Wicipedia:Y Caffi/archif/22
WICIPOP!
golyguHelo pawb! Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 3 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth a'r diwylliant pop Cymraeg.
Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd. Felly ymunwch a phrosiect Wicipop nawr a helpu ni creu cofnod manwl o’r sin pop yng Nghymru. Ionawr 2017 Jason LlGC.
Search Engine Integration of the ArticlePlaceholder
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
Lluniau o bandiau Cymraeg
golyguMae dros 200 o ffotograffau o fandiau Cymraeg wedi ychwanegu i Gomin, felly nawr yw'r amser perffaith i wella neu greu erthyglau am y sin cerddoriaeth yn Gymru. Gweler tudalen Prosiect Wicipop am ragor o fanylion. Jason.nlw (sgwrs) 12:21, 31 Ionawr 2017 (UTC)
- Dw i newydd uwchlwytho chydig o luniau o'r ddwy golygathon: Aberystwyth a Bangor.
-
Aberystwyth
-
Aberystwyth
-
Aberystwyth
-
Bangor
-
Bangor
-
Bangor
Diolch i Jason am drefnu! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:42, 25 Chwefror 2017 (UTC)
Cynnig polisi i atgyfnerthu'r cydbwysedd rhyw
golyguMae ein Polisiau i'w gweld ar Wicipedia:Polisïau a chanllawiau. Carwn gynnig ychwanegiad, sef ein bod yn argymell yn gryf y dylai unrhyw Ddefnyddiwr sy'n creu bywgraffiad o berson gwrywaidd hefyd greu un ar fenyw. Bu un golygydd (di-Gymraeg) yn ychwanegu llawer o fywgraffiadau'n ddiweddar ar chwaraewyr pel-droed o Japan. Dydw i ddim yn meddwl fod yma ymgais i ddileu ein cydbwysedd (o ran rhyw) on fe allai rhywun wneud hynny, oni bai fod gennym gonsensws barn, adeiladol sy'n annog erthyglau benywaidd. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:14, 1 Chwefror 2017 (UTC)
- Syniad da OND mae rhaid i ni fod yn ofalus iawn ar rhan geiriad. Mae na llawer o bethau yw ystyried. Er enghraifft, un o'r prif resymau nid oes mwy o erthyglau am fenywod yw prinder gwybodaeth, yn enwedig gyda phobol hanesyddol, felly mae'n bosib bydd sefyllfa yn codi ble mae pobl yn dewis i beidio ysgrifennu erthyglau am dynion oherwydd bod e'n rhu anodd i ddod o hyd i wybodaeth am fenyw neu fenywod. Hefyd os wyt ti'n creu rheolau du a gwyn am ryw, beth am leiafrifoedd ethnig ayyb.
- Os ydw i'n cynnal Golygathon Celf a Ffeministiaeth wyt ti'n gallu dychmygu fi'n mynnu bod nhw gyd yn creu erthyglau am dynion!?
- Fi'n credu bod e’n syniad da cael polisi sydd yn awgrymu ymarfer gorau ond nid un sydd yn cosbi pobol am beidio cyfrannu erthyglau nai llai am dynion neu fenywod. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:02, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- 'Argymell' oedd y gair, cofia, nid gorchymyn; ond, efallai mai cyfeirio at olygyddion sy'n creu swp o erthyglau ddylen ni, nid un neu ddau. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:20, 9 Chwefror 2017 (UTC)
Rwy’n ceisio creu byr fywgraffiad am bob AS Cymreig a phawb sy’n cael ei grybwyll yn llyfr Asa Briggs 20th Century Biograph. Mae’r rhan fwyaf yn ddynion. Rhaid derbyn mae hanes dynoliaeth, yw Dynoliaeth. Hawdd yw cael cyfartaledd ar Wici Bach; ond er lles yr iaith rhaid inni droi ein safwe yn Wici Mawr, mae’n rhaid derbyn nad yw’r 50/50 yn gynaliadwy. I wish it was not so Joe, ond rhaid byw efo ffeithiau hanes mewn gwyddoniadur, mae gan hanes bias o blaid dynion! AlwynapHuw (sgwrs) 04:21, 27 Medi 2017 (UTC)
- Hyn yn wir Alwyn. Ysywaeth. Celtica (sgwrs) 10:37, 27 Medi 2017 (UTC)
Readership survey
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
Erthyglau bychan Wicipop
golyguHelo pawb, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r prosiect hyd at hyn. Ni bron wedi cyrraedd 100 o erthyglau newydd yn barod! Fi wedi bod yn gweithio, efo gwybodaeth o Wicidata i greu nifer o erthyglau bychan i lwytho mewn batsh (efo AutoWikiBrowser). Bydd jyst llau na chant o erthyglau i gyd a'r cwbl am gantorion a bandiau o Gymru. Ond cyn i fi llwytho nhw i gyd hoffwn i sieco bod pawb yn hapus efo safon yr erthyglau. Mae gen i ddwy enghraifft sef Zervas and Pepper a Gwyneth Jones. Chwarae teg i @John Jones: sydd wedi ychwanegu brawddeg fach iddyn nhw'n barod ond mae'n amlwg beth sydd wedi llwytho yn y lle cyntaf. Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 16:17, 8 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n rhaid i mi ddweud - dwi ddim yn hoffi y bwydo data ma o Wicidata o gwbl. Mae nhw'n gwneud y tudalennau yn anwadal ac anghyfeillgar, heb sôn am y ffaith fod y rhestr Wicidata o fewn cynnwys y dudalen, sy'n drysu y golygydd anghyfarwydd neu achlysurol. Mae'n mynd yn groes i batrymau datblygu meddalwedd ac yn teimlo fel 'hac' i fi. Os oedd y chwiliad sparql yn cael ei wneud 'ar y pryd' fe fyddai'n gwneud fwy o synnwyr, neu greu Nodyn/Modiwl fyddai'n gwneud yr un gwaith drwy basio paramedrau i'r nodyn.
- Mae yna le pendant i Wicidata o ran cofnodi gwybodaeth strwythuredig a fyddai'n ymddangos mewn gwybodlenni neu ddata sy'n gyffredin e.e. o'n i'n pendroni os oedd modd rhoi gwybodaeth am recordiau fewn i Wicidata er mwyn adeiladu tablau Disgyddiaeth ar gyfer bandiau yn hawdd, ond dwi ddim yn meddwl fod neb yn gwneud.
- Os ydw i'n darllen tudalen am bwnc A neu berson B, dwi ddim eisiau gweld rhestr faith o bobl yn yr un maes. Os ydyn nhw'n ddigon pwysig i'w nodi, dylen nhw godi yn naturiol yn y testun gyda esboniad a dolenni e.e. cydweithwyr, cyfeillion, cyd-aelodau band. Fel mae nhw ar hyn o bryd mae'r rhestrau yn smonach o dudalennau Wicipedia heb ychwanegu dim o werth. Dyna fy 2c beth bynnag. --Dafyddt (sgwrs) 16:43, 8 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch am eich ymateb Dafydd. Fi'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd ar y mater yma. Mae rhaid i fi ddweud o'r cychwyn bod fi'n gweld data yn allweddol i ddyfodol y Wici Cymraeg, OND mae rhaid i ni ei defnyddio yn y ffordd iawn, a hefyd mae rhaid i ni fod yn ofalus i annog golygyddion profiadol a newydd i barhau i greu cynnwys ar law. Fi ddim eisiau gweld miloedd o erthyglau data newydd os mae'n golygu bod golygyddion yn colli diddordeb. Mae angen tyfi gymunedau o ddefnyddwyr a golygyddion ar y cyd efo unrhyw waith i greu cynnwys gyda bots. Ar y llaw arall mae creu cynnwys o ddata yn ffordd arbennig i greu llawer o erthyglau newydd gydag adnoddau prin. Y peth pwysicaf yn fy marn i yw rhoi mynediad mwy o wybodaeth trwy'r Gymraeg, ac mae'r erthyglau bach yma yn nodi ffeithiau pwysig am yr unigolion/bandiau, ac mae rhoi mynediad i'r wybodaeth yna yn fwy pwysig na'r posibiliad i ddrysu golygyddion efo còd anarferol. Fi'n credu hefyd bod e'n bwysig gweld yr erthyglau yma fel 'stubs' - fel man cychwyn, gyda'r gobaith bydda nhw'n ddigon o annog pobl i ychwanegu mwy.
- Gyda'r lists fi yn cytuno bod nhw ddim yn berffaith ond eto maen nhw'n annog pobl i edrych ar gynnwys tebyg sydd ond yn beth da. Fi'n gweithio ar ail batsh o erthyglau am fandiau mawr y byd a fi'n datblygu lists sydd yn dangos Disgyddiaeth fyw gan ddefnyddio Wikidata, ar gyfer pob un o'r erthyglau, fel wyt ti wedi disgrifio.
- Mae'r Llywodraeth wedi gofyn i ni edrych ar y posibiliadau ar ran awtomeiddio creu cynnwys fel rhan o brosiect Wicipop, felly ni dal yn dysgu beth sy'n gweithio a beth sydd ddim a byddwn yn adrodd ar unrhyw bryderon y gymuned.
- Allan o ddiddordeb, wyt ti'n meddwl bod e'n well os ni'n cyhoeddi’r erthyglau yma heb y rhestrau o artistiaid/bandiau tebyg?
- Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad i'r Prosiect Wicipop hyd at hyn, ti wedi creu nifer o erthyglau gwych! Hwyl am y tro, Jason.nlw (sgwrs) 10:53, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'r erthyglau'n edrych yn wych Jason! Prosiect cynhyrfus iawn! Dw i'n hoffi'r rhestrau - yn enwedig pan fo na luniau arnyn nhw! Ond efallai fod isio llai ar y rhestr na sydd ar y merched arlunwyr na. Ma gormod yn slofi pethe lawr. Os dwi'n dallt Dafydd, mae'n son am roi'r tabl mewn rapper Nodyn/Modiwl? Basa hyn yn gwneud golygu (gan rywun newydd) yn lot haws. Dafydd - fedri di wneud enghraifft - a paid a rhoi mwy na ryw 50 yn y tabl, neu mae'n ornmod i'r llygad (a'r cyflymder)? Ond yn gyffredinol - da iawn wir! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:45, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Sut mae hwnna'n edrych? (gweler Zervas and Pepper). '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:50, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Waw! Mae hwnna'n edrych llawer well. Bydd modd llwytho'r erthyglau fel hyn? neu addasu batsh o erthyglau i ymddangos fel hyn? Diolch Jason.nlw (sgwrs) 10:56, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Ydi mae hwn yn ddatrysiad gwell, diolch i chi. Mae'n siwr fod ffordd llawer clyfrach o greu un nodyn byddai'n gweithio i bopeth, drwy basio paramedrau, ond nid fi yw'r person i ddatblygu hwnna, ar hyn o bryd beth bynnag. Er dwi ddim wedi fy argyhoeddi o gwbl fod y rhestrau yn ddefnyddiol. Onid dyma bwynt categoriau? Gellid creu categori 'Bandiau roc gwerin' o fewn 'Bandiau Cymreig' (a'r un peth gyda 'Bandiau yn ôl tarddiad' a 'Bandiau ar label Zerodeo') a wedyn byddai er enghraifft categori 'Bandiau roc gwerin' yn dangos rhestr syml o artistiaid perthnasol. Mae'r rhestrau i fi yn edrych fel ymgais i greu 'llawnder' mewn erthyglau egin ond mae 90% o'r wybodaeth yno yn amherthnasol (fel darllennydd a rhywun fyddai a diddordeb mewn cysylltiadau). Y ffordd wnes i hyn ar Curiad oedd cael 'Artistiaid Cysylltiedig' e.e. dyma gofnod Geraint Griffiths a mae'n bosib clicio a dilyn cysylltiadau fel hyn yn rhwydd. --Dafyddt (sgwrs) 12:52, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Sut mae hwnna'n edrych? (gweler Zervas and Pepper). '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:50, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- @Cell Danwydd, AlwynapHuw: Dw i'n deall dadl Dafydd, o ddefnyddio ffon, ond gan mai ar gyfrifiadur y bydda i'n syrffio, dydy'r rhestrau rioed wedi bod yn broblem! Ond, mae creu Nodyn fel yna'n gyfaddawd, mae'n debyg (Diolch John!) Gyda llaw, dw i wedi lleihau'r rhestri ar arlunwyr/botanegwyr (tua 4,000) - ac yn sicr mae nhw'n edrych llawer gwell hefyd! Ac mae tua 3,000 ar ol, pan ga i amser! Dyddiau nesaf gobeithio! Diolch Jason am ysbrydoli'r prosiect yma - a phawb sy'n cyfrannu! Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:44, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Peidiwch da chi a newid y tablau ar dudalennau'r rhywogaethau - does naddim byd tebyg genymni ar wefan Llên Natur! Nac yn unman arall ar y we yn Gymraeg! Byddai'n amhosib gwybod pa enw i glicio arno os mai rhestr fawr o enwau sydd yno! Dydy'r darllenydd ddim yn mynd i wbod be ydy enw genera'r / teulu yr aderyn mae'n chwilio amdano siwr iawn! Ddim y rhan fwyaf o ddarllenwyr, bid siwr! OK mae enw band pop, neu berson yn addas, a chategori'n addas ar gyfer y rheiny weithiau, ond efo rhywogaethau, mae'r llun yn dweud llawer iawn mwy na gair! A hyd yn oed gyda grwpiau a bandiau, onid ydy hi'n haws nabod nhw efo llun, pan fo'r darllenydd yn ansicr o'r enw?! Lot o luniau i mi, bob tro! Os gwelwch yn dda! Cell Danwydd (sgwrs) 13:40, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Yn hytrach na chael rhestr hirfaith ar dudalennau pob creadur unigol, pam na jyst creu UN tudalen gyda rhestr o bob aderyn ymhob rhywogaeth/teulu a creu dolen amlwg i hwnnw? Holl bwynt Wici a'r we yw creu dolenni yn hytrach na dyblygu gwybodaeth ymhobman. --Dafyddt (sgwrs) 15:11, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Peidiwch da chi a newid y tablau ar dudalennau'r rhywogaethau - does naddim byd tebyg genymni ar wefan Llên Natur! Nac yn unman arall ar y we yn Gymraeg! Byddai'n amhosib gwybod pa enw i glicio arno os mai rhestr fawr o enwau sydd yno! Dydy'r darllenydd ddim yn mynd i wbod be ydy enw genera'r / teulu yr aderyn mae'n chwilio amdano siwr iawn! Ddim y rhan fwyaf o ddarllenwyr, bid siwr! OK mae enw band pop, neu berson yn addas, a chategori'n addas ar gyfer y rheiny weithiau, ond efo rhywogaethau, mae'r llun yn dweud llawer iawn mwy na gair! A hyd yn oed gyda grwpiau a bandiau, onid ydy hi'n haws nabod nhw efo llun, pan fo'r darllenydd yn ansicr o'r enw?! Lot o luniau i mi, bob tro! Os gwelwch yn dda! Cell Danwydd (sgwrs) 13:40, 9 Chwefror 2017 (UTC)
Crewyd tabl gan Defnyddiwr:Llywelyn2000 y bore ma ar dudalen y sant teilo, sy'n unigryw i'r dudalen honno. Yn fy marn i mae o'n llawer gwell na'r rhes o luniau uwch ei ben. Un mater arall, dwi'n credu sydd angen ei ddweud ydy fody wybodaeth yn dod yn fyw o Wikidiata, ac felly'n fyw ac yn gyfoes. Mae hwn yn mynd i fod yn ffordd dda i sicrhau nad nad oes na gwybodaeth 'out of date' ar wici. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:26, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch John! Ac mae gwaith Cell Danwydd uchod hefyd wedi bod yn ddiflino efo'r rhywogaethau! Bril gweld Jason wrthi efo'r Wicipop ma, ac yn dod a Wicidata (WD) i fewn yfmi; yn sicr mae nhw'n 'maen nhw'n annog pobl i edrych ar gynnwys tebyg'! Welai chi yn Aber ddydd Sadwrn! Mae Dafydd (uchod) yn annog 'tablau Disgyddiaeth', a dw i'n falch o weld fod hwnnw ar y gweill gan Jason. Rhaid i ni gofio un peth: mae'r Wicipedia Cymraeg yn cael ei weld ar hyn o bryd fel Y wici sy'n torri tir newydd - yn llygad y bvyd - yn enwedig gyda WD. Golyga hyn, dwi'n siwr y gwnawn ni fethu pob tro, ond mae blaengaredd yn beth da, a'n blaengaredd ni gyda WD yn cael ei gydnabod drwy'r byd. Soniodd Jura1 yn ddiweddar am hyn ac mae Magnus hefyd wedi ein rhoi ar bedestal. Rhoddwyd cod a oedd yn galluogi 1500 o luniau ychwanegol i'r 7,000 sydd gan y Bywiadur, ac mae'r cwbwl yn dod o Comin via WD! Yr unig air sydd yn fy meddwl i ydy... ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:19, 14 Chwefror 2017 (UTC)
Cyfeiriadaeth a ffynonellau
golyguPwysicach na fformat y wybodaeth sy'n mynd ar Wicipedia ydy geirwirdeb y wybodaeth. Mae enwici wedi dod a pholisi newydd i rym heddiw sy'n atal eu golygyddion rhag defnyddio'r Daily Mail fel cyfeiriadaeth a ffynonellau oherwydd: "The general themes of the support... centred on the Daily Mail's reputation for poor fact checking, sensationalism, and flat-out fabrication." Dyma'r erthygl yn yr Independent. Dw i'n bersonol yn gwbwl gefnogol i hyn; beth yw eich barn? Cofiwch y gallem ni ar wici greu unrhyw reol y dymunem, ehangu'r nifer y papurau, ychwanegu'r BBC neu sianeli/cyrff eraill, neu wneud dim, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n siwr fod hyn yn broblem sylweddol ar enwiki oherwydd ei brysurdeb. Dwi'n cymryd bydd bot yn goruwchwylio unrhyw gyfeiriadau at y DM. Anaml dwi'n gweld ffynhonnell DM fan hyn heblaw fod ei wedi gopio o enwiki. Beth sy'n fwy o broblem dwi'n meddwl yw ffeithiau dadleuadwy neu amheus heb ffynhonnell o gwbl. O leia os oes ffynhonnell mae'n bosib i rywun arall ddarllen y testun gwreiddiol, ei wirio drwy ffynhonnell arall a phenderfynu os yw'n dderbyniol. Mae yna lawer iawn o wefannau newyddion tabloid lle mae barn/tuedd yn lliwio natur y ffeithiau ond sydd hefyd yn cynnwys ffeithiau moel. Hefyd y dyddiau 'ma mae na lawer iawn o wefannau/blogiau 'newyddion' sy'n ailgylchu cynnwys o ffynonellau arall ac aralleirio - ond mi fyddai'n nhw rhy niferus i'w rhestru. Dwi'n credu bod angen cymryd pob ffynhonnell gyda phinsiad o halen, ei wirio drwy ail ffynhonnell annibynnol (nid stori wedi ei ail-bobi). Mae hyn yn cymryd amser/ymdrech i olygyddion i wneud a mae yna lawer o wybodaeth werthfawr ar cywiki heb ffynhonnell ond yn dibynnu ar gof/profiad unigolyn. Dwi'n euog o hyn fy hun er mod i'n ceisio dod o hyd i ffynhonnell lle mae'n bosib.
