William Ambrose (Emrys)
Gweinidog a bardd Cymraeg oedd William Ambrose, a ddefnyddiai'r enw barddol Emrys (1 Awst 1813 - 31 Hydref 1873).
William Ambrose | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1813 Bangor |
Bu farw | 31 Hydref 1873 Porthmadog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguGaned Emrys ym Mangor, Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn fab i John ac Elizabeth Ambrose[1] ac addysgwyd ef yn Ysgol Friars yno ac yng Nghaergybi. Bu'n brentis dilledydd yn Lerpwl am gyfnod, gan ymuno a'r Annibynwyr yno. Aeth i Lundain yn 1834. yn 1837 daeth yn weinidog eglwys annibynnol Porthmadog, a bu yno hyd ei farwolaeth.
Bu farw ym Mhorthmadog 31 Hydref 1873 a chladdwyd ef ym mynwent Capel Helyg, Llangybi. Adeiladwyd Capel Coffa iddo ym Mhorthmadog yn 1879.
Bardd a llenor
golyguBu'n cystadlu llawer mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849, enillodd Morris Williams (Nicander) y Gadair am ei awdl Y Greadigaeth, ond bu helynt am fod un o'r beirniaid, Eben Fardd, eisiau rhoi'r wobr i awdl Emrys.
Ysgrifennodd nifer o emynau poblogaidd, mae pedwar enghraifft o'i gwaith i'w gweld yn Caneuon Ffydd gan gynnwys ei emyn:
- Arglwydd gad i'm dawel orffwys
- Dan gysgodau'r palmwydd clyd
- Lle yr eistedd pererinion
- Ar eu ffordd i'r nefol fyd,
- Lle'r adroddant dy ffyddlondeb
- Iddynt yn yr anial cras
- Nes anghofio'u cyfyngderau
- Wrth foliannu nerth dy ras [2]
Bu'n cyd olygydd cylchgrawn Y Dysgedydd o 1853 i 1873 [3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ AMBROSE , WILLIAM yn y Bywgraffiadur ar lein adalwyd Hydref 31 2014
- ↑ Caneuon Ffydd, Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Gwasg Gomer 2001 ISBN 1903754003
- ↑ Ambrose, William yn Eminent Welshmen t 10 adalwyd Hydref 31 2014
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Gweithiau y Parch. W. Ambrose (1875)
- Gweithiau Rhyddieithol y Parch. William Ambrose, Porthmadog (1876)
- Ceinion Emrys (1876). Cerddi.
- William Ambrose yn Y Bywgraffiadur Cymreig