[go: up one dir, main page]

Y Redwig

pentref yng Nghasnewydd

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd, Cymru, yw Y Redwig[1] neu Redwick.[2] Saif yng ne-ddwyrain y sir, gerllaw aber afon Hafren. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 194.

Y Redwig
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth206, 212 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,199.7 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5528°N 2.8365°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000828 Edit this on Wikidata
Cod OSST421841 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r eglwys, sef Eglwys Sant Thomas, yn adeilad nodedig, "gyda'r harddaf o eglwysi Gwastadeddau Gwent" yn ôl Gwyddoniadur Cymru, ac mae'r ffenestr ddwyrieiniol yn enghraiift nodedig o'r arddull addurnedig. Mae rhai o'r clychau yn dyddio i tua 1380, a'r bedyddfaen o'r 13g.

Cafwyd hyd i olion adeiladau o Oes yr Efydd ar y traeth gerllaw'r Redwig; pedwar adeilad hirsgwar. Credir eu bod yn arwydd o weithgareddau tymhorol ger y traeth, efallai dod ag anifeiliaid yno i bori.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Redwig (pob oed) (206)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Redwig) (19)
  
9.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Redwig) (156)
  
75.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Redwig) (23)
  
28.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]