- Yn rhesymegol, o wahardd un ffynhonnell rhaid gwahardd pob cyfraniad heb ffynhonnell, achos gallai unrhywun ychwanegu ffeithiau o'r DM neu unrhyw le arall heb nodi'r ffynhonnell. A felly mae'n dod nol unwaith eto ar olygyddion yn cadw golwg ar gyfraniadau newydd, yn enwedig lle mae ffeithiau dadleuol neu dueddol. --Dafyddt (sgwrs) 18:21, 9 Chwefror 2017 (UTC)
- Be sydd gennym ar hyn o bryd? Dyma rai dyfyniadau/sylwadau a all helpu'r drafodaeth:
- Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau) - fe 'ddilëir ffeithiau neu erthyglau gydag elfennau dadleuol sydd heb ffynonellau'.
- Wicipedia:Erthyglau dethol - 'Rhoddir mwy o werth ar ffynonellau gwreiddiol, megis hunangofiant, nac ar rai ail-law, megis gwyddoniadur arall. Lle nad yw ffynhonnell y darpar erthygl ddethol wedi ei nodi gellir holi i'r cyfrannwr gwreiddiol am gyfeiriadau.' a 'Dylai erthygl ddethol: fod yn ffeithiol gywir, gyfeirio at o leiaf un ffynhonnell.'
- Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs - 'Dylai golygwyr ddileu unrhyw sylwadau negyddol am bobl byw sydd naill ai heb ffynhonnell, yn dibynnu ar ffynonellau annibynadwy neu sydd yn ddehongliad personol o ffynhonnell.' a
- Wicipedia:Pum Colofn - mae colofn un a dau'n cyfeirio at 'ffynonellau' a phwysigrwydd 'ffynonellau dibynadwy', ond nid yw'n diffinio enu'n rhestru bes sydd yn ffynhonell ddibynadwy.
- Mae dafydd wedi nodi'r geiriau allweddol: 'dadleuadwy neu amheus'. Dyna'r adeg mae ffynhonnell ddibynadwy yn bwysig. Ond y cwestiwn yma, mewn gwirionedd ydy nid pa bryd i'w defnyddio, ond pa gyfeiriad, ac o ba ffynhonnell? Dyfynu'r gwreiddiol, nid dyfynu dyfyniad! Mae Dafydd hefyd yn son am bwysigrwydd ffynhonnell cynradd, nid eilradd ac mae ein paryh trafod 'Wicipedia' yn cynnwys trafodaethau ar hyn. Fel mae'r uchod yn dangos, does dim raid (ar hyn o bryd) i Wicipedia Cymraeg gael ffynhonnell ym mhob erthygl; dim ond ar erthyglau lle ceir barn / datganiad 'dadleuadwy neu amheus'. Ond pan fo angen cyfeiriad, y cwestiwn ydy: cyfeiriad o ble? Beth sy'n ddibynadwy? Dw i'n meddwl y dylid cadw'r drafodaeth yma i'r cwestiwn yma'n unig neu mi eith i bobman! Yn bersonnol, dw i'n credu y dylem greu polisi 'Wicipedia:Ffynhonnell dibynadwy' ar ddiwedd hyn - mae'n hen bryd ei chael!
- O fy rhan fy hun, a dw i ddim yn meddwl i mi erioed ddefnyddio cyfeiriad o dabloid) - dylem ymwrthod rhag gyfeiriadaeth o dabloids. Pob un. At hyn, efallai dylem gynnig ail ran 'Gofal / Canllaw' neu beth bynnag yn awgymu wrth greu cyfeiriadau o fannau eraill ee Radio Cymru neu'r Times. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:49, 9 Chwefror 2017 (UTC)
Rwy'n anghytuno a'r safiad. Rwy'n casáu'r Mail, yr Express y Sun a phapurau tabloid eraill am y ffordd y maent yn cyflyru casineb, hiliaeth, gwrth Cymreictod ac ati, ond mae dweud nad ydynt BYTH yn ffynhonnell ddibynadwy yn ffôl.
- Ar ba ddiwrnod bu farw gwrthrych erthygl? Lle fu'r cynhebrwng? Faint o blant oedd ganddo? Pryd cafodd ei ethol/dethol /penodi? Mae'r fath ffeithiau mor debygol o fod yn gywir yn y Daily Mail ac ydynt mewn unrhyw gyhoeddiad arall.
- Be oedd sgôr gêm pêl droed Dinas Manceinion v Abertawe Sadwrn Diwethaf? Rwy'n gwbl sicr bod erthyglau yn y papurau tabloid câs yn rhoi ffynhonnell gwbl ddibynadwy i'r ateb.
- Mae gwefan Papurau Cymru, LlGC yn ffynhonnell ar sawl erthygl ar ein Wici. Roedd papurau Cymraeg a Chymreig y 19eg ganrif yn uffernol o dueddol; rhai yn cefnogi'r Torïaid a rhai yn mawrygu'r Rhyddfrydwyr. Mae modd chwynnu erthyglau i greu bywgraffiad teg a diduedd o berson unigryw-unigryw".
- Yn wleidyddol mi fyddwn yn hapus i drio osgoi danfon "clicbate" i safwe'r Mail, a cheisio ffynhonnell amgen, ond gadael fy nhuedd wleidyddol effeithio ar fy erthygl byddai hynny, sy'n groes i reddf Wici pe na bai ffynhonnell arall ar gael yn rhad ac am ddim.
- Er gwaethaf fy nghasineb i'r Daily Mail a'i chynnwys, rwy'n credu bod Wikipedia Lloegr wedi gwneud cam gwag ag enw da'r prosiect trwy fanio papur ar sail anghydweld gwleidyddol. 07:02, 10 Chwefror 2017 (UTC) —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan AlwynapHuw (sgwrs • cyfraniadau) 07:02, 10 Chwefror 2017
- Diddorol; a dw i'n cytuno y byddai ban yn groes i'n hegwyddorion 'agored' ni a bod rhai ffeithiau cywir yn y tabloids hefyd. Ond onid egwyddor pwyicach yw honno sy'n datgan bwysigrwydd gwybodaeth dibynadwy? Oes mae na ffeithiau cywir ynddyn nhw, ond ar y cyfan, yn gyffredinol, crap gwleidyddol yw'r dillad o'u cwmpas, ac onid yw'r ychydig ffeithiau sydd ynddyn nhw hefyd ar gael mewn ffynonellau eraill? Yn aml gwybodaeth eilradd ydyw. Ac os nad creu polisi, oni ddylem greu Canllaw, cryfach, gwell? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:56, 10 Chwefror 2017 (UTC)
- Cytuno gyda AlwynapHuw. I fi, does dim un ffynhonnell yn ddibynadwy nes iddo gael ei brofi yn annibynnol (yr egwyddor wyddonol). Yn ymarferol wrth gwrs rydyn ni'n tueddu i ymddiried mewn rhai ffynonellau yn fwy na'r llall (ond fe all hyn ddangos tuedd y golygydd). Mae'n wir bod angen trin papurau/gwefannau tabloid gyda gofal, yn enwedig yn oes clickbait ac ati. Mae hefyd yn wir nad yw pob ffynhonnell cynradd o reidrwydd yn wir e.g. hunangofiant, cyfweliad gyda unigolyn. Wrth sôn am eu hunain neu eu teulu mae pobl yn gallu dweud anwiredd, gor-liwio, a hepgor ffeithiau anesmwyth (heb sôn am beidio bod yn wrthrychol).. Mae safbwyntiau annibynnol yn aml yn datgelu fwy o'r gwirionedd. Wrth gwrs mae'n bosib trafod hyn o fewn erthyglau lle mae na ffaith ddadleuadwy. Fel polisi fe allen ni lunio rhestr o ffynonellau yn ôl trefn 'gwerth' neu ddibynadwyedd er dwi'n credu fod angen trin pob ffynhonell unigol yn ôl ei deilyngdod yn hytrach na 'blanket ban'. --Dafyddt (sgwrs) 10:53, 10 Chwefror 2017 (UTC)
- Diddorol; a dw i'n cytuno y byddai ban yn groes i'n hegwyddorion 'agored' ni a bod rhai ffeithiau cywir yn y tabloids hefyd. Ond onid egwyddor pwyicach yw honno sy'n datgan bwysigrwydd gwybodaeth dibynadwy? Oes mae na ffeithiau cywir ynddyn nhw, ond ar y cyfan, yn gyffredinol, crap gwleidyddol yw'r dillad o'u cwmpas, ac onid yw'r ychydig ffeithiau sydd ynddyn nhw hefyd ar gael mewn ffynonellau eraill? Yn aml gwybodaeth eilradd ydyw. Ac os nad creu polisi, oni ddylem greu Canllaw, cryfach, gwell? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:56, 10 Chwefror 2017 (UTC)
- Blocio'r cwbwl yn fy marn i! A chanllaw am y rhai amheus Cymraeg hefyd. Does gan radio na theledu fyth unrhyw gyfeiriadaeth! A drwy sbectol Prydeinig mae'n nhw'n gweld y byd. Cynnig mai dim ond papurau academaidd neu wybodaeth hanesyddol (ee y Llyfrgell Genedlaethol), neu dystiolaeth cynradd y dylid ei ddefnyddio o hyn ymlaen. Nid y cyfryngau cyfoes, mewn unrhyw iaith. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 11:48, 10 Chwefror 2017 (UTC)
- Da ni fel arfer yn gadael trafodaeth am tua pythefnos cyn ei gloi a dod i gonsensws; ar hyn o bryd, felly, mae'n ymddangos mai mynd am ganllaw / awgrymiadau yw'r argymhelliad a mi faswn i'n cytuno efo hynny. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 13 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n werth cofio fod Wikipedia yn gwahardd ei hun fel ffynhonnell am nad yw'n ddibynadwy. --Dafyddt (sgwrs) 12:29, 13 Chwefror 2017 (UTC)
- Sut bod hynny'n berthnasol i'r sgwrs / llinyn yma? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:21, 14 Chwefror 2017 (UTC)
- Ymateb cellweirus i'r awgrym o wahardd popeth heblaw ffynonellau academaidd. Waeth i ni gau lawr Wicipedia a dibynnu ar yr Encyclopedia Britannica neu'r Gwyddoniadur! --Dafyddt (sgwrs) 22:06, 14 Chwefror 2017 (UTC)
- Sut bod hynny'n berthnasol i'r sgwrs / llinyn yma? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:21, 14 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n werth cofio fod Wikipedia yn gwahardd ei hun fel ffynhonnell am nad yw'n ddibynadwy. --Dafyddt (sgwrs) 12:29, 13 Chwefror 2017 (UTC)
- Da ni fel arfer yn gadael trafodaeth am tua pythefnos cyn ei gloi a dod i gonsensws; ar hyn o bryd, felly, mae'n ymddangos mai mynd am ganllaw / awgrymiadau yw'r argymhelliad a mi faswn i'n cytuno efo hynny. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 13 Chwefror 2017 (UTC)
- Rwy'n cytuno efo'r awgrym o ganllaw yn hytrach na gwaharddiad llwyr. O ystyried yr hyn sy'n digwydd yn y byd gwleidyddol cyfredol mae'n rhaid nodi'r celwyddau a'r rhagfarn sy'n cyflyru'r tueddiadau gwleidyddol cyfredol. Mewn erthygl diduedd mae'r prif awdurdod am "ffeithiau amgen" (hy celwydd yn cael eu lledaenu fel gwirionedd) yn dod o gymharu (a dyfynnu) ffynonellau megis Breitbart a'r Daily Mail ac ystadegau mwy dibynadwy. Ac os oes myfyriwr yn chwilio am draethawd hir am wleidyddiaeth Saunders Lewis rhwng diwedd yr 20iau a dechrau'r 30au, da o beth byddid cymharu Cwrs y Byd ag erthyglau golygyddol y Daily Mail yr wythnos cyn eu cyhoeddi (gan ddyfynnu'r Faner a'r Daily Mail)! AlwynapHuw (sgwrs) 06:57, 15 Chwefror 2017 (UTC)
- Dafydd - ia dw i'n siwrn fod tafod @John Jones: yn dynn yn ei foch! Ac Alwyn: gen fawr ar fy wyneb! Felly, canllaw amdani, a synnwyr cyffredin yn arddull iddo! A dweud y gwur, da ni wedi bod yn eitha ceidwadol-Gymreig o ran ein ffynonellau ar cywici; dw i ddim yn meddwl fod pob iaith felly! Os na ddaw barn arall yn y dyddiau nesaf, yna - amdani! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:56, 17 Chwefror 2017 (UTC)
MenywodMewnCoch
golyguMae prosiect Women in Red wedi bod yn ceisio annog a chefnogi pobl i greu rhagor o erthyglau am fenywod. Dw i'n gwybod bod rhai wedi bod yn ceisio datrys y broblem o ddiffyg cynrychiolaeth o fenywod ar Wicipedia Cymraeg.
Fel ffordd o barhau gyda gweithredoedd tebyg mae'r cyfrif Twitter @wicipedia newydd bostio ei drydariad cyntaf #MenywodMewnCoch:
https://twitter.com/Wicipedia/status/832575230426173440
Os ydych chi'n gweld trydariad ewch amdani a chreu'r erthygl! Fel arall plîs aildrydarwch y neges. Gobeithio bydd pobl o'r hen drydar sydd heb gyfrannu o'r blaen yn ymuno â ni hefyd.
Bydd dau drydariad bob dydd i ddechrau. Gawn ni weld sut mae pethau yn mynd!
Dilynwch @wicipedia os gwelwch yn dda. Dw i wedi rhannu rhagor o fanylion am y cyfrif ar fy mlog. --Oergell (sgwrs) 13:47, 17 Chwefror 2017 (UTC)
- Wel mae rhywun anhysbys (nid fi!) wedi creu erthygl fach am Björk eisoes, sydd yn ddatblygiad addawol iawn. --Oergell (sgwrs) 16:21, 17 Chwefror 2017 (UTC)
- Arbennig! Trydar yw'r unig hysbysu sydd gennym ni, ac mae dy waith efo'r bot yn wych iawn! Er engh. dydy o ddim yn hysbysebu erthyglau newydd un gair, fel yr hen un! Gwych iawn Carl! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 17 Chwefror 2017 (UTC)
Wicipedia dros Heddwch, cynhadledd yn Fienna
golyguHelo bobl, dw i wedi cael gwahoddiad i fynd i gynhadledd gychwynnol 'Wikipedia for Peace' yng nghanol mis Mawrth (17eg tan 21ain) yn Fienna. Dw i am fynd.
Mae lle i rywun arall sy'n cyfrannu at Wicipedia Cymraeg.
Nod y gynhadledd yw i rannu arferion a gwersi am gynnal digwyddiadau Wicipedia, e.e. y golygathon, sut i dynnu pobl o'r cymuned i mewn, gyda phwyslais arbennig ar gynnwys sy'n hyrwyddo heddwch.
Mae manylion yma (yn Saesneg): http://www.sci-cat.org/noticia/2030/participa-al-seminari-wikipedia-for-peace-a-viena
Fyddech chi am ystyried mynychu'r gynhadledd fel rhan o garfan Cymru gyda fi?
Maen nhw yn talu am drafnidiaeth (o fewn rheswm) a llety yn ystod y gynhadledd.
Dw i'n meddwl bod hi'n gynnig eithaf da. Fel arall bydd y trefnwyr (sawl person sy'n ymwneud â Wicipedia ar draws Ewrop) yn ceisio canfod rhywun o du allan i Gymru.
Os wyt ti'n chwilfrydig, e-bostiwch am ragor o wybodaeth. Dyma'r cyfeiriad mewn ffurf sydd ddim yn ddarllenadwy i sbamwyr: carl malwen morris smotyn cymru
Mae lle i un person arall yn unig felly byddwch yn gyflym!
--Oergell (sgwrs) 17:32, 17 Chwefror 2017 (UTC)
- Unrhyw gwestiynau neu ddiddordeb mewn hyn? :-) --Oergell (sgwrs) 14:47, 21 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae hwn yn wahoddiad fantastig! Dw i rhy hen a rhy brysur, fy hun! Er, byddai'n wych cael trafod heddwch a thecnoleg law yn llaw. Dw i wedi holi sawl un, Carl, a phawb yn 'rhy brysur'. Mae gen i un sy'n trio rhyddhau clymiadau eraill, ond doedd o ddim yn siwr a fedrai! Os nad, mi gei gwmni Ewropeaid o'r un anian, a hwyl wiciaidd diniwed! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:12, 21 Chwefror 2017 (UTC)
- Gad i mi wybod os fydd unrhyw ddatblygiadau. Mae amser yn brin erbyn hyn. Ni ffeindiwyd unrhyw un arall o Gymru i ddod i Fienna gyda fi yn anffodus. Dw i'n dal i edrych ymlaen at ddysgu pethau yna! Diolch --Oergell (sgwrs) 17:05, 2 Mawrth 2017 (UTC)
Lluniau newydd
golyguHelo pawb. Mae Ochr 1 wedi bod yn garedig iawn, a rhannu hanner cant o luniau proffesiynol o fandiau a chantorion Cymraeg, felly cewch amdani a defnyddio nhw i lunio eich erthyglau Wicipop! Jason.nlw (sgwrs) 13:28, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Whaaaaw! Bril!!!!!! Diolch iddyn nhw ac i Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:41, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Cofia greu categoriau ar Comin hefyd pan ti'n uwchlwytho - mwy manwl na 'Musicans from Wales' ee 'Images of Welsh musicians supplied by 'Ochr 1'. Mi wna i chydig o isgategoriau yno. Ond, wir, mae'r rhain yn ychwanegiad mawr, ac o safon da iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:46, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Newyd weld Category:Lluniau Ochr 1/Antena - gret! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Cofia greu categoriau ar Comin hefyd pan ti'n uwchlwytho - mwy manwl na 'Musicans from Wales' ee 'Images of Welsh musicians supplied by 'Ochr 1'. Mi wna i chydig o isgategoriau yno. Ond, wir, mae'r rhain yn ychwanegiad mawr, ac o safon da iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:46, 23 Chwefror 2017 (UTC)
Erthyglau awtomatig
golyguFi eto. Fi wedi bod yn gweithio i greu 500 o erthyglau am fandiau mawr y byd gan ddefnyddio gwybodaeth o Wikidata. Dyma rhai enghreifftiau. Byddaf yn ddiolchgar iawn am unrhyw sylw cyn i mi gyhoeddi'r cwbl. @Dafyddt: @John Jones: Fi yn defnyddio lists unwaith eto ond y tro yma maen nhw'n cael i ddefnyddio i greu Discograffiaeth. Bydd hyn yn diweddaru yn awtomatig fel mae gwybodaeth newydd yn cyrraedd Wikidata. Fi'n gobeithio bod hyn yn well defnydd o'r dechnoleg ac yn fwy derbyniol i bobl, ond hoffwn i gael barn pawb cyn symud ymlaen. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 11:05, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae hwn yn edrych yn grêt Jason. Mae yna fan bethau i newid o ran y rhestr disgyddiaeth e.e. colofnau diangen, trefnu yn ôl dyddiad ryddhau ac ati ond dylai newid hyn fod yn digon rhwydd. Fasen i'n awgrymu tynnu y golofn 'rhif', 'enghraifft o'r canlynol' a bosib 'delwedd' a trefnu yn ôl dyddiad. Mae hyn yn iawn ar gyfer erthyglau 'awtomatig' - os oeddwn i a diddordeb penodol mewn catalogio disgyddiaeth band, fasen i ddim defnyddio rhestrau o gwbl ond trefnu pethau mewn tabl gyda cronoleg cywir a fformat mwy addas sy'n delio gyda pethau allan o'r cyffredin. Dyw slyrpio pethau allan o gronfa ddata ddim yn gwneud defnydd o'r elfen pwysig o 'olygydd' sydd wrth graidd Wicipedia.
