Graddfa Kinsey
Bwriad Graddfa Kinsey yw i ddisgrifio hanes rhywiol unigolyn neu benodau o'i weithgarwch rhywiol ar adeg benodol. Defnyddir graddfa o 0 (yn hollol heterorywiol) i 6 (yn hollol gyfunrywiol). Caiff ei chamddefnyddio'n aml i raddio cyfeiriadedd rhywiol, yn enwedig deurywioldeb, yn nhermau unrhywioldeb. Yn Adroddiadau Kinsey, defnyddiwyd gradd ychwanegol ar gyfer anrhywioldeb. Cyhoeddwyd y syniadau yn gyntaf yn Sexual Behavior in the Human Male (1948) gan Alfred Kinsey, Wardell Pomeroy ac eraill, ac roedd hefyd yn thema bwysig yn y gwaith ategol Sexual Behavior in the Human Female (1953).
Wrth gyflwyno'r raddfa, ysgrifennodd Kinsey:
"Nid yw gwrywod yn cynrychioli dwy boblogaeth arwahanol, heterorywiol a chyfunrywiol. Nid yw'r byd i'w rannu'n ddefaid a geifr. Un o egwyddorion sylfaenol tacsonomeg yw mai prin y mae natur yn rhannu pethau yn gategorïau arwahanol... Un continwwm yw pob agwedd ar y byd byw.
Er ein bod yn pwysleisio bod dilyniant o raddiadau rhwng bod yn hollol heterorywiol ac yn hollol gyfunrywiol, teimlwn y byddai'n ddymunol datblygu rhyw fath o ddosbarthiad y gellir ei seilio ar y symiau cymharol o brofiad neu ymateb heterorywiol a chyfunrywiol ym mhob achos... Gellir rhoi unigolyn ar safle arbennig ar y raddfa hon, am bob cyfnod yn ei fywyd.... Graddfa 7-pwynt sy'n dod agosaf at ddangos y nifer o raddiadau sy'n bodoli mewn gwirionedd." (Kinsey ac eraill (1948), tt.639, 656)
Mae'r raddfa fel a ganlyn:
Safle | Disgrifiad |
---|---|
0 | Yn hollol heterorywiol |
1 | Heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol |
2 | Heterorywiol yn bennaf, ond yn gyfunrywiol yn fwy nag achlysurol |
3 | Heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd |
4 | Cyfunrywiol yn bennaf, ond yn heterorywiol yn fwy nag achlysurol |
5 | Cyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol |
6 | Yn hollol gyfunrywiol |
X | Anrhywiol |
Darganfyddiadau
golyguAdroddiadau Kinsey
golygu- Prif: Adroddiadau Kinsey
- Dynion: rhoddwyd safle 3 i 11.6% o wrywod gwyn 20-35 oed ar gyfer y cyfnod hwn yn eu bywydau.[1]
- Menywod: Rhoddwyd safle 3 i 7% o fenywod sengl 20-35 oed a 4% o fenywod 20-35 oed a fu'n briod am y cyfnod hwn yn eu bywydau.[2] Rhoddwyd safle 5 i 2–6% o fenywod 20-35 oed,[3] a rhoddwyd safle 6 i 1–3% o fenywod dibriod 20-35 oed.[4]
Problemau gyda'r raddfa
golyguMae nifer o broblemau wedi eu nodi gyda Graddfa Kinsey. Un feirniadaeth yw'r cwestiwn a yw pob safle ond am 0 a 6 yn ddeurywiol, neu ydy 1 a 6, er enghraifft, yn cael eu hystyried yn heterorywiol a chyfunrywiol? Beirniadaeth arall yw'r ffaith ei bod yn dibynnu ar brofiad rhywiol yn unig: nid oes gan wyryfon safle ar y raddfa, ac mae unigolion sydd wedi cael dim ond un brofiad rhywiol yn derbyn safle o naill ai 0 neu 6 yn syth. Oherwydd bydd safleoedd nifer o bobl ar Raddfa Kinsey yn newid yn ystod eu bywydau, dywed rhai bod natur gamarweiniol dynodiadau cychwynnol yn tanseilio cywirdeb y raddfa.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kinsey, ac eraill 1948. Sexual Behavior in the Human Male, Tabl 147, tud. 651
- ↑ Kinsey, ac eraill 1953. Sexual Behavior in the Human Female, Tabl 142, tud. 499
- ↑ Ibid, tud. 488
- ↑ Ibid, Tabl 142, tud. 499, a tud. 474
- ↑ (Saesneg) The Kinsey Scale. BBC h2g2. Adalwyd ar 12 Ionawr, 2008.
Gweler hefyd
golyguDolen allanol
golygu- (Saesneg) Sefydliad Kinsey – Graddfa Kinsey