’i genau,
- y mae gwên hon i’m gwanhau.
- Be rhôn bob awr i’w henwi
- nid oes dyn a’i hedwyn hi.
- Annes unwaith a enwaf,
- amod ag emod a gaf
- ar ddyn dda ei llun a’I lliw;
- ond odod emod ydyw.
- Gwenhwfar feddylgar fwyn,
- Gwladus a’r gwefus ryfwyn,
- Catrin, Gwenllian annerch,
- Cari, Mallt, cywira merch,
- Lleucu lliw briallu bron,
- Lowri dan wiail irion;
- Mwyn yw cusan Myfanwy,
- marfol iawn am Weirful wy;
- mae cred Margared imi,
- rhuddaur pell im ei rhodd hi.
- Curo’r grudd, cywiro’r gred,
- caru cusanu Sioned;
- gwyllt isel yw fy ngolwg,
- gorwedd â m Tegedd a’m dwg.
- Gwan wyf, y mae gwayw yn fy iad,
- mwy yw ‘nghur am Angharad.
- Mae saeth yn ei mynwes hir
- Yn oes tanw nis tynnir.
- Seren dan y cyrs eurwallt,
- selu rwy’ Alswn I allt.
- Mae meillion gwynion mewn gwydd,
- Mae ir fedw im a Morfudd.
- Alis, Isabel, Elen
- Efa, Nest fy nyn wen.
- Y mae hyn wedi ei henwi,
- ac un hyn, gwen yw hi.