- Hefyd oes posib rhoi y tudalennau mewn i gategoriau mwy penodol e.e. Bandiau Americanaidd, Bandiau Seisnig ac ati? A rhoi'r cysylltiad rhyng-wici yn Wikidata? Diolch --Dafyddt (sgwrs) 11:34, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch Dafyddt Mi wna'i addasu y rhestrau i dynnu colofnau di-angen. @Llywelyn2000: - sut alla'i drefnu y rhestrau yn ôl dyddiad?. Unwaith mae'r ethyglau yn fyw, fi'n bwriadau creu 'site links' ar Wikidata er mwyn cysylltu yr erthyglau i gyd efo Wiki's eraill. Bydd rhaid i fi edrych mewn i'r catagoriau ond yn bendant dw'i wedi sylwi yr angen am rhagor o catagoriau ar gyfer bandiau. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 11:52, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Newydd arbrofi gyda trefn dyddiad ar Rage Against the Machine - gwell na ceisio trefnu yn sparql falle. Yn amlwg bydd nifer o gofnodion heb ddyddiad felly bydd e ddim yn berffaith bob tro, ond bydd hi'n bosib llenwi'r bylchau. --Dafyddt (sgwrs) 12:39, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch Dafyddt! Fi wedi tynnu'r colofnau di angen o Rage Against the Machine hefyd. Fi'n credu bod e'n edrych yn well fel 'na. Jason.nlw (sgwrs) 13:28, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Un peth bach arall.. gawn ni alw fe'n Disgyddiaeth? Dyna'r term safonol - yr unig le mae Discograffiaeth yn ymddangos yw ar Wicipedia. Diolch --Dafyddt (sgwrs) 13:31, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n swnio'n fwy naturiol i fi, felly os oes dim gwrthwynebiad mi wna'i newid hwnna. Diolch yn fawr am eich holl fewnbwn. Jason.nlw (sgwrs) 15:04, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Un peth bach arall.. gawn ni alw fe'n Disgyddiaeth? Dyna'r term safonol - yr unig le mae Discograffiaeth yn ymddangos yw ar Wicipedia. Diolch --Dafyddt (sgwrs) 13:31, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch Dafyddt! Fi wedi tynnu'r colofnau di angen o Rage Against the Machine hefyd. Fi'n credu bod e'n edrych yn well fel 'na. Jason.nlw (sgwrs) 13:28, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Newydd arbrofi gyda trefn dyddiad ar Rage Against the Machine - gwell na ceisio trefnu yn sparql falle. Yn amlwg bydd nifer o gofnodion heb ddyddiad felly bydd e ddim yn berffaith bob tro, ond bydd hi'n bosib llenwi'r bylchau. --Dafyddt (sgwrs) 12:39, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Diolch Dafyddt Mi wna'i addasu y rhestrau i dynnu colofnau di-angen. @Llywelyn2000: - sut alla'i drefnu y rhestrau yn ôl dyddiad?. Unwaith mae'r ethyglau yn fyw, fi'n bwriadau creu 'site links' ar Wikidata er mwyn cysylltu yr erthyglau i gyd efo Wiki's eraill. Bydd rhaid i fi edrych mewn i'r catagoriau ond yn bendant dw'i wedi sylwi yr angen am rhagor o catagoriau ar gyfer bandiau. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 11:52, 23 Chwefror 2017 (UTC)
- Mae'n nhw'n edrych yn wych iawn! A bydd Categori fwy manwl yn help - efallai y gallem dynnu hwn o WD hefyd ee Categori = genre (P136). Cofia na fedri roi delwedd o albwm ar WD gan ei fod yn unigryw i iaith (dyna pam mai ar WP mae cloriau llyfrau / albymau ayb yn mynd; dan drwydded Defnydd Teg). Dileu'r golofn Delwedd, felly, am y tro, faswn i. Cytuno efo Dafydd hefyd fod 'Disgyddiaeth' yn gywirach na'r hyn sydd gennym ar WP, sef 'Disgograffi'. A gall AWB newi y rheiny'n ddigon hawdd efo 'replace 'Disgograffi' -> 'Disgyddiaeth'; ac eildro gyda 'replace 'Discograffiaeth' -> 'Disgyddiaeth'. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:36, 23 Chwefror 2017 (UTC)
Cynhadledd Caeredin
golyguMae Wicipediaid yr Alban yn trefnu cynhadledd yng Nghaeredin: 'Y Cwlwm celtaidd'. Gallwch wneud cais am gostau teithio pe baech yn barod i siarad; dyddiad cau'r cynigion: 10 Mawrth. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:30, 27 Chwefror 2017 (UTC)
- Wedi llogi lle fel cynadleddwr. Ym mhle mae Cymry eraill am sefyll, sut maent am deithio? AlwynapHuw (sgwrs) 04:52, 11 Mai 2017 (UTC)
- Gwych! £35 y noson ydy stafell yn un o neuaddau'r myfyrwyr; fanno fydd llawer ohonom. Teithio: tren hyd y gwn i (tua £95 rwan). Gelli wneud cais i Daria Wikimedia UK, ond dw i'n meddwl mai cyfranwyr yn unig fydd hi y tro yma. Gwna gais i hawlio'r gost cofrestru drwydda i os wyt eisio, a mi basia i o ymlaen ati hi. Neu: daria.cybulskaATwikimedia.org.uk. Edrychaf ymlaen i'th gyfarfod eto! Llywelyn2000 (sgwrs)
Gwobrau Dewi Sant
golyguMae holl luniau o'r teilyngwyr a dderbyniodd wobrau leni ac yn y gorffennol ar drwydded agored OGL. Helpwch eich hunain! Da iawn Llywodraeth Cymru! Gobeithio y bydd cyrff sy'n derbyn nawdd ganddynt ee Amgueddfa Cymru, Cadw, y Comisiwn Brenh. dros Henebion ayb yn dilyn hyn, ac yn rhoi trwyddedi agored ar eu lluniau, testun a ffeiliau eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:06, 28 Chwefror 2017 (UTC)
- Newydd gychwyn eu huwchlwytho i Comin. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:27, 28 Chwefror 2017 (UTC)
- Dw i newydd wneud cais i Lywodraeth Cymru am yr holl luniau ar y wefan, ar gydraniad uchel. Ateb calanogol hyd yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:59, 3 Mawrth 2017 (UTC)
-
Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru
-
Savannah Lloyd; Gwirfoddolwraig iechyd meddwl.
-
Gareth a Falmai; Llaeth y Llan
-
Aelodau Criw Tân Pontardawe
-
Jessica o Sony UK
-
Elfed Roberts; Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- A dyma dros ugain o luniau o'r teilyngwyr, gyda'r rhan fwyaf o gydraniad uchel iawn newydd eu huwchlwytho! Diolch i Lywodraeth Cymru. Mae'r ffotograffau yma, os oes rhywun awydd ychwanegu nhw i'r erthygl Gwobr Dewi Sant. Gyda llaw, oni dylem newid enw'r erthygl i 'Wobrau Dewi Sant'? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:00, 6 Mawrth 2017 (UTC)
- Dileuwyd y lluniau ar Comin gan na ddaeth y caniatad mewn pryd gan Llyw Cym. Pan ddaw, mi wna i ail-uwchlwytho'r delweddau! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 5 Ebrill 2017 (UTC)
Golygathon yng Nghaerdydd!
golyguHelo pawb. Hoffwn i bennu prosiect Wicipop gyda bang trwy gynnal digwyddiad llwyddiannus yn y brif ddinas. Hwn bydd y 3ydd golygathon fel rhan o brosiect Wicipop. Bydd y digwyddiad yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ar Ddydd Sadwrn 25 Mawrth am 1 o gloch. Bydd e'n grêt i weld golygyddion profiadol yn gweithio ochr wrth ochr efo golygyddion newydd, felly cadw'r dyddiad, sôn i'ch ffrindiau a cofrestri heddiw! Diolch Jason.nlw (sgwrs) 09:09, 7 Mawrth 2017 (UTC)
Recordiau Sain yn cyfrannu at y Prosiect #Wicipop
golyguO! Da ni wedi taro tant y tro yma! Mae Cwmni Recordiau Sain am gyfrannu coflaid o glipiau sain i Comin! Diolch i'r ddau Dafydd (Iwan a Meirion) mi fydd y lle'n trybowndian ac yn diasbedain efo clipiau sain, Sain!! Mae @Jason.nlw: am eu rhoi ar Comin, sy'n golygu y medrem nid yn unig eu defnyddio ar ein wici-bach-ni, ond hefyd ar yr holl ieithoedd eraill! Mae pethe'n gwella, bobl! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:40, 11 Mawrth 2017 (UTC)
Prosiect newydd: Wici Natur
golyguWicipedia:Wicibrosiect WiciNatur Cynhelir Gweithdy ym Mhlas Tan y Bwlch ar 6 Mai 2017 (manylion ar y poster). Pwrpas y prosiect yw gwella'r hyn sydd ar gael ar rywogaethau, yn y Gymraeg, ar Wicipedia ac ar wefan Llên Natur.
Pwrpas y diwrnod yw:
- a) adnabod anghenion "Bywiadur" gwefan Llên Natur a'i gyd-gyfrwng WiciMedia
- b) rhoi camau ar waith i gyflawni'r anghenion hynny gyda chymorth gwirfoddolwyr
Ebostiwch fi os ydych eisiau gwneud cais am gymorth gyda chostau teithio; bwyd am ddim! Welwn ni chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:30, 16 Mawrth 2017 (UTC)
- Cofiwch
@Lesbardd, Blogdroed: ...fod angen gwneud cais ymlaen llaw os ydych yn bwriadur hawlio costau teithio. Mae bron i 50 bellach wedi cofrestru! Angen cymorth Wicipedwyr profiadol, plis! Naturiaethwyr yw'r rhan fwyaf, heb brofiad o godio / golygu ar wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:49, 12 Ebrill 2017 (UTC)
Pob lwc heddiw bobol annwyl! Rhai ohonom ni'n gweithio! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 05:09, 6 Mai 2017 (UTC)
Ar y dydd hwn
golyguBe di'ch barn chi am yr arbrawf yma. nodir Ar y dydd hwn ddwywaith, fel rhybudd o'r hyn sy'n dod. Gwell neu waeth? Defnyddiol neu ormod? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:45, 16 Mawrth 2017 (UTC)
- Edrych yn dda. Braf yw cael y rhybudd os yw'n ben-blwydd rhywbeth werth ei gofio ar y cyfryngau cymdeithasol neu i godi mewn ysgol, gweithle neu dafarn. Pleidlais o blaid ei gadw gennyf i. AlwynapHuw (sgwrs) 00:15, 17 Mawrth 2017 (UTC)
- Dw i'n meddwl bod dim ond un peth yn difetha golwg y dudalen Hafan. Mae'r testun yn cyffwrdd ag ymylon y blychau. Beth am newid <cellpadding = 0> i <cellpadding = 10>? Craigysgafn (sgwrs) 00:21, 19 Mawrth 2017 (UTC)
- Llawer gwell! Diolch! Mae na broblem arall, sy'n bodoli beth bynnag - mae angen codi blwch y Ddraig Goch i fyny, i gau'r bwlch gwyn. @Ham II: Croeso i chi arbrofi ar y dudalen yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:14, 20 Mawrth 2017 (UTC)
Atalnod llawn di angen yn yr hysbys
golyguMae 'na broblem efo hysbysebion Newidiwyd y dudalen Wicipedia: xxx ar ddyddiad gan xxx. Gweler y diwygiad cyfredol ohoni ar: er enghraifft:
Mae’r atalnod llawn yn rhwystro agor y ddalen yn iawn ac yn cyrchu at ddalen heb ei greu megis John Jones. (John Jones*.*) yn hytrach na John Jones. Wedi peri dryswch imi am rai misoedd, a theimlad o paham bod fy erthygl wedi ei ddileu. Gallasai bod yn rhwystr i bobl rhag ail gyfrannu erthyglau. AlwynapHuw (sgwrs) 05:41, 17 Mawrth 2017 (UTC)
- Nid cwyn dibwys. Rwyf wedi ymatal rhag creu erthyglau newydd eleni, wedi cael gormod o negeseuon Mae'r dudalen hon yn wag ar hyn o bryd, gan gredu bod tudalennau o oriau o ymchwil wedi eu symud trwy newidiadau dibwys megis cyfnewid a am â ac ati! Ac os ydwyf i, fel hen gyfrannydd aml, yn teimlo felly - pa neges sydd wedi ei roi i gyfranwyr newydd sbon? AlwynapHuw (sgwrs) 06:19, 17 Mawrth 2017 (UTC)
- Ai fi sy'n dwp? (Paid ag ateb!) Ond dydw i ddim yn gweld be wyt ti'n ei wneud i gael yr hybysiadau hyn! Lle wyt ti'n clicio i gael Newidiwyd y dudalen Wicipedia:... ? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:28, 17 Mawrth 2017 (UTC)
Ar bob dudalen golygu mae'na blwch "Gwylier y dudalen hon" ar waelod eithaf y rhagolwg. O Ddechrau tudalen mae na dic awtomatig yn y bocs (gellir ei ddiffodd), o olygu erthygl mae'r bocs yn wag (gyda'r dewis o'i dicio).
O adael tic yn y bocs cewch e-bost Newidiwyd y dudalen Wicipedia:Y Caffi ar Wicipedia gan Llywelyn2000 gyda neges tebyg i Annwyl AlwynapHuw, Newidiwyd y dudalen Wicipedia:Y Caffi ar Wicipedia ar 17 Mawrth 2017 gan Llywelyn2000. Gweler y diwygiad cyfredol ohoni ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi.
Mae'r atalnod llawn ar ddiwedd URL yr e bost yn eich danfon i erthygl gyda neges Wicipedia:Y Caffi. Mae'r dudalen hon yn wag ar hyn o bryd. Gallwch chwilio am y teitl hwn ar ddalennau eraill, chwilio drwy'r logiau perthnasol, neu fe allwch greu'r ddalen hon.
Mae'r atalnod llawn yn rhwystro cyrchu yr URL ("Y Caffi" yw'r dalen nid "Y Caffi."). Wedi sgwennu nifer fawr o erthyglau ar ddiwedd 2016 a chael fy hysbysu bod nifer o'r erthyglau yn wag ar hyn o bryd, rhaid cyfaddef fy mod braidd yn p**** off, i ddefnyddio'r fain, cyn sylwi natur y broblem. Dydy e-bost o'r fath ddim yn Croeso Cynnes i ddefnyddwyr newydd chwaith.AlwynapHuw (sgwrs) 05:23, 18 Mawrth 2017 (UTC)
- Diolch Alwyn, mi edrycha i fewn i'r peth. Dydy o ddim wedi digwydd i mi, ond mae'n swnio'n hen niwsans. Rhyfedd fel y mae un 'iota' llia rioed yn medru ffwndro petha! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:55, 18 Mawrth 2017 (UTC)
- Mi ges i ebost pan newidiodd Craigysgafn tud y Caffi ddoe; cliciais ar bob un o'r dolenni oedd ynddo ac agorodd y tudalen-darged yn rhwydd ac yn gywir bob tro. Mae'n ymddangos i mi mai nam yn Meta oedd yn achosi'r broblem a'i fod bellach wedi'i ddatrus. Tria eto, pan gei ebost newydd a rho wybod! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:03, 20 Mawrth 2017 (UTC)
Wiciddyfynu
golyguMae na fandaliaeth yn y munudau diwethaf ar ein chwaer brosiect Wiciddyfynu. Ysywaeth, does gennym ni run Gweinyddwr i ddadwneud y rwts. Ga i sel bendith rhywun yn sydyn er mwyn gwneud cais i fod yn Weinyddwr? Nid mod isio! Mae gen i ormod ar fy mhlat fel mae hi. A chroeso i rywun arall gynnig! Awydd? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:40, 18 Mawrth 2017 (UTC)
- Os oes dal arno'r prosiect angen rhywun i dacluso yno, mi gymera' i fantell y gweinyddwr os gwelwch yn dda. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 00:19, 14 Mai 2017 (UTC)
- Gwych! Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:15, 16 Mai 2017 (UTC)
Golygathon Wicipop yng Nghaerdydd - galwad i'r gad
golyguDyma nodyn i atgoffa pawb am y golygathon sydd yn digwydd ddydd Sadwrn nesaf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol ein prifddinas. Mae gennym ni bentwr o liniaduron newydd sbon, cannoedd o ddelweddau gwych o fandiau Cymraeg, llwyth o ffynonellau arbennig i gael gwybodaeth, a digon o frechdanau, te a choffi i suddo llong OND MAE ANGEN MYNYCHWYR!!!! Felly os wyt ti yn yr ardal, neu yn adnabod pobl yn yr ardal, nawr yw'r amser i gofrestru. Gad i ni orffen prosiect llwyddiannus Wicipop efo digwyddiad llwyddiannus! Mae modd cofrestru ar Wici neu trwy Eventbrite. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 17:24, 20 Mawrth 2017 (UTC)
- Sut aeth y sesiwn? Llun da ar Trydar! BOT-Twm Crys (sgwrs) 21:58, 27 Mawrth 2017 (UTC)
Cynhadledd Celtaidd
golyguYchydig wythnosau yn ôl mi welais hysbyseb, yn rhywle, am gyfarfod rhyng-wici Celtaidd er mwyn hybu cydweithrediad rhwng y sawl sy'n cyfrannu i'r wahanol wicis yn yr ieithoedd Celtaidd. Rwy'n methu cael hyd iddi bellach. Ydy'r gynhadledd wedi ei ganslo? AlwynapHuw (sgwrs) 02:06, 3 Ebrill 2017 (UTC)
- Nac ydy; galwad am gyfraniadau drwy bapur welais ti, ac awgrymaist fws o Gymru. Cafwyd 4 papur o Gymru. Dw i wedi dal yn ol, gan fod y trefniadau ar hyn o bryd yn newid rhwng diwrnod a deuddydd (nawdd!). Mi hola i Ewan i weld be ydy'r diweddaraf. Mi symudais y sgwrs i'r Caffi Saesneg yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 3 Ebrill 2017 (UTC)
Problem efo logo Saesneg yn ymddangos
golyguMae na chydig ohonoch wedi nodi fod problem yn ymddangos weithiau, gyda rhai porwyr, ble ceir y lolo Saesneg (gweler y llun). Dw i wedi logio'r broblem ar Phabricator, un arall o brosiectau Wicimedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:41, 5 Ebrill 2017 (UTC)
- Dyma'r drwg yn y caws; ond dw i ddim digon hyderus o ddileu'r rhan iawn o'r cod a hithau'n hanner nos, felly rhagor fory! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:48, 5 Ebrill 2017 (UTC)
Llywelyn2000 (sgwrs) 23:36, 5 Ebrill 2017 (UTC)
Cwestiwn bach am ddinodedd
golyguMewn cenedl fach o tua 500,000 o bobl, megis y Gymry Cymraeg, oes yna’r fath beth a pherson dinod? Pe bai unigolyn wedi cynorthwyo Thomas Charles trwy gyfrannu 100 o erthyglau i’w Geiriadur Ysgrythyrol, neu wedi cyfrannu 500 o erthyglau i Wyddoniadur Cymreig Thomas Gee mi fyddai’n berson gwerth ei grybwyll ar Wicipedia. Gan hynny onid oes le yma i droi proffil cyfranwyr toreithiog i’r safle yn erthyglau go iawn? Ar wahân i’r ffaith fy mod i eisiau gwybod pwy ydy’r Debs, John Jones, DrWilliam a DafyddT rwy’n clywed sôn amdanynt ar fy ffrwd trydar yn feunyddiol, mi fyddai’n help i gyrraedd y 100,000 AlwynapHuw (sgwrs) 10:43, 25 Ebrill 2017 (UTC)
- Cytuno'n llwyr! Un o'r llinynau mesur ynghylch dinodedd / amlygrwydd - ar cywici'n unig! - yw ein bod yn caniatau bywgraffiad ar bob awdur. Ymestyniad fyddai hyn i'r llwyfan digidol, ac ymestyniad digon naturiol hefyd. Dw i'n gwybod fod Deb wedi sgwennu nifer o lyfrau, fel y gweli o'u thudalen defnyddiwr, yn ogystal a thoreth ar wici. Beth am ofyn i'r lleill a ydyn nhw'n dymuno i ti sgwennu amdanyn nhw? Ddylen nhw ddim sgwennu amdanyn nhw eu hunain wrth gwrs oherwydd COI. A mi ofynai i ti hefyd - ac os cytuni ebostia dy cv ataf (botwm ebost wici ar y chwith)! A llun cyfoes i fynd efo fo! Clod lle mae clod yn deilwng! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:08, 25 Ebrill 2017 (UTC)
- Rhad arnom! Does na ddim erthygl ar Deri Tomos mewn unrhyw iaith! Cywilydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:09, 25 Ebrill 2017 (UTC)
- Ow! Y broblem o gael Syniad Da heb feddwl am ei oblygiadau! Eisiau bod yn fusneslyd am hanes cyfranwyr eraill ydwyf nid agor cil drws fy nghwpwrdd llawn sgerbydau! Ac os ddanfonaf CV llawn fy rhinweddau, bydd eraill yn cael yr hawl i olygu’r hanes, gan gyfeirio at fy meiau!! Rhaid dwys ystyried - warts and all (chwedl Cromwell), eginyn di niwed, neu dim! Bydd raid ddwys ystyried, gan aros hyd ddydd Gwener nesaf i weld os caf fy ail ethol yn gynghorydd i gadw’r CV yn Ŷp tŵ dêt. AlwynapHuw (sgwrs) 02:53, 26 Ebrill 2017 (UTC)
- "Ow! Y broblem o gael Syniad Da heb feddwl am ei oblygiadau!" CHLM! (LOL!) Chwip o erthygl dda gen ti! Ro'n i'n meddwl y cawn drafferth ddod o hyd i gymaint - toreth - o stwff arno! Gwych iawn! Mae'r hyn mae wedi ei wneud dros y blynyddoedd yn teilyngu erthygl dda. Parthed dy hun; cadwa'r sgerbyde yn y cwpwrdd, wrth ochr fy rhai i (ond ymfalchia ynddynt!) Ffeithiau cywir sydd angen. Er mor agored ydw i - a rhydd fy meddwl, gobeithio - mae gen innau leni ar ffenest fy llofft. A dw i'n eu tynnu bob nos. Pob lwc yn yr etholiad! Cyfle da i gael llun neu ddau. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:59, 26 Ebrill 2017 (UTC)
- Newydd ddallt mai @Dafyddt: sgwennodd yr erthygl ar Deri! Fy ymddiheuriadau, Dafydd - ond mae'r diolch yr un mor ddidwyll! Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:46, 26 Ebrill 2017 (UTC)
- Cyd-ddigwyddiad hapus! O'n i wedi dechrau ysgrifennu ychydig am Deri wedi clywed am y Feddal Wyddoniaeth ddechrau'r mis, felly roedd gen i rhywbeth yn barod i fynd. Digon i'w ychwanegu/wella hefyd. --Dafyddt (sgwrs) 22:54, 26 Ebrill 2017 (UTC)
- Newydd ddallt mai @Dafyddt: sgwennodd yr erthygl ar Deri! Fy ymddiheuriadau, Dafydd - ond mae'r diolch yr un mor ddidwyll! Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:46, 26 Ebrill 2017 (UTC)
Hwyrach dylai erthygl am danaf dechrau efo'r geiriau [.[Alwyn ap Huw]] twpsyn cyfrifiadurol. I’r chwith o be mae dy gyfeiriad e-bost? AlwynapHuw (sgwrs) 03:48, 3 Mai 2017 (UTC)
- Dos i dudalen defnyddiwr a mi wneith y ddolen 'Ebostiwch y defnyddiwr' ymddangos yn y ddewislen ar y chwith - o dan y brif logo. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:54, 3 Mai 2017 (UTC)
Erthyglau Dethol
golyguMae'n hen bryd i ni iro ychydig ar olwynion y system rhydlyd hwn! Dwy erthygl ddethol sydd gennym ar hyn o bryd! Dw i newydd argymell un maen prawf arall, ar y dudalen: Wicipedia:Erthyglau dethol, sef bod yn yr erthyg ddimensiwn (neu perspectif) Cymreig yn ogystal ag un byd-eang. Mae na lawer o erthyglau sy'n haeddu eu cynnwys dan y categori hwn, bellach. Tybed a wneith pawb argymell erthyglau ar: Wicipedia:Cynnig erthyglau dethol. Tybed a wneith rhywun hefyd (e.e. @Rhyswynne: ystyried fod yn gyfrifol am sicrhau fod y maeni prawf yn cael eu parchu, tagio'r erthygl derbyniol ayb? Dw i'n credu fod llawer o erthyglau gan @AlwynapHuw, Dafyddt, Adam, Anatiomaros, Deri Tomos, Llusiduonbach, Ham II: ac eraill yn addas iawn, ond mae gwirioneddol angen i ni gael olwynion cocos y sytem i droi! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:36, 2 Mai 2017 (UTC)
- Rwy’n ansicr o’r angen i gael dimensiwn (neu bersbectif) Cymreig ar bob erthygl dethol. Yn ddi-os, os oes persbectif Cymreig amlwg a naturiol mae angen ei gynnwys mewn erthyglau. Ond mae yna gannoedd o bynciau gellir sgwennu yn hirfaith a chynhwysfawr amdanynt sydd heb bersbectif Cymreig. Pechod byddai ‘’cosbi’’ awduron trwy ddweud nad yw eu herthyglau yn ddethol gan nad oes ddimensiwn Cymreig call gellir ei gynnwys ynddi. Yn yr hen ddyddiau, pan oedd y Western Mail yn cyflogi newyddiadurwyr go iawn i sgwennu erthyglau, chwerthinllyd oedd eu hymgais i gynnwys ongl Gymreig denau ar y naw i bob stori; byddwn i ddim am i Wicipedia syrthio i mewn i’r un twll. AlwynapHuw (sgwrs) 15:09, 2 Mai 2017 (UTC)
- Digon gwir. Ond pan fo hynny'n bosib, yna dylid gwneud hynny. Mae'n hanfodol i ni sefydlu'r egwyddor nad cyfieithiad o erthyglau en ddylai cywici fod. Dw i'n cofio @Deri Tomos: yn dweud hyn y llynedd yn y steddfod, a mi atebais, 'Ond sut gei di ogwydd Gymreig mewn erthygl ar y 'ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol', a chyn i mi orffen fy nghwestiwn roedd wedi dilyn trywydd y ddamcaniaeth i Gymru! Felly hefyd y naturiaethwyr (ddydd Sadwrn yma ym Mhlas Tan y Bwlch) - y nod yw darganfod gogwydd Gymreig i'r holl rywogaethau pan fo hynny'n bosibl. Ond cyntuno na ddylis cosbi erthyglau lle nad yw hynny'n bosib, fel y dywedi! Mi newidiai'r geiriad dwi'n ei awgrymu ar y ddalen Wicipedia:Erthyglau dethol. O ran ymgyrch i safoni hyn, wyt ti'n cytuno? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:04, 2 Mai 2017 (UTC)
- Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r ddau ohonych: perspectif Cymreig os oes un ar gael, ac os yw'n addas i'w gynnwys (hynny yw, yn "wyddoniadurol"). Gall hyn hyd yn oed golygu defnyddio ffynonellau Cymraeg os oes rhai ar gael. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 00:28, 14 Mai 2017 (UTC)
- Sori am ddod yn hwyr i'r parti (eto!). Ie, fel person sydd ddim yn gret am greu erthyglau fy hun, mae bod â chyfrifoldeb dros hyn yn rhywbeth y byddwn yn hapus gyda. Gan mod i ddim yn ymweld â'r wici mor aml ag o'n i, dwi o'r diwedd wedi newid fy ngosodiadau hysbysiadau fel mod i'n derbyn e-bost os bydd negeseuon yma. Byddai'n werth i mi ychwanegu dolen fy nhudalen sgwrs ar y dudalen Wicipedia:Erthyglau dethol os ydynt am enwebu erthygl gan eu hunain neu eraill. --Rhyswynne (sgwrs) 20:33, 24 Mehefin 2017 (UTC)
Wiciddyfynu
golyguMi wnes gais chydig yn ol i gael logo Cymraeg yn y prosiect Wiciddyfynu. Mae'r drafft yn barod; carwn eich sylwadau os g yn dda. (Ni ellir ei droi'n weithredol heb hynny!) Mae Wiciddyfynu i'w weld yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 4 Mai 2017 (UTC)
- Da iawn! A hen bryd! Mae'n gret gweld y treiglad yn ei le. Ymddiheuriadau na fyddaf yn Wici Natur gyda llaw - a phob hwyl! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:10, 4 Mai 2017 (UTC)
- Gwych, hen bryd inni gadw a chynnal y prosiectau eraill. Oes angen <n> arall? Methu dod o hyd i'r ffurf "dyfynu" yn y GPC. Os oes rhagor o amser gennym i drafod yr enw, ac os yw'r ddwy <n> yn digio, beth am Wiciddyfynion? Ar y llaw arall, mae odl i Wiciddyfyn[n]u. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 00:03, 14 Mai 2017 (UTC)
- Gan mai enw prosiect ydy o ac nid testun o fewn erthygl, dw i ddim yn meddwl fod yn rhaid i ni fod ynghlwm wrth reolau iaith. Yn ramadegol gywir ti sy'n iawn, nes y daw'r rheol o beidio a dyblu'r 'n'! Dw i newydd weld y drafodaeth hon, a dylwn fod wedi gweld honno! Mae'r gair fel y mae yn llawer hirach na fersiynau ieithoedd eraill, a gorau po fyraf a bachog ydy o yn fy meddwl i. Dw i'n hoff iawn o dy 'Wiciddyfynion', ond efallai nad oes angen y gair bach 'Wici'? Dim ond 'Dyfynion'? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:01, 14 Mai 2017 (UTC)
Bwyta yn y caffi
golyguRwyf wedi bod yn clirio’r groglofft, ac wedi dod o hyd i nifer o lyfrau sy’n cynnwys ryseitiau am fwydydd traddodiadol Cymreig. Ar y cyfan byddwyf yn defnyddio’r we am ryseitiau bellach (dyna pan fo’r llyfrau yn y groglofft), ond mae rhai o’r llyfrau yn cynnwys hanes y rysáit, byddai’n addas ar gyfer pwt ar y Wici. Ond a ydyw cynnwys rysáit (di hawlfraint) yn addas i wyddoniadur? Rwyf wedi cael llond bol o weld Saeson yn dweud dyma sut bu hen, hen, nain o dras yn gwneud; yn hytrach na Chymry’n dweud dyma sut rwy’n paratoi rysáit Cymreig! A fyddai’n dderbyniol i mi gyhoedd fy rysáit ar Wicipedia, yn hytrach na jest cyfeirio at rysáit ffug Gymreig ar wefanau Saesneg? AlwynapHuw (sgwrs) 05:20, 12 Mai 2017 (UTC)
- Neu be am gyd prosiect newydd Wici-Rysáit lle mae Cymry yn gyd rannu eu ryseitiau traddodiadol a newydd? AlwynapHuw (sgwrs) 05:29, 12 Mai 2017 (UTC)
- Dw i'n meddwl mai dyna ydy pwrpas Wicilyfrau - llyfrau bychan 'Sut i wneud rhywbeth...' ond mae'n brosiect sydd heb ei datblygu. Mae hyn yn syniad gwych iawn gen ti! Dw i ddim yn gweld problem rhoi engreifftiau ar Wicipedia, yn enwedig ar ddiwedd erthygl ar fwyd traddodiadol. Mae Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia yn amlinellu rhywch ychydig am hyn, ond mae'r fersiwn Saesneg yn nodi: Wikipedia is not a manual, guidebook, textbook, or scientific journal, er cofia, nid oes raid i ni ddilyn nhw. Ond, er mai Wicilyfrau @Adam: yw'r fan i adeiladu casgliad o rysaitiau, mi faswn i'n amharod i dreulio amser arni, gan mai'r nifer o erthyglau ar Wicipedia sy'n rheoli faint o arian mae'r Gymraeg yn ei gael a sawl prosiect mae Google yn ei gyfieithu i'r Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 12 Mai 2017 (UTC)
- Wicilyfrau yw'r man perffaith am ryseitiau – dechreuodd @Pwyll: greu Llyfr Coginio yno ychydig flynyddoedd yn ôl. Dwi heb gyfrannu yno ers oesoedd, felly byddaf i'n ceisio tacluso'r prosiect hwnnw yn yr wythnos nesaf. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 00:13, 14 Mai 2017 (UTC)
- Dwi ddim am weld rhwyg rhwng dau brosiect sy’n hybu’r Gymraeg ar y we. Gorau po fwyaf o safleoedd sy’n defnyddio’r heniaith. Be am gyfaddawd? Ar waelod fy nhudalennau ar gymunedau Llydaw mae 'na blwch bach sy’n creu cyswllt yn ddweud Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: xxx. Oes modd creu blwch tebyg i erthygl am Bara carwe sy’n dweud mae gan Wicilyfrau rysáit / ryseitiau am: Bara carwe? Gan greu erthygl newydd i'r naill le a'r llall a rhoi hwb i'r ddau safwe. AlwynapHuw (sgwrs) 01:45, 16 Mai 2017 (UTC)
- Gallem wneud baner cywllt yn hawdd. Ymlaen! 95.146.167.125 03:54, 16 Mai 2017 (UTC)
JavaScript error
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
Prototype for editing Wikidata infoboxes on Wikipedia
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
New notification when a page is connected to Wikidata
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
Symudwyd i'r gornel Saesneg.
Nod i 2017: cyrraedd 100,000
golyguCan mil o erthyglau erbyn diwedd y flwyddyn? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 12:57, 28 Mai 2017 (UTC)
Enw Cymraeg
golyguBeth yw'r enw Cymraeg am 'Horseshoe Falls'? Rhaeadr y Bedol? Rhaeadr Bwlch yr Oernant? --Llydawr (sgwrs) 20:33, 2 Mehefin 2017 (UTC)
- Rhaeadr y Bedol yn ôl Cyngor Sir Ddinbych Lansiad i ddathlu mynediad newydd yn Rhaeadr y Bedol AlwynapHuw (sgwrs) 06:34, 3 Mehefin 2017 (UTC)
- Ia; dyna sydd ar yr arwydd hefyd. Mae angen erthygl Gymraeg myn gafr! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:57, 8 Mehefin 2017 (UTC)
Hyfforddi'r Hyfforddwyr!
golyguAwydd fod yn un o Hyfforddwyr Achredig Wicimedia Cymru? Mae cwrs yng Nghaeredin, drwy gyfrwng y Saesneg, ychydig cyn Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un o'n cymuned wici sy'n awyddus i gynnal sesiynau, golygathonau, grwpiau golygu neu gyflwyno gwyboaeth am brosiectau Wicimedia ayb. Wikimedia UK sy'n trefnu (ac yn talu), a bydd aelodau'r cwrs yn dod o nifer o wledydd.
Mae'r cwrs yn cael ei gynnal dros ddeuddydd: ar ddydd Mawrth 4 Gorffennaf am 9:30yb — 6:30yh a'r dydd Mercher (y 5ed) 9yb — 5yh. Ceir chwaneg o fanylion yma. Mae tri ohonom wedi'n hachredu: Marc Haynes, Aled Powell a finnau. Mae'r bwyd a'r cwrs am ddim, ac yn digon difyr; sgiliau cyflwyno, hyfforddi sy'n cael eu dysgu, nid sgiliau wici. Welwn ni chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:30, 8 Mehefin 2017 (UTC)
Canlyniadau etholiad 2017
golyguMae holl ganlyniadau etholiad 2017 yng Nghymru bellach wedi eu hychwanegu i dudalenau'r etholaethau AlwynapHuw (sgwrs) 16:37, 12 Mehefin 2017 (UTC)
- Gwych! A gwnaed AS yr Alban ddoe gan @Wici Rhuthun 1:. Angen rhestr o awgrymiadau i @Jason.nlw:, sy'n trefnu golygathon yn y LlGC ar yr etholiad. Awgrymiadau:
- Diweddaru erthyglau ar ASau Cymru - pwy sydd allan, / fewn
- Creu erthyglau newydd ar ASau gyda dolenni coch
- Diweddaru erthyglau ar ASau Lloegr
- Effaith Brecsit ar ganlyniad yr etholiad
- Diweddaru / ehangu'r erthyglau ar Corbin
- Nodi enwau prif weinidogion y Cabined
...
Golygathon yr Etholiad
golyguWel! Am Etholiad diddorol! Mae'n grêt i weld gymaint o waith yn cael i wneud i ddiweddaru cynnwys Wici. Er mwyn cael pwsh mawr ar y gwaith yma bydd Golygathon yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell genedlaethol ar Ddydd Mercher 21 Mehefin rhwng 5 a 8 er mwyn gweithio ar bob agwedd o Wleidyddiaeth. Mae croeso i unrhyw un cymryd rhan felly os wyt ti yn yr ardal, neu yn adnabod ryw'n efo diddordeb yn y maes manteisio ar y cyfle yma! Mae modd cofrestri am y digwyddiad trwy Eventbrite neu trwy Wicipedia . Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:18, 13 Mehefin 2017 (UTC)
Newyddion o'r Gen
golyguHelo pawb,
Hoffwn i ddechrau gyfrannu'n fisol (os d’win cofio!) I’r caffi, efo’r diweddaraf o’r Llyfrgell Genedlaethol, er mwyn i bawb wybod beth sydd ar y gweill. Ac er mwyn roi'r cyfle i bawb gyfrannu syniadau, awgrymiadau ayyb. Os wyt ti eisiau gwybod mwy am weithgareddau’r Llyfrgell Genedlaethol efo Wici ewch draw i’r tudalen prosiect neu cysylltwch â mi.
Felly dyma’r diweddaraf:
- Mae CADW wedi rhyddhau 30,000 o eitemau data I Wikidata, gyda chymorth gan y Llyfrgell.
- Mae Gwirfoddolwyr yn y Gen wedi logio 136.5 awr ar brosiectau Wici dros y mis diwethaf.
- Mae Golygathon yr Etholiad wedi eu cynnal yn llwyddiannus.
- Dros y mis nesaf byddaf yn cynrychioli Cymru trwy gyfrannu i’r cynadleddau LODLAM, Celtic Knot a ARLIS UK
Ma’ na’ nifer o ddatblygiadau mawr ar y ffordd felly cadw llygad mas am ragor o newyddion dros y misoedd nesaf. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:52, 22 Mehefin 2017 (UTC)
- Whaw! Mae hyn yn wirioneddol wych! Diolch Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:09, 24 Mehefin 2017 (UTC)
Wicipedia:Gwiriadrwydd
golyguMae na goblyn o waith ar ein Polisiau; dw i newydd greu Wicipedia:Gwiriadrwydd a charwn eich barn, a chadarnhad ei fod yn dderbyniol neu fel arall wrth gwrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:08, 24 Mehefin 2017 (UTC)
Wici Caerdydd - digwyddiadau golygu misol
golyguPa hwyl bawb ers tro. Heb fod yn golygu ers tro, ond mynychais gyfarfod cyntaf Wici Caerdydd nos Iau, ble roedd dwy olygydd y wici wedi trefnu noson i annog defnyddiwr eraill ac i ddangos sut mae'r tecyln cyfieithu'n gweithio. Daeth tipyn i'r noson, a braf oedd clywed mai'r bwriad yw gwneud y peth yn ddigwyddiad misol ble gall pobl gwrdd i olygu gyda'i gilydd. Roedd erthygl ar Golwg360 ac mae cyfrifon Twitter/Facebook i'w dilyn ar gyfer dyddiadau ac ati. --Rhyswynne (sgwrs) 20:20, 24 Mehefin 2017 (UTC)
- Datblygiad bendigedig. Braf bydd gweld sut mae’n datblygu. Os yw’n llwyddiant byddid gwerth ystyried creu grwpiau tebyg ym mhrif drefi eraill Cymru. AlwynapHuw (sgwrs) 04:56, 27 Mehefin 2017 (UTC)
Recordiau Sain yn rhoi 7,000 o ffeiliau sain ar Comin
golyguBraf iawn yw medru cyhoeddi fod Sain (Recordiau) Cyf. (www.sainwales.com) wedi rhoi dros 7,000 o'u ffeiliau sain - a 500 o luniau clawr - ar drwydded agored; mae nhw rwan ar Comin:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru uwchlwythodd y ffeiliau - a diolch am eu harbenigedd a'u gwaith. Hyd yma, llond dwrn o ffeiliau masnachol fel hyn sydd ar Comin, a hynny drwy'r byd mawr crwn. Mae hyn yn ddigwyddiad anferthol, a bydd llawer o bobl y byd mawr agored yn troi eu trem tuag at Gymru fach, mewn rhyfeddod pur!
Gyda thestun y Cydymaith Cerdd hefyd yn cael ei roi ar drwydded agored (dechrau 2018), mae yma brosiect a hanner! A sialens fawr o'n blaenau. Dewch a'ch syniadau!
Am ragor o wybodaeth trowch at fy mlog ar Wicimedia UK yn fama. Robin Owain aka Llywelyn2000 (sgwrs) 05:39, 26 Mehefin 2017 (UTC)
- Be di'r ffordd gorau o ddefnyddio'r clipiau sain? Defnyddio un David Lloyd (tenor) neu ragor Robert Roberts (Bob Tai'r Felin), gyda chyswllt at gomin, neu creu galeri o'r bali lot Tebot Piws AlwynapHuw (sgwrs) 04:46, 27 Mehefin 2017 (UTC)
- Os un, yna David Lloyd amdani, yfmi; ond os nifer, yna mae defnyddio <Gallery> yn bosib neu
- ddefnyddio Nodyn:Listen i gael nhw'n swpyn taclus - gan hepgor y 'disgrifiad' ee:
- Angen diweddaru: Wicipedia:Gosod ffeiliau sain a Wicipedia:Sain a fideo!! Mae gennym ni Nodyn:Gwrando hefyd, sydd ychydig yn wahanol i Nodyn:Listen ar hyn o bryd, sef:
- {{Gwrando|enw'r_ffeil=|teitl=Bugail Aberdyfi|disgrifiad=|fformat=[[Ogg]]}}:
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
- sydd ychydig fwy cymhleth na dy awgrym di, sef yr olaf o'r rhain ar y dde:
- Ond yn y pen draw, dylem drafod eu rhoi ar Wicidata ac (ac mae'n gas gen i ddweud hyn!) ar enwici iddyn nhw gael dos reit dda o Gymreictod! Yn sicr, mae na waith blwyddyn neu ddwy yma, ac mae angen prosiect, gyda chais yn mynd i Lywodraeth Cymru / Wicimedia am arian i hyfforddi pobl i'w wneud. Fel ag y mae, does na ddim digon ohonan ni! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:58, 27 Mehefin 2017 (UTC)
Llywelyn2000 (sgwrs) 11:15, 27 Mehefin 2017 (UTC)
Mae hwn hefyd yn un cynnil, da, diolch i @Dafyddt: ar yr erthygl Huw Jones (darlledwr):
Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn | Clip sain |
---|---|---|---|---|---|
"Y Ffoadur / Dewch I Ganu (La, La, La)" | Sengl 7" | Welsh Teldisc | WD 912 | 1969 | |
"Dŵr / Fy Ngwlad Fy Hun" | Sengl 7" | Sain | SAIN 1 | 1969 | |
"Paid Digalonni" | Sengl 7" | Sain | SAIN 3 | 1970 | |
"Gwylliaid Cochion Mawddwy" | Sengl 7" | Sain | SAIN 9 | 1970 |
- Llywelyn2000 (sgwrs) 11:15, 27 Mehefin 2017 (UTC)
- Fi'n hoff iawn o hwn. Da iawn @Dafyddt:! a diolch i Llywelyn2000 am rhannu y newyddion da am y clipiau. Hoffwn i defnyddio y data ar gyfer y clipiau i creu Wikidata ar gyfer yr albwms a'r bandiau hefyd pan fydd amser! Ond yn y gyfamser os mae unrhyw un eisiau mynediad i'r data sydd gennym, rowch gwybod. Jason.nlw (sgwrs) 21:36, 11 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Llywelyn2000 (sgwrs) 11:15, 27 Mehefin 2017 (UTC)
Wikidata changes now also appear in enhanced recent changes
golyguSymudwyd i'r gornel Saesneg.
Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia
golyguA wnewch chi leisio eich barn os gwelwch yn dda. Onid ydy hi'n hen bryd i ni ymffurfio'n 'Grŵp Defnyddwyr Wicimedia' (Wikimedia user groups), gyda'r enw Grŵp Defnyddwyr Wicimedia Cymraeg neu'n syml Wici Cymru (The Welsh Wikimedia user group). Mae'n angenrheidiol ein bod yn cadw ein hunaniaeth fel wici Cymraeg, yn creu ein rheolau ein hunain, yn hytrach na bod yn gyfieithiad o'r wici Saesneg. Gall Wikimedia UK barhau i gefnogi'n ariannol, a byddai hyn hefyd yn rhoi statws i ni a'r Gymraeg yn rhyngwladol ac yn uno'r ymdrechion presennol i ddatblygu'r wicis Cymraeg. Efallai, wedyn, y gallem fynd yr ail gam, fel y Catalwniaid, a ffurfio 'Grŵp Thematig'; ond un cam ar y tro! Dyma'r manylion ar Meta lle ceir engreifftiau o grwpiau defnyddwyr a'u logos. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:03, 4 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Cytuno’n llwyr. Pleidlais gadarn o blaid y syniad.AlwynapHuw (sgwrs) 01:09, 9 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Cytuno. Hapus iawn i roi fy enw i at hwn. Jason.nlw (sgwrs)
- Cytuno - Baswn i'n hapus i ychwanegu fy enw. Lesbardd (sgwrs) 08:45, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Wrth gwrs!!! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 08:53, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Carl Morris (sgwrs) 09:29, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Cymrodor (sgwrs) 10:07, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Deb (sgwrs) 10:15, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Prosiect Wici Mon (Sgwrs Defnyddiwr: Prosiect Wici Mon)
- Cytuno - Cytuno'n llwyr. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 13:48, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Yn sicr. Fy unig gwestiwn yw a dylsem ni fod yn galw'n hunain yn WiciCymru neu Wici Cymraeg? - Stefanik (Stefanik) 13 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Dafyddt (sgwrs) 10:23, 13 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Pwyll (sgwrs) 18:53, 14 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Cytuno. Heb os nag oni bai! Sian EJ (sgwrs) 08:33, 15 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Jac-y-do (sgwrs) 04:18, 16 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Cytuno - Cytuno’n llwyr. Pleidlais gadarn o blaid y syniad. Defnyddiwr:Duncan Brown (Llên Natur) (sgwrs), 17 Gorffennaf 2017
- Cytuno - Un arall yn llwyr o blaid. --Deri (sgwrs) 08:35, 19 Gorffennaf 2017 (UTC)
- ...
Hyd yma (18 Gorffennaf 2017) cafwyd 15 o blaid a dim un llais yn erbyn, hoffwn gyhoeddi ein bod wedi penderfynnu mynd ati i ffurfio Grŵp Defnyddwyr Wicimedia Cymru / Wikimedia Wales User Group (oni bai fod trafodaeth pellach ar yr enw hwn - gweler isod o fewn y pum diwrnod nesaf). Llywelyn2000 (sgwrs) 08:05, 18 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Trafodaeth
Mae'n edrych yn addawol! Parthed cwestiwn pwysig @Stefanik:, ceir sawl dewis: a) Cymraeg yn unig a b) Cymraeg a Saesneg (ac felly drwy gyfrwng y Saesneg!?) Model debyg i'r opsiwn cyntaf sydd gan y Basgiaid:
Basque Wikimedians User Group (officially EU Euskal Wikilarien Kultura Elkartea) is a group formed by active members of Basque Wikimedia projects who are interested in organizing and participating in outreach activities on a Basque Country level. Objectives: Diffusion of local and universal knowledge in Basque language by way of all kinds of free documents; Promotion of the use of the Basque Wikipedia by encouraging its edition and reading ayb...
'Wicimedia Cymru' fyddai'r enw gorau yn fy marn i. Yna, pe bai Cymry di-Gymraeg yn awyddus i weithredu yn Saesneg er bydd Cymru, gallan nhw ddechrau Wikimedia Wales a chreu partneriaeth anffurfiol gyda ninnau Wikimedia Cymru / Wicimedia Cymru. Ond mae sawl opsiwn yn bosib wedi i ni sefydlu'r egwyddor. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:14, 13 Gorffennaf 2017 (UTC)
Archifwyd y cynnig, y cadarnhad a'r penderfyniad yma: Wicipedia:Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia.
Ceir trafodaeth gyfoes a'r digwyddiadau diweddaraf yma. - sylwch fod angen cefnogaeth pellach i'r cynnig yma.
- Derbyniwyd ein cais gan Ffedrerasiwn Wicimedia ar y 1af o Chwefror, 2017.
Rwan mae'r gwaith yn dechrau! Gwyliwch y ddalen yma am ragor o wybodaeth. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 09:32, 6 Chwefror 2018 (UTC)
- Y cam nesa yw i'r ddau a gytunodd i gefnogi'r cais (rhoi eu henwau i'r cais) uwchlwytho'r cytundeb. Angen gwneud hyn ar frys @AlwynapHuw: a @Peladito: - ebostiwch eich gilydd i drefnu ogydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 23 Chwefror 2018 (UTC)
Baneri Wikipedia
golyguMae 'na thrafodaeth sy’n troi'n eithaf cas, ysywaeth, parthed yr anawsterau o gyfieithu'r baneri sy’n ymddangos o bryd i’w gilydd uwchben tudalennau'r wahanol safleoedd wici ar Wikimedia Forum. Mae’r baneri yn ymddangos yn yr iaith Saesneg, fel arfer, gyda dolen i gynnig cyfieithiad i iaith y wici lleol. Mae gan bawb yr hawl i gynnig cyfieithiad ond dim ond llond dwrn o uchel arglwyddi Wikipedia sydd a’r hawl i’w cyhoeddi. Mae’r cyfan o’r uchel arglwyddi yn ddi-gymraeg, sydd yn peri nifer o broblemau.
- Gan fod cyn lleied o bobl a’r hawl i gyhoeddi cyfieithiadau, gall cymryd dyddiau i’r cyfieithiad cael ei dderbyn a’i gyhoeddi.
- O’i gyfraniadau i’r drafodaeth ymddengys bod gan o leiaf un o’r uchel arglwyddi agwedd imperialaidd wrthwynebus i fodolaeth y Gymraeg
- Gan fod gan unrhyw un yr hawl i gynnig cyfieithiad mae’n bosib cynnig cyfieithiad anghywir neu’n waeth byth un sy’n fasweddol, enllibus neu’n ‘’graffiti’’, yn gwbl ddi-glem i’r cyhoeddwyr.
Gan nad yw’r awdurdodau yn fodlon rhoi’r hawl i Gymro Cymraeg cyhoeddi cyfieithiadau i'r Gymraeg, hoffwn awgrymu ein bod yn rhwystro baneri rhag ymddangos ar ein parth ni o safle Wikepedia. AlwynapHuw (sgwrs) 13:12, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Mae gan y boi sawl mater anghwrtais ac anghywir, felly dw i ddim am barhau efo'r drafodaeth. Cytuno efo Alwyn. Dim ond fi sy'n cyfieithu ers i Eleri roi gorau iddi 3 / 4 mlynedd yn ol, ac wedi cyfieithu, dydyn nhw ddim yn ymddangos. Pan ddaw baner sy'n werth ei chyfieithu, yna mi allwn ei rhoi yn yr Hafan ein hunain. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:02, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
Prosiect Wici-Iechyd
golyguHelo pawb. Mae pleser gen i gyhoeddi bod prosiect Wici newydd ar y gweill. Unwaith eto mae’r Llywodraeth wedi rhoi arian i’r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn rhedeg prosiect i wella cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg. Y tro yma Iechyd bydd y pwnc – Pwnc arall sydd yn boblogaeth iawn ar y Wici Cymraeg ond hefyd yn bwnc efo prinder mawr yn y cynnwys.
Byddwn yn aneli at greu 3000 o erthyglau newydd dros y gaeaf trwy gynnal digwyddiadau, trwy gydweithio efo arbenigwyr yn y maes, trwy brosiectau cyfieithu a trwy gael caniatâd i gyhoeddi testun parod ar Wicipedia.
Mae modd mynychu’r prosiect yma. Mae llawer o bynciau amlwg i daclo fel man cychwyn, ond mae 'na’ tasg cyfieithu wedi sefydlu ar y tudalen prosiect hefyd i’r rai sydd efo diddordeb.
Cofiwch ychwanegu’r category:Prosiect Wici-Iechyd I unrhyw erthygl chi’n creu ar y pwnc Iechyd.
Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:39, 20 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Prosiect rhagorol arall, a llongyfarchiadau i Jason.nlw am sicrhau nawdd i’w gynnal. Dau bwynt bach am erthyglau am iechyd:
- Dylai unrhyw erthygl am iechyd / afiechyd cynnwys nodyn efo eiriad tebyg i “Rhybudd! Peidiwch â defnyddio’r we i greu hunan ddiagnosis o gyflwr meddygol. Os ydych yn pryderu am eich iechyd cysylltwch â gweithiwr iechyd proffesiynol megis meddyg teulu, nyrs neu fferyllydd.”
- Dylai bod modd canfod erthyglau trwy ddefnyddio termau bywyd pob dydd, nid jest termau meddygol safonol. E.e.: trwyn yn gwaedu nid epistacsis yn unig. AlwynapHuw (sgwrs) 01:38, 3 Awst 2017 (UTC)
- Cyn trafod iechyd / afiechyd mae’n rhaid cael erthyglau am y rhannau o’r corff sydd am gael eu heffeithio. Rwyf wedi ceisio rhoi dechrau arni trwy gyfieithu List of organs of the human body i Rhestr o organau'r corff dynol gan ddefnyddio Termiadur, GPC, y Briws a Mosby’s Medical & Nursing Dictionary; ond mae angen ei wirio i sicrhau bod y termau rwyf wedi eu defnyddio yn cysylltu i erthyglau, dan derm arall, ar yr un pwnc. Wedi ei wirio rwy’n fodlon mynd ati, yn araf bach, i doi’r dolenni coch yn las (ond heb annwybyddu fy nghyfeillion annwyl o ASau Rhyddfrydol y 19 ganrif). AlwynapHuw (sgwrs) 04:03, 3 Awst 2017 (UTC)
- @AlwynapHuw: Helo Alwyn!, Mae fy ngwirfoddolwyr yn y Gen newydd gychwyn ar gyfieithu erthyglau Iechyd o'r Saesneg i'r Gymraeg gan gychwyn efo'r lincs coch ar Rhestr o organau'r corff dynol. Dyma'r erthygl gyntaf, sef Sgerbwd dynol. Ni wedi sylwi nid yw pob linc goch yn cyfateb i'r ffordd mae'r cynnwys wedi eu cyflwyno yn Saesneg, a mae na rai sydd yn bodoli yn Gymraeg yn barod o dan teitl arall. Er enghraifft yr ail linc goch ar y tudalen yw Uniadau, Ond teitl yr erthygl Saesneg yw en:Joint (unigol) sydd yn cysylltu i'r erthygl Cymraeg Cymal (anatomeg). Enghraifft arall yw Tendonau a Tendon. Fi heb fod trwy'r cyfan felly mae'n bosib bod mwy hefyd, felly byddaf yn ddiollgar iawn am eich arbenigedd i roi trefn i'r tudalen - Fel enghraifft oes angen erthygl am Uniadau ar wahân i Cymal (anatomeg)? Pa enw sydd yn gywir?.Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw help, er mwyn gwneud bywyd yn haws i'r merched sydd yn cyfieithu yma yn y Gen. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:13, 13 Medi 2017 (UTC)
- Pam fod y categori Categori:Prosiect Wici-Iechyd yn gudd? Hoffwn wybod fy mod yn cyfrannu i brosiect, yn hytrach na’r unig un sy’n cyfrannu erthyglau iechyd. Pe na bawn yn cyfrannu i erthyglau iechyd, byddwn yn cyfrannu i erthyglau ASau, pentrefi Llydaw ac ati. Dyw’r hyn rwyf wedi cyfrannu at wici-iechyd heb gynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg! Fel nyrs cofrestredig, rwy’n gwybod fy stwff, a gallwn gyfrannu i erthyglau iechyd, ac yn hapus i wneud hynny. Cyn belled a bod y fath prosiectau yn creu cyfranwyr newydd yn hytrach na ddwyn fy amser rhag creu erthyglau ar fy hoffter o greu erthyglau am hanes gwleidyddol Cymru AlwynapHuw (sgwrs) 04:16, 7 Awst 2017 (UTC)
- Gwych Alwyn; dw i'n gweld dy rol di fel un bras, ymgynghorol! Eu cadw nhw ar y trywydd iawn, fel y gwnei wrth bwysleisio 'termau bywyd pob dydd'. 'Bras', yn yr ystyr fod dy erthygl Rhestr o organau'r corff dynol yn rhoi golwg bras o'r pwnc ac yn nodi hyd a lled a swmp y gwaith. [DS Mae rhai o'r dolennau coch ar gael yn barod, mi af ati i ailgyfeirio rhai enwau]. Categori - rhywbeth ar gyfer y golygyddion ydy prosiectau, ac nid y darllenydd cyffredin. Rhag ei ffwndro'n ormodol, rhoddir y categori'n guddiedig. Ond wrth cwrs mae categoriau eraill sy'n weladwy. Cytuno mai creu golygyddion newydd yw bwriad prosiectau fel hyn, nid arallgyfeirio amser golygyddion presennol. Boed i bawb fynd ati yn ol ei ddiddordeb ei hun! Ond ar yr un pryd, mae'n wych gweld ymosodiad wedi'i gyd-gordio ar un pwnc.
- Dalier sylw fod Llywodraeth Cymru'n cynnig hyd at £20,000 o nawdd, a gall unrhyw un sydd a diddordeb wneud cais ee ar y cyd gyda'r llyfrgell leol, menter iaith neu'r coleg lleol. Gall y grwp defnyddwyr newydd fynd ati hefyd, os oes gan rywun awydd. Os ydych am sgwrs ebostiwch fi ar: wicipediacymraegATgmail.com. neu fy ebost wici (ewch i fy nhudalen defnyddiwr a mi wneith y ddolen ymddangos). Byddai grwp cefnogi Prosiect Wici Iechyd yn wych, neu unrhyw faes arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:38, 9 Awst 2017 (UTC)
- Newydd gyfieithu'r Nodyn:System wrin a'i ychwanegu ar dy 'Rhestr o organau'r corff dynol'; mae'r termau'n dod o Eiriadur Bruce, ond croeso i ti eu diweddaru, gan nad yw Geiriadur hwnnw wedi'i ddiweddaru ers 2005! Dw i hefyd wedi ychwanegu'r Saesneg mewn cromfachau, nes bod yr erthyglau wedi'u creu, neu mi fydd na smonach (dwbwl y gwaith!) Fyddai hi'n help pe bawn yn addasu'r wybodlen ar gyfer pob system, a'u hychwanegu ar dy Restr?? Fel hyn, mae'r golwg bras, y patrwm mawr yn cael ei wneud yn gyntaf, cyn creu'r erthyglau unigol, y manwl. Awgrymiadau / gwelliannau? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:16, 9 Awst 2017 (UTC)
- @Llywelyn2000, AlwynapHuw: Diolch yn fawr iawn am eich gwaith, a'r drafodaeth am Brosiect Wici_Iechyd. Diolch arbennig i Alwyn am eich cyfraniad sylweddol i'r prosiect hyd yma. Bydd y prosiect yn dechrau symud yn gyflymach pan fyddaf yn ôl yn y gwaith ym Mhis Medi. Mae yna drefniadau i gynnal nifer o golygathonau er mwyn annog golygyddion newydd, a byddaf yn gweithio yn galed i gael mynediad agored i gynnwys da sy'n bodoli yn barod, ond fi'n credu bod gwaith cychwynnol Alwyn yn rhoi fframwaith gwych i ni, a'r bwriad yw, i gael rhagor o olygyddion eraill i helpu efo'r gwaith yma. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:33, 9 Awst 2017 (UTC)
Pryd mae rhywbeth yn ymddangos fel "Erthygl Newydd"?
golyguS'mae bawb, wedi decrhau cyfrannu'n fwy rheolaidd a sylweddol yn ddiweddar gan fy mod eisiau gweld y wici yn tyfu. Eisiau wgwybod roeddwn i am yr adran "Erthyglau newydd" ar y prif dudalen. Beth sy'n penderfynu os yw erthygl yn ymddangos yno neu beidio? Mae rhai o fy nghyfraniadau ee. Pensaerniaeth Friwtalaidd wedi ymddangos on nifer eraill ee Bill Evans heb wneud. Oes rheol ynglŷn â ee. rhaid i erthygl fod o hyd benodol (er enghraifft) cyn iddo ymddangos? Figaro-ahp (sgwrs) 13:53, 4 Awst 2017 (UTC)
- Pwynt difyr. Mae Wicipedia wedi bod yn hybu Wici-Iechyd yn diweddar, ond er yr UNIG gyfranwr i’r prosiect, hyd yma, dim un cyfraniad wedi ymddangos yn yr adran Erthyglau newydd AlwynapHuw (sgwrs) ) 04:36, 8 Awst 2017 (UTC)
- Yw'r rhestr yn cael ei phoblogi'n awtomatig neu a oes rhywun sy'n dethol pa erthyglau sy'n ymddangos? Figaro-ahp (sgwrs) 08:37, 8 Awst 2017 (UTC)
- Deb sydd yn diweddaru y rhestr bob dydd mwy neu lai. Mae'n ychwanegu un erthygl y diwrnod a dileu yr olaf (nid o angenrheidrwydd wedi ei greu y diwrnod hynny). O be dwi'n weld mae'n dewis un diddorol newydd, a nid bywgraffiadau fel rheol. Dyw e ddim fod yn rhestr gynhwysfawr - mae hynny i'w weld o "Newidiadau diweddar", dim ond rhyw bigion o'r cynnwys newydd am wn i.--Dafyddt (sgwrs) 08:58, 8 Awst 2017 (UTC)
- Gallwch adael neges ar dudalen unrhyw Weinyddwr os dymunwch neu adiwch nhw eich hun (hyn chydig bach yn naff). Y syniad oedd fod Deb yn niwtral gan nad yw'n creu erthyglau (mond egin). Mae nhwn cael lot o hits gan eu bod yn yr Hafan. Ond fel ma Daf yn deud, does dim isio pob un wan jac! 2.29.205.197 09:12, 8 Awst 2017 (UTC)
- Deb sydd yn diweddaru y rhestr bob dydd mwy neu lai. Mae'n ychwanegu un erthygl y diwrnod a dileu yr olaf (nid o angenrheidrwydd wedi ei greu y diwrnod hynny). O be dwi'n weld mae'n dewis un diddorol newydd, a nid bywgraffiadau fel rheol. Dyw e ddim fod yn rhestr gynhwysfawr - mae hynny i'w weld o "Newidiadau diweddar", dim ond rhyw bigion o'r cynnwys newydd am wn i.--Dafyddt (sgwrs) 08:58, 8 Awst 2017 (UTC)
- Yw'r rhestr yn cael ei phoblogi'n awtomatig neu a oes rhywun sy'n dethol pa erthyglau sy'n ymddangos? Figaro-ahp (sgwrs) 08:37, 8 Awst 2017 (UTC)
- Forgive me for answering in English. There is no restriction on who can add new pages to "Erthyglau Newydd", nor any restriction on how many can be added. I tend to have a look once or twice a day. Quite often there are no new articles, so I might store them up over a few days and add them during the famine. Also, if there are lots of stub articles created by a bot, I tend only to include one or two. I try and pick a selection so we don't have just a list of biographical articles or town articles at any one time. I also don't include them until they've been patrolled. I don't have any objection to us formulating a policy on this. Deb (sgwrs) 13:02, 8 Awst 2017 (UTC)
- This is a sound basis for a policy! Diolch Deb! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 9 Awst 2017 (UTC)
Diolch am yr eglurhad bawb. Figaro-ahp (sgwrs) 10:23, 9 Awst 2017 (UTC)
- Diolch am yr eglurhad Deb yn sicr mae'n well bod hyn yn cael ei wneud a llaw yn hytrach nag yn awtomatig. Rwyf wedi creu 100 erthygl ar gymunedau Ffrainc mewn un noson (ac yn bwriadu gwneud eto, toc), byddai'n hurt pe bai'r cwbl yn llenwi'r blwch Erthyglau Newydd (er ei fod yn neis pan fo un neu ddwy yn cael eu dethol). Ydy'r un cyfundrefn yn gweithio efo erthyglau sy'n ymddangos ar Twitter?
- Haha! Edrych ymlaen i weld yr erthyglau newydd! Twitter - Defnyddiwr:Oergell (Carl) sydd wedi llunio @Wicipedia ei hun i otomeiddio'r trydariadau, ac mae'n eitha poblogaidd. Fel arall, fydden nhw ddim yn cael eu trydar! Ond nid yw pob erthygl yn ymddangos ar Twitter, chwaith - ers i lun chydig yn 'anweddus' (yn ol rhai) gael ei drydar yn ddiweddar. Ers hynny mae na sawl ffiltr yn ei le i wrthod rhai erthyglau. Y rheswm am y gwahaniaeth rhwng y ddau lwyfan ydy bod Wicipedia'n fwy agored na Twitter. Llywelyn2000 (sgwrs) 02:38, 16 Awst 2017 (UTC)
Pwll Tywod
golyguHelo pawb,
Hoffwn i ychwanegu pwll tywod i'r Wici Cymraeg er mwyn helpu efo'r broses o hyfforddi golygyddion newydd, ac er mwyn gwneud bywyd yn haws i wirfoddolwyr. Felly hoffwn i gael barn y gymuned ar hyn cyn bwrw ymlaen efo'r cais. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 13:26, 11 Awst 2017 (UTC)
- Mae Wicipedia:Pwll tywod yn bodoli'n barod. Yr hyn sydd ddim gennym ydy botwm ar y top yn nodi hynny. Mae'n eitha hawdd ei droi ymlaen, os ti awydd; cysyllta efo Richard nevelle yn gyntaf gan ei fod (os cofiaf yn iawn) wedi dechrau ar y gwaith. Yn bersonnol, mae'n well gen i ddefnyddio fy mharth-defnyddiwr (userspace), ond efallai fod botwm yn haws i olygydd newydd. Gyda llaw, does dim raid i ti gytuno efo ti dy hun! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:43, 11 Awst 2017 (UTC)
- Diolch Robin. Fi'n credi bydd Pwll Tywod go-iawn fel yr un sydd ar y Wici Saesneg, yn ddefnyddiol iawn i hyfforddwyr. Mae angen i ni wneud cais ar Phabrocator er mwyn troi hwn ymlaen a mae angen cytundeb y gymuned.
@AlwynapHuw, Lesbardd, Carl Morris, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown: (a pawb arall!) Byddaf yn ddiolchgar iawn i gael eich pleidlais ar y mater yma - sef Pwll Tywod, ie neu na? Diolch Jason.nlw (sgwrs) 01:29, 15 Awst 2017 (UTC)
- Syniad da! Deb (sgwrs) 06:55, 15 Awst 2017 (UTC)
- Cytuno - Ie mi fyddai pwll tywod penodol yn ddefnyddiol. Mae tudalennau pwll tywod o fewn parth defnyddwyr yn cael eu cynnwys mewn chwiliadau ac ati ac yn boen weithiau. --Dafyddt (sgwrs) 09:54, 15 Awst 2017 (UTC)
- Dydy o ddim yn flaenoriaeth i mi, ond os ydy Dafydd a Llyw yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol... amdani! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:50, 15 Awst 2017 (UTC)
- Ymlaen! Y gwahaniaeth pwysicaf i mi, Dafydd, ydy fod y blwch tywod penodol yn un dros dro, a'r blychau tywod defnyddwyr (ee Defnyddiwr:Llywelyn2000/Seintiau Cymru yn rhai sydd ddim yn cael eu carthu'n ddyddiol, ac yn fwy parhaol. Mae lle i'r ddau! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:04, 15 Awst 2017 (UTC)
- Yn bersonol, mae'n well gen i fy nhudalen fy hun, ond os mae pwll tywod yn ddefnyddiol i bobl erail, pam lai? Lesbardd (sgwrs) 15:28, 15 Awst 2017 (UTC)greu ar dudalen defnyddiwr
- Ymlaen! Y gwahaniaeth pwysicaf i mi, Dafydd, ydy fod y blwch tywod penodol yn un dros dro, a'r blychau tywod defnyddwyr (ee Defnyddiwr:Llywelyn2000/Seintiau Cymru yn rhai sydd ddim yn cael eu carthu'n ddyddiol, ac yn fwy parhaol. Mae lle i'r ddau! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:04, 15 Awst 2017 (UTC)
- Cytuno Gyda llaw mae camgymeriadau a smonach ar dudalen defnyddiwr yn weladwy trwy fotwm chwilio'r safle a thrwy Gwglo. Mantais pwll tyfod defnyddiwr yw cudd fy meiau rhag y werin ys medd Pantycelyn AlwynapHuw (sgwrs) 02:55, 16 Awst 2017 (UTC)
@Jason.nlw: - Mae'r Pwll Tywod yn edrych yn wych, Jason - diolch! Mae rhai o'n golygyddion eisioes yn ei ddefnyddio. Gwych! @AlwynapHuw: - ddylai cynnwys dalennau Sgwrs ddim cael eu rhestru yn Google, felly mi holaf ar Phabrocator a oes modd ei newid, fel nad ydynt i'w canfod. Mater bach ydy hyn efo HTML ond dw i ddim yn sicr a oes iaith arall wedi gwneud hyn. Synwn i fwnci! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:36, 13 Medi 2017 (UTC)
Caniatad BOT i newid Nodyn:Cite book yn Nodyn:Dyf llyfr
golyguWneith un o'n golygyddion roi'r ok i mi drwsio tua 90 nodyn gwallus asap efo Defnyddiwr:BOT-Twm Crys, plis! Mae'r rhesymeg dros hynny yma. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:12, 29 Awst 2017 (UTC)
- Os yw'r Nodyn yn ddiffygiol, yna oni ddylid ei gywiro? Sian EJ (sgwrs) 11:47, 29 Awst 2017 (UTC)
- Diolch am dy gyfraniadau heddiw! Ynglyn a hwn - does dim angen caniatad, fel rheol, ond gyda botiau - oes! Tydy o ddim wedi digwydd pob tro, ond fe ddylid gwneud hynny, gan y gall achosi llanast llwyr! Mi a i ymlaen felly! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:15, 29 Awst 2017 (UTC)
- Roedd llai na'r amcangyfi - 21 i gyd. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:41, 29 Awst 2017 (UTC)
- Mae Nodyn:Dyf llyfr yn gweithio. Bendigedig! Ond ar hyn o bryd mae yna broblem gyda Nodyn:Cite book. Yn yr achosion hynny lle defnyddiwyd Cite book, mae'r holl destun yn ymddangos mewn italig, hyd yn oed enwau awduron, dyddiadau ac ati. Mae hyn yn digwydd yn unig ar cywiki; mae'r un cod yn gweithio'n gywir ar enwiki. --Craigysgafn (sgwrs) 11:39, 8 Tachwedd 2017 (UTC)
- Roedd llai na'r amcangyfi - 21 i gyd. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:41, 29 Awst 2017 (UTC)
- Diolch am dy gyfraniadau heddiw! Ynglyn a hwn - does dim angen caniatad, fel rheol, ond gyda botiau - oes! Tydy o ddim wedi digwydd pob tro, ond fe ddylid gwneud hynny, gan y gall achosi llanast llwyr! Mi a i ymlaen felly! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:15, 29 Awst 2017 (UTC)
Wici Henebion 2017
golyguCofiwch fod cystadleuaeth Wici Henebion 2017 yn para drwy gydol Medi. Uwchlwythwyd 250 o ddelweddau yn ystod yr wythnos diwethaf. Melys moes mwy! Gallwch uwchlwytho yma er mwyn rhoi'r lluniau yng Ngategori 'Cymru' yn otomatig. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:06, 8 Medi 2017 (UTC)
Wel fe gafwyd cryn swp o luniau o Gymru eleni! Dyma'r canlyniad:
- Cymru - 6,822
- Lloegr - 5,419
- Yr Alban - 2,099
- Gogledd Iwerddon - 28
Ia, fe uwchlwythwyd fwy o luniau o Gymru nag erioed. Mae hollti'r gwledydd hyn wedi cymryd tipyn o waith; un categori sydd gan WikimediaES ac it. Mewn cymhariaeth, 726 oedd gany Basgiaid. ac ni chredaf fod y Cataloniaid na'r Llydawyr wedi didoli eu lluniau i gategori ar gyfer eu gwald.
Y bore ma, ychwanegodd y Basgiaid 10 llun ar y brif ddalen 'Enillwyr' - y wlad cyntaf i wneud hynny!
Mae tri ffotograffydd (nid Wicipedwyr) wedi dethol y deg llun canlynol i gynrychioli Cymru - y rhan fwyaf o'r Categori lluniau o ansawdd da:
-
Castell Caernarfon
-
Castell Dolbadarn
-
Bedd John Trefor
-
Llyn Llanwddyn
-
Pont Rhedynfre
-
Pier Llandudno
-
Sant Mihangel Penybryn
-
Pont Casnewydd
-
Banc y Midland, Caerdydd
-
Llangollen
A byddaf yn eu hychwanegu (am y tro cyntaf) fel 'y 10 o Gymru' yn hytrach na '10 o'r uk'. Rhowch wybod cyn 4.00 heno os ydych yn anghytuno; diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:05, 18 Hydref 2017 (UTC)
- Newydd eu rhoi (am y tro cyntaf!) ar wefan WLM; mae hyn rwan yn gorfodi Lloegr i roi eu nifer nhw neu dynnu ein rhai ni i lawr! Cadwch lygad ar y ddalen! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:53, 18 Hydref 2017 (UTC)
- Goroesodd y lluniau tan heddiw'r bore pan roddwyd nhw o dan y pennawd Other; mae nhw bellach wedi'u dileu. Dw i wedi gadael neges ar y Sgwrs. Trist iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:07, 24 Hydref 2017 (UTC)
Trefnu'r ieithoedd yn ôl yr Wyddor Gymraeg
golyguMae'r rhestr ieithoedd (ar y chwith) yn chwithig iawn i ni! Cyn y medraf wneud cais i'w drefnu'n gywir, mae angen cefnogaeth y gymuned. Gynted ag y caf 4 neu 5 yn cytuno, mi osoda i'r cais ar Phabricator. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:42, 21 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:50, 21 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - Ond beth fyddai'r drefn gywir, neu well? --Dafyddt (sgwrs) 12:35, 21 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - Wrth gwrs! Sian EJ (sgwrs) 16:50, 22 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - Hurt bod angen gwneud cais am beth mor elfennol AlwynapHuw (sgwrs) 01:17, 27 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - diddorol sylw Dafydd! Gwell, efallai'n cynwys z (Zürich), x (Xi Jinping ayb...? Ond beth am symbolau ieithoedd eraill hefyd? Efallai bod rhain yn taken for granted? Celtica (sgwrs) 10:41, 27 Medi 2017 (UTC)
Creu canllaw i drwyddedau a rhannu
golyguDw i'n ystyried creu canllawiau yn Gymraeg sy'n esbonio arfer da o ran mabwysiadu trwydded(au) a rhannu cynnwys yn y Gymraeg, gan gynnwys enghreifftiau o lwyddiannau sydd wedi bod yng Nghymru hyd yn hyn.
Mae llawer iawn o potensial i helpu sefydliadau/cwmnïau a grwpiau eraill yng Nghymru gyfrannu cynnwys at Wicipedia Cymraeg, megis delweddau, fideos, testun ac ati. Er bod rhai o sefydliadau eisoes yn cyfrannu cynnwys mae llawer iawn sy'n debygol o ddymuno llwyddiant i Wicipedia Cymraeg ond sydd ddim yn gwybod lle i ddechrau o ran rhannu eu cynnwys.
Er mwyn cydweithredu'n effeithiol gyda nhw mae angen hybu dealltwriaeth o drwyddedau a hawlfraint mewn perthynas â rhannu cynnwys Cymraeg ar-lein. Mae elfennau a thermau sydd ddim yn amlwg i bobl sydd heb gyfrannu o'r blaen, e.e. pa drwydded(au) sydd mwyaf addas, beth yw ystyr a phwysigrwydd CC-BY-SA, CC0 a'r parth cyhoeddus i Wicipedia Cymraeg.
Wrth gwrs mae pobl yma sy'n ceisio gwneud y gwaith o gyflwyno'r achos a cheisio hybu dealltwriaeth ar lafar ayyb. Dw i'n credu bod angen cael adnoddau ar y we yn ogystal.
Mae'r adnoddau sy'n bodoli yn barod yn anelu at unigolion (enghraifft). Dw i am barhau i helpu unigolion ond mae angen ymdrech arbennig i gyrraedd sefydliadau/cwmnïau a grwpiau eraill dw i'n meddwl.
Y bwriad yw i roi un dolen i unrhyw sefydliad, cwmni, grwp neu unigolyn sy'n gallu cyfrannu.
Pwy sydd eisiau gweld canllawiau Cymraeg o'r fath? --Carl Morris (sgwrs) 11:26, 22 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - mae hyn yn rhoi mwy o statws a hygredd i ni! Yn Saesneg mae nhw ar hyn o bryd! Da iawn! @Llywelyn2000, Ham II, Dafyddt, Jason.nlw, Adam, Pwyll, Jac-y-do: '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:59, 22 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno - mae hyn yn greiddiol i unrhyw ddatblygiad! Diolch Carl! Sian EJ (sgwrs) 16:26, 22 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno: Gwych! Gwirioneddol ei angen! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:24, 22 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno: Grêt. Bydd hyn yn defnyddiol iawn. @Oergell, PelaDiTo: Er gwybodaeth mae'r Llyfrgell Gen wedi bod yn ystyried cyfieithu'r Europeana Licensing Framework i'r Gymraeg hefyd - Hapus i drafod. Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 25 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno: Cytuno'n llwyr y dylai'r canllawiau fod ar gael yn Gymraeg, a Fframwaith Drwyddedu Europeana hefyd. PelaDiTo (sgwrs) 00:57, 26 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno: Syniad bendigedig AlwynapHuw (sgwrs) 01:15, 27 Medi 2017 (UTC)
- Cytuno Celtica (sgwrs) 10:41, 27 Medi 2017 (UTC)
Problem gyda chyfesurynnau
golyguY bore yma mae'r holl dudalennau sy'n defnyddio { {Infobox} } yn dangos y neges wall "{ {#coordinates:} }: cannot have more than one primary tag per page". Roedd yr holl dudalennau hyn yn gweithio'n gywir hyd at ddoe. Nid yw'r cod ar y tudalennau wedi newid. --Craigysgafn (sgwrs) 09:26, 14 Hydref 2017 (UTC)
- Mae'n broblem leol sydd dim ond yn digwydd yn y Gymraeg. Rwy'n tybio (ond dim yn sicr) mae bot sydd wedi roi cyfesyrynnau uwch law gwydodlen yn ogystal ac yng nghorff y gwybodlen. Mae'n effeithio ar dros 13 mil o dudalennau, (canran sylweddol o'n erthyglau) mae wir angen ei sortio! AlwynapHuw (sgwrs) 06:10, 15 Hydref 2017 (UTC)
- Diolch am dynnu ein sylw at hyn. Fi sy'n euog, dw i'n siwr! Mi wnes i gopio'r modiwlau diweddaraf fore ddoe, fel y gwelwch yma a mi chwilia i bed di'r broblem y bore ma. Da ni wedi cael trafferth efo'r cyfesurynnau dros y 4 mlynedd diwetha, gyda Defnyddiwr Hayworth wedi ceisio ei ddatus, heb fawr o lwc! Fo sy wedi creu'r rhan fwyaf o wybodleni ar en. Dydy BOT-Twm Crys ddim yn newid Nodion. Do bu'n brysur iawn y tridia dwaetha, yn newid Glyndwr yn ddau air a throi'r canrifoedd i'r dull diweddaraf, ond dim un modiwl na Nodyn! Gadwch o efo fi am chydig a mi ddoi nol. Dw i'n meddwl mai'r angen mewnforio un neu ddau modiwl / Nodyn ychwanegol / coll sydd ei angen. Dw i'n meddwl fod Alwyn wedi rhoi ei fys ar y broblem o ran yr infobox. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 15 Hydref 2017 (UTC)
- Diolch am gywiro hynny mor gyflym! --Craigysgafn (sgwrs) 09:05, 15 Hydref 2017 (UTC)
- Diolch am dynnu ein sylw at hyn. Fi sy'n euog, dw i'n siwr! Mi wnes i gopio'r modiwlau diweddaraf fore ddoe, fel y gwelwch yma a mi chwilia i bed di'r broblem y bore ma. Da ni wedi cael trafferth efo'r cyfesurynnau dros y 4 mlynedd diwetha, gyda Defnyddiwr Hayworth wedi ceisio ei ddatus, heb fawr o lwc! Fo sy wedi creu'r rhan fwyaf o wybodleni ar en. Dydy BOT-Twm Crys ddim yn newid Nodion. Do bu'n brysur iawn y tridia dwaetha, yn newid Glyndwr yn ddau air a throi'r canrifoedd i'r dull diweddaraf, ond dim un modiwl na Nodyn! Gadwch o efo fi am chydig a mi ddoi nol. Dw i'n meddwl mai'r angen mewnforio un neu ddau modiwl / Nodyn ychwanegol / coll sydd ei angen. Dw i'n meddwl fod Alwyn wedi rhoi ei fys ar y broblem o ran yr infobox. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 15 Hydref 2017 (UTC)
Uwchlwytho delweddau i Comin
golyguGan fy mod wedi rhoi'r gorau i gyfrannu i'r wici Saesneg ers tro, mae'r mwyafrif o ddelweddau rwyf wedi eu huwchlwytho wedi eu rhoi yma'n unig. Ond wrth i ni ddefnyddio wicidata i greu gwybodleni, prin yw'r delweddau rwyf wedi eu cyfrannu sydd ar gael i bawb. Oes modd i fi, neu bot, trosglwyddo pob un llun rwyf wedi cyfrannu i Gomin? Neu oes raid imi eu huwchlwytho mesyl un? Dim yn credu fy mod wedi roi delwedd iffi ar y wici Cymraeg, na fyddai'n dderbyniol ar lwyfan ehangach (gobeithio)!AlwynapHuw (sgwrs) 04:03, 16 Hydref 2017 (UTC)
- @Ham II, Lesbardd: Mi fues i'n meddwl am hyn ddoe, ac o ran ffotograffau Les Barker (Lesbardd). Dim ond delweddau Defnydd Teg sydd eu hangen ar cywici mewn gwirionedd. Dw i'n siwr bod na fot i wneud y job yn sydyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:11, 16 Hydref 2017 (UTC)
- https://tools.wmflabs.org/commonshelper/ ? Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 11:21, 26 Hydref 2017 (UTC)
- Thanks Richard. This tool transfers them individually; Les has c. 500 images. Maybe someone from Commons would like to do the work. :@Ham II:? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:41, 26 Hydref 2017 (UTC)
- https://tools.wmflabs.org/commonshelper/ ? Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 11:21, 26 Hydref 2017 (UTC)
- Dim yn gweithio - pob ymgais yn ddweud nad yw'r "hawl" yn dderbyniol! AlwynapHuw (sgwrs) 03:33, 27 Hydref 2017 (UTC)
- Erthygl a rhestr o declynau eraill en:Wikipedia:Moving files to Commons. Mi gai lwc cyn hir Al, ond mae pethe'n brysur ar hyn o bryd! Os ti'n styc, gofyn i'r boi wnaeth greu'r teclyn; enw yn y tabl yn y ddolen. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:27, 8 Tachwedd 2017 (UTC)
Prosiect Wicidata ar y Cynulliad
golyguHaia bawb! Dw i'n trio trefnu hacathon yng Nghaerdydd - yn y Bae, gobeithio, ac fel rhan o hynny, dechreuwyd Prosiect Wicidata. Mae rhan ohono bron yn barod i fynd ar yr erthyglau ar bob un o'r 5 Cynulliad sydd wedi bod hyd yma: ar fy mlwch tywod. Andrew Grey sydd wedi bod wrthi, yn paratoi'r data i ni wneud chydig o hyd a lledrith efo fo - a llenwi'r bylchau. Dwi'n pingio rhai sydd wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn sgwennu am wleidyddiaeth Cymru - @Jason.nlw, AlwynapHuw, Dafyddt, Adam, Cymrodor, Oergell, Stefanik: Fy ymddiheuriadau os ydw i wedi gadael rhai ohonoch o'r rhestr! Rhagor o wybodaeth i ddilyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:31, 25 Hydref 2017 (UTC)
- Dim yn or hoff o Wicidata. Mae'n prosiect sydd wedi ei selio ar ymerodraethu Seisnig. Saesneg yw iaith "gyntaf" pob Cymro Cymraeg, a'r "ffynhonnell" yw mewnforio o English Wikipedia. Wrth ddechrau sgwennu erthyglau Cymraeg, cefais rhybydd coch nad oedd dyfynnu erthygl Saesneg ar Wikipedia yn ffynhonnell go iawn. Ond eto mae'n ddigon i ddweud mae Saesneg yw iaith cyntaf Lloyd George, Tom Ellis, O M Edwards ac ati. Mae ceisio newid y data, i ddweud mae Cymraeg oedd eu hiath (gyda Saesneg ail-iaith) yn cael ei wrthdroi gan Saeson ymerodrol. AlwynapHuw (sgwrs) 04:20, 27 Hydref 2017 (UTC)
- Cytuno! Ond cofia mai Saesneg yw iaith mwyafrif golygyddion llawer o brosiectau Wicimedia, neu Almaeneg, Sbaeneg ayb - sydd yr un mor wrthwynebus o leiafrifoedd. Mae'n frwydr ddyddiol! Fe weli yma'r drafferth gafodd Gwlad y Basg a minnau gyda Wici Henebion chydig ddyddiau yn ol pan roddwyd Cymru a GyB o dan y pennawd "Other"! Felly Wicidata - ond efallai'n llai milwriaethus na en-wiki. O leia mae WD yn ein cydnabod yn genedl! Dyma pam dw i wedi creu cryn dipyn o seintiau! Gan nad oedd yr UK yn bodoli yn y 4-8g! Dyfynu Wicipedia! Na, ym mhob Wici - gan mai ffynonellau y tu allan i Wici sy'n cael eu derbyn, ond mae nhw yn ei wneud ar Wicidata, fel y dywedi. Hyd yma, dw i ddim wedi trio rhoi cyfeiriad o'r Wicipedia Saesneg na Chymraeg - fedran nhw ddim dadlau yn erbyncyfeirio at y Bywgraffiadur Arlein ayb. Gelli ychwanegu mamiaith y person, cofia a Gwlad y ddinasyddiaeth = Cymru, a chyn hir mi wnaf hyn efo bot, mewn chydig o oriau! Os cei drafferth eto fflagia fo yn fama i'r cafylri garlamu yno i dy gefnogi! Dwn im os ydy hyn yn help, neu ydw i wedi methu'r pwynt yn rhywle? Cofion cynnes - Llywelyn2000 (sgwrs) 07:21, 27 Hydref 2017 (UTC)
- Dim yn or hoff o Wicidata. Mae'n prosiect sydd wedi ei selio ar ymerodraethu Seisnig. Saesneg yw iaith "gyntaf" pob Cymro Cymraeg, a'r "ffynhonnell" yw mewnforio o English Wikipedia. Wrth ddechrau sgwennu erthyglau Cymraeg, cefais rhybydd coch nad oedd dyfynnu erthygl Saesneg ar Wikipedia yn ffynhonnell go iawn. Ond eto mae'n ddigon i ddweud mae Saesneg yw iaith cyntaf Lloyd George, Tom Ellis, O M Edwards ac ati. Mae ceisio newid y data, i ddweud mae Cymraeg oedd eu hiath (gyda Saesneg ail-iaith) yn cael ei wrthdroi gan Saeson ymerodrol. AlwynapHuw (sgwrs) 04:20, 27 Hydref 2017 (UTC)
- Wicieiddio'r Cynulliad Cenedlaethol; trefnwyd ar y cyd gyda mySociety a Llyr Hughes Gruffydd; 5 Rhagfyr 2017 yn y Pierhead, Bae Caerdydd. Mae'r manylion yma. Ni fydd tâl, darperir lluniaeth drwy'r dydd, am ddim, a gallwch wneud cais am gyfraniad tuag at gostau teithio. Bydd cyfle i:
- edrych ar rai o'r teclynau defnyddiol i archwilio a thrin y data.
- hacathon ymarferol i wella'r data a'i chymhwyso ar gyfer Wicipedia a'r cyd-destun Cymreig.
- Welai chi yno! Sian EJ (sgwrs) 07:12, 29 Tachwedd 2017 (UTC) (ar gais Llywelyn2000 sydd yn San Francisco!)
- Diolch Sian! Welai chitha yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:03, 29 Tachwedd 2017 (UTC)
Cysylltu ag awdur arall
golyguSut ydy i (RwthTomos1948) yn cysylltu ag awdur arall sydd yn trafod yr un pwnc neu erthygl (John Jones -Santesau Celtaidd)?
- Haia Ruth. gelli adael nodyn bach ar ei ddalen Sgwrs. John sydd gen ti mewn sylw dw i'n meddwl: Defnydiwr:John Jones. Neu clicia yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:41, 25 Hydref 2017 (UTC)
Cymorth gyda'r Gymraeg
golyguOes yna rhywun, unrhywun sy'n gweld hwn a buasai'n fodlon fy nghorthwyo gyda cywiro Fy Ngymraeg mewn erthygl fel ni fydd yn cael ei colli oherwydd wallau iaith. Rwy'n gwneud fy ngorau ond rwy'n ofni y byddaf yn rhy araf Yr erthygl yw: Santesau Celtaidd 388-680
Help
golygu- pwy all fy helpu fi i gael gyfieithiad (llydaweg, sbaeneg, ffrangeg, neu saesneg) o'r pennillion yn yr erthygl
Cristoffer (rwy'n gweithio yn y wici llydaweg) Bianchi-Bihan (sgwrs) 23:03, 18 Tachwedd 2017 (UTC)
- @Bianchi-Bihan: Saesneg:
- Cerdd 1
- Sain Cristor sy 'n y croesty - St Christopher who's in the cruciform house
- A droes ei fraich dros Huw fry, - turned his arm over Huw above,
- Dwylaw Bawl yn dal ei ben - St Paul, St Peter and St Dwynwen's hands
- Drwy donnau, Pedr a Dwynwen. - holding his head through waves. (Gweler y gyfeiriadaeth.)
- Cerdd 2
- Sain Cristoffr a fu’n offrwm - St Christopher sacrificed himself
- Yn dwyn Crist megis dyn crwm. - by carrying Christ upon his back like a hunchback.
- Gobeithio fod hyn o help. Mae'n ddrwg gen i na allaf ei gyfieithu i'r Ffrangeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:27, 24 Tachwedd 2017 (UTC)
Cysylltu
golyguLlewelyn 2000 Rwy wedi gadael neges ar fy tudalen sgwrs ond nid wyf yn gwybod os fy mod wedi rhoi yn y lle iawn ac os ydych chi wedi ei gweld
Wici-Iechyd -Diweddariad
golyguHelo pawb, Mae prosiect Wici-Iechyd wedi cyrraedd hanner ffordd felly mae'n gyfle da i mi adrodd ar beth sydd wedi digwydd hyd yma, ac i annog pawb i gyfrannu rhwng nawr a mis Mawrth! Mae ar law neu trwy addasu cynnwys sydd wedi rhyddhau ar trwydded agored gan y British Lung Foundation a Meddwl.org.
- Mae 'na' tîm o wirfoddolwyr yn y Llyfrgell Gen yn gweithio i gyfieithu erthyglau pwysig o Saesneg
- Bydd rhagor o erthyglau proffesiynol yn cael i ryddhau i ni yn agored dros y misoedd nesaf.
- Bydd Golygathon Wici-Iechyd yng Nghaerdydd ar 7 Rhagfyr. 6-8 yn yr Hen Lyfrgell
- Bydd Golygathonau yn Aberystwyth a Gogledd Cymru yn y flwyddyn newydd.
- Fi'n gweithio efo Canolfan Bedwyr er mwyn profi cyfieithu peirianyddol o Wikidata perthnasol
- Gyda'r bwriad o greu tua 2500-3000 o erthyglau yn semi awtomatig gan ddefnyddio data a brawddegau sydd wedi cyfieithu o'r Saesneg
Felly mae llawer o waith i wneud dros y 4 mis nesaf, felly byddaf yn croesawi unrhyw cymorth i greu, golygu neu gyfieithu erthyglau am unrhyw elfen o iechyd. Dyma'r tudalen Prosiect Jason.nlw (sgwrs) 12:50, 26 Tachwedd 2017 (UTC)
Llun ar goll
golyguA wnaiff rhywun esbonio wrthyf pam mae un o'm lluniau wedi diflannu o'r erthygl Santes Eiluned? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan RwthTomos1948 (sgwrs • cyfraniadau) 15:38, 23 Tachwedd 2017
- Haia Ruth! Fedra i ddim gweld bod llun wedi'i dileu gan neb. Wnei di roi dolen i'r llun os gweli di'n dda? Mi wnes i roi fersiwn wedi'i sythu i fewn yn lle'r un cam, gan obeithio y byddai hyn yn welliant.
-
Dyma'r fersiwn oedd yno'n wreiddiol gen ti
-
Fersiwn wedi'i lanhau, ei sythu ayb, gydag enw'r santes
-
Llun manwl a rois ar Comin, rhag ofn y byddai'n well gen ti hwn. Dewis di!
- Gobeithio fod hyn o help. Gwych dy weld yn ychwanegu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym am y seintiau yn yr erthyglau hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:58, 24 Tachwedd 2017 (UTC)
Enw Barddol ar Wikidata
golyguSut mae cofnodi enw barddol ar Wikidata?
Yr unig beth sy'n dod yn agos, hyd y gwelaf, yw ffugenw (P742). Ond yn y byd eisteddfodol mae gwahaniaeth rhwng ffug enw sydd yn cuddio pwy ydwyf rhag beirniad wrth imi ymgeisio am goron 2018 ac enw barddol sydd yn rhoi hunaniaeth imi fel bardd y goron 2018 yn hytrach nag Alwyn Humphreys arall. Ac yn y byd Cymreig o gannoedd o John Jones / Williams / Davies ac ati onid yr enw barddol yw'r wir ddynodwr unigolyn tra fo John Jones yn lol botas dwp ar bapur gwladwriaethol sy'n cuddio hunaniaeth? AlwynapHuw (sgwrs) 05:01, 17 Rhagfyr 2017 (UTC)
- Yn sicr mae gwahaniaeth! Yn y gorffennol dw i wedi ychwanegu'r enw barddol fel ail enw ond dydy hynny ddim cystal a chreu nodwedd arbennig ar ei gyfer. Byddai'n rhad i ti wneud cais yn fama ar WD, a gadael nodyn yma'n y caffi neu ein pingio, er mwyn i ni gefnogi. Dw i erioed wedi gwneud hynny, a mi fydd gen i ddiddordeb i weld sut yr eith hi! Efallai fod enw tebyg mewn iaith arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:02, 12 Ionawr 2018 (UTC)
Cod Wiki
golyguOes yna rhywle ble mae côd wiki a holl arferion wiki yn ymddangos yn llawn gyda cyfeiriadau ynglŷn a sut i weithredu y wahanol systemau? RwthTomos1948 (sgwrs) 12:32, 21 Rhagfyr 2017 (UTC) Rwth 12:31, 21 Rhagfyr 2017 (UTC) 11:19, 21 Rhagfyr 2017 (UTC)
Cymorth efo prosiect Wici-Iechyd
golyguHelo pawb. Dim ond 3 mis sydd ar ôl efo prosiect Wici-Iechyd. Mae dros 160 o erthyglau wedi eu creu ar law hyd yma, ac mae gwaith yn parhau ar baratoi data er mwyn creu erthyglau ar feddygon, cyffuriau, meddygaeth a genynnau yn awtomatig gan ddefnyddio AWB. Ond wrth gwrs, yr erthyglau gorau bydd y rhai sydd wedi eu creu gan bobol, felly hoffwn i holi pawb i feddwl am gyfrannu rhywbeth am iechyd yn ystod y tri mis nesaf. Gallwch ddefnyddio'r teclyn Cyfieithu i gyfieithu rhywbeth o'r Saesneg neu ysgrifennu pwt am unrhyw elfen o iechyd, o fioleg neu glefyd i ymarfer corff neu ddiet. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, gyda nifer o fylchau amlwg yn y Gymraeg, felly byddaf yn ddiolchgar am unrhyw cymorth. Diolch! @AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon: Jason.nlw (sgwrs) 15:14, 12 Ionawr 2018 (UTC)
- Wedi cynnig un neu ddau o erthyglau newydd. Ansicr os ydwyf wedi sgwennu a llaw'r hyn sydd ar gael o ddymp wici data, neu beidio. A oes awgrymiadau / clemiau o'r hyn sydd mwyaf eu hangen fel erthyglau gwaith llaw? AlwynapHuw (sgwrs) 05:55, 14 Ionawr 2018 (UTC)
- Diolch yn fawr iawn Alwyn! Mae'r erthyglau yma'n gwych. Anodd credu bod pethau mor amlwg â Ibuprofen yn eisiau yn y Gymraeg, felly mae croeso mawr i ti parhau efo cyffuriau amlwg. Paid poeni am wneud pethau sydd ar Wikidata, bydd well da' fi bod erthyglau llaw na' erthygl awtomatig.
- Heblaw am hynny mae dal i fod dolennu coch ar y tudalen yma sydd angen erthyglau: Rhestr o organau'r corff dynol.
- Hefyd, dyma rhestr o erthyglau pwysig yn y Saesneg sydd wedi eu paratoi ar gyfer cyieithu, mae 'na' nifer o awgrymiadau da fan hyn..Diolch!! Jason.nlw (sgwrs) 15:22, 16 Ionawr 2018 (UTC)
Erthyglau am Genynnau
golygu@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon:
Helo pawb. Sori i drwblwch chi eto, ond fi bron yn barod i ddechrau llwytho'r batsh cyntaf o erthyglau sydd wedi creu yn awtomatig. Bydd y batsh cyntaf yn erthyglau am Genynnau, a dyma gwpl o enghreifftiau
Byddaf yn ddiolchgar os allwch chi gael cip olwg rhag ofn bod unrhyw gamgymeriadau neu welliannau amlwg alla'i wneud cyn llwytho mwy. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 16:45, 23 Ionawr 2018 (UTC)
- Dau beth bach - angen treiglad "Yn aml mae gan enynnau". Cyfieiriadau -> Cyfeiriadau. Dyna gyd! --Dafyddt (sgwrs) 18:25, 23 Ionawr 2018 (UTC)
- Ah, llygaid da! Diolch Dafyddt Jason.nlw (sgwrs) 08:47, 24 Ionawr 2018 (UTC)
- sydd yn -> sy'n
- protein fel arfer yn unigol, gwrywaidd yn ol Geir yr Acad ('sy'n cael ei godio' felly)
- 'heb wybod mae'r un genynnau' -> 'heb wybod mai'r un genynnau'
- Da iawn! Celtica (sgwrs) 10:39, 24 Ionawr 2018 (UTC)
- Grêt! Diolch yn fawr am eich cymorth Jason.nlw (sgwrs) 13:53, 24 Ionawr 2018 (UTC)
Mae'r 2,700+ o erthyglau'n edrych yn dda iawn, Jason! Gwych iawn! 100,000 o erthyglau erbyn Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:56, 30 Ionawr 2018 (UTC)
Dyddiadau Saesneg ar wybodleni o Wikidata
golyguMae gwybodleni am bobl sydd yn dod o Wikidata wedi dechrau ymddangos efo'r dyddiadau yn Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg oedd yn arfer ymddangos hyd ddoe. Problem ni neu nhw?
AlwynapHuw (sgwrs) 04:49, 28 Ionawr 2018 (UTC)
- Whaw!Annerbyniol! Dyma pam fod angen bollt ar y drws - bollt i'w agor o'r tu mewn yn unig! Dw i ar y ffordd i siopa efo'r mrs, ond gallaf gymryd golwg arno yn nes ymlaen. Mae i'w weld yn Gymraeg ar Wicidata; efallai fod angen cyfieithu un o'r modilws Lua rois ymlaen ddydd Gwener. Mae @Dafyddt: yn giamster ar labyrinth codio dyddiadau, neu mi gaf gip y pnawn ma. Efallai mai Modiwl:Convert/wikidata/data sydd angen ei gyfieithu. Twdls! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:55, 28 Ionawr 2018 (UTC)
- Helo! dwi wedi rhoi'r misoedd Cymraeg nôl yn Modiwl:WikidataIB. --Dafyddt (sgwrs) 15:11, 28 Ionawr 2018 (UTC)
- O! Gret! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:57, 30 Ionawr 2018 (UTC)
- Helo! dwi wedi rhoi'r misoedd Cymraeg nôl yn Modiwl:WikidataIB. --Dafyddt (sgwrs) 15:11, 28 Ionawr 2018 (UTC)
Smonach y Canrifoedd
golyguPam ydych chi'n newid ffurf y canrifoedd - fel [HYN er enghraifft] - ar draws y Wici? Mae'n tynnu erthyglau allan o gategoriau sy'n bodoli yn barod ac yn creu categoriau coch yn eu lle - dwi newydd creu rhai jest rwan, dros dro, a'u rhoi yn y categoriau iawn oedd yno'n barof, e.e. Categori:Llenorion Cymreig yr 17g = Categori:Llenorion Cymreig yr 17eg ganrif. Gwastraff llwyr o amser sy'n creu pob math o broblemau. Os ydych chi am barhau fel hyn byddai angen creu cannoedd (yn llythrennol) o gategoriau newydd i gymryd lle'r hen rai ac wedyn symud miloedd lawer o dudalennau er mwyn cael cysondeb - gwaith misoedd a misoedd hyd yn oed hefo bot neu AWB! Ac i be, neno'r tad? Pam fod rhaid newid o gwbl? (gw. hefyd Sgwrs Sian EJ) 78.147.75.156 17:18, 30 Ionawr 2018 (UTC) ON Fel un enghraifft bach yn unig, gweler y cannoedd o ail-gyfeiriadau [sydd yma dan "17g"]. Ailgyfeiriadau gwirion, di-angen, di-bwrpas! 78.147.75.156 17:29, 30 Ionawr 2018 (UTC)
- Cytunwyd i newid i'r dull modern o enwi'r canrifoedd yn Sgwrs Wicipedia:Arddull, ac mae Sian yn rhedeg AWB (gobeithio yn rheolaidd), gyda rhai gwallau'n cael eu cywiro. Newidiwyd enwau'r canrifoedd yng nghorff yr erthyglau bron i gyd ganddi, ac mae'n edrych yn dda. Fodd bynnag, pan welwyd, dros flwyddyn yn ol, fod cymaint o waith gyda'r Categoriau, dim ond llond dwrn a newidiwyd. Fel rwyt ti'n awgrymu, mae'n bosib ei wneud gyda bot ond mae'n joban anferthol. Felly nid aethpwyd ati, a does dim bwriad i'w newid, oni cheir trafodaeth yn y dyfodol.
- OND, mae'n edrych i mi nad ydy Sian EJ wedi ticio'r botwm "Ignore templates, refs, link targets, headings, external links" ayb ar AWB. Os oes modd canfod sawl categori coch sydd, yna mi fyddwn yn gwybod maint y broblem. Os oes gormod yna gallwn ddadwneud ei golygiadau gydag un clic. Felly paid a cholli dy limpyn! Dydy hi ddim yn ddiwedd byd! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:33, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Mae na restr o gategoriau gwag yn gwag fama, a ddylid eu dileu - os ydym yn defnyddio'r rheol yn gywir, lle mae angen o leiaf dwy erthygl cyn y gellir creu categori. Ond ochr arall y geiniog yw'r categoriau di-fam, y rhai coch. Mae'r rheiny i'w cael yn fama: ac mae na 3,500 ohonyn nhw. Ond llond llaw o'r rhain sydd oherwydd newid arddull y canrifoedd - dyweder 12. Felly, dyw'r 'smonach' ddim yn broblem, a buan iawn y gellir trwsio'r rhain. Ond i ba ddull yr hen, y newydd neu gyfuniad? Problem llawer mwy yw dileu / cuddio categoriau sy'n cael eu creu gan dempledi (Nodion). Ond yn sicr mae na waith yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- A beth am bethau gwirion fel hyn a llwyth o rai tebyg (newid 'ail ganrif ar bymtheg' i '19g' gyda bot!)? Faint o erthyglau eraill sydd wedi dioddef oherwydd golygu diofal, diangen, erbyn hyn, tybed? E.e. "D18g" am "ddeunawfed ganrif" Smonach ydi'r gair! 78.144.91.113 14:07, 9 Chwefror 2018 (UTC)
- Eich cywiriad cyntaf - does gen i ddim syniad am hwn (gweler y data dump ar fy nhudalen defnyddiwr); ond mae'n amlwg ei fod wedi digwydd! @Llywelyn2000: unrhyw syniad?
- Yr ail gywiriad: Rwy'n gweld beth sydd wedi digwydd gyda D18g (mae na ddwsin i gyd) - tynnwyd 'deunawfed ganrif' a rhoddwyd 18g yn ei le - ond roedd y gair wedi'i dreiglo felly ni newidiwyd y 'd' cyntaf a aehosodd ynglwm wrth y rhif! Mater bach! Rwy hefyd wedi rhoi bwlch (lle gwag) o flaen ' deunawfed ganrif' (ac eraill) rwan, lle bod hyn yn digwydd eto.
- Os dewch o hyd i ragor - dewch a nhw i mi eu cywiro! Mater bach yw dadwneud pethau fel hyn, ond o leiaf rwan mae gennym ddull i gywiro'n awtomatig - unwaith mae wedi'i berffeithio.
- Os y dewch o hyd i gangymeriadau iaith cyffredinol gan olygyddion - rhai sy'n digwydd yn aml = yna nodwch nhw ar fy nhudalen Sgwrs os gwelwch yn dda, i mi eu hychwanegu at y bot. Sian EJ (sgwrs) 17:02, 9 Chwefror 2018 (UTC)
- A beth am bethau gwirion fel hyn a llwyth o rai tebyg (newid 'ail ganrif ar bymtheg' i '19g' gyda bot!)? Faint o erthyglau eraill sydd wedi dioddef oherwydd golygu diofal, diangen, erbyn hyn, tybed? E.e. "D18g" am "ddeunawfed ganrif" Smonach ydi'r gair! 78.144.91.113 14:07, 9 Chwefror 2018 (UTC)
- Mae na restr o gategoriau gwag yn gwag fama, a ddylid eu dileu - os ydym yn defnyddio'r rheol yn gywir, lle mae angen o leiaf dwy erthygl cyn y gellir creu categori. Ond ochr arall y geiniog yw'r categoriau di-fam, y rhai coch. Mae'r rheiny i'w cael yn fama: ac mae na 3,500 ohonyn nhw. Ond llond llaw o'r rhain sydd oherwydd newid arddull y canrifoedd - dyweder 12. Felly, dyw'r 'smonach' ddim yn broblem, a buan iawn y gellir trwsio'r rhain. Ond i ba ddull yr hen, y newydd neu gyfuniad? Problem llawer mwy yw dileu / cuddio categoriau sy'n cael eu creu gan dempledi (Nodion). Ond yn sicr mae na waith yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 31 Ionawr 2018 (UTC)
Cwlwm Celtaidd
golyguMae'n ymddangos bod Wikimedia yn Llundain yn mynnu rhoi enw eingl-sacsonaidd ar ddigwyddiad ieithoedd Celtaidd yng Nghymru. Mae'n hurt ac yn sarhâd. Dw i wedi dechrau trafodaeth: https://wikimedia.org.uk/wiki/Talk:Cynhadledd_Celtic_Knot_2018 --Cymrodor (sgwrs) 22:15, 30 Ionawr 2018 (UTC)
- Ges i gymaint o sioc, dim ond rŵan dw i'n darllen disgrifad y digwyddiad. Thema cyntaf y digwyddiad yw 'meithrin hyder ieithyddol'. Mae yna rhywun yn chwerthin ar ein pennau ni.--Cymrodor (sgwrs) 22:20, 30 Ionawr 2018 (UTC)
- Does a wnelo'r dalenau hyn am y Cwlwm Celtaidd ddim i'w wneud a Wikimedia UK, er mai ni / nhw sy'n cynnal y gweinydd. Mae'r dalenau (Cymraeg a Saesneg) yn nwylo Jason a'r Llyfrgell Genedlaethol. Dw i'n meddwl mai drafft ydy hwn ac y caiff ei gywiro pan gaiff @Jason.nlw: amser. Mae newydd orffen 2,700 o erthyglau newydd, chwarae teg! Ond diolch am dynnu ein sylw at hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:02, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Efallai y carai Defnyddiwr:Adam a fi ymosod arnyn nhw. Mae o wedi creu llawer ohonynt. Troi nhw i gyd i'r dull fodern fyddai orau yn fy marn i; cychwyn heddiw a gorffen yn y flwyddyn 2088, yn ara deg a bob yn dipyn! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:07, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Does a wnelo'r dalenau hyn am y Cwlwm Celtaidd ddim i'w wneud a Wikimedia UK, er mai ni / nhw sy'n cynnal y gweinydd. Mae'r dalenau (Cymraeg a Saesneg) yn nwylo Jason a'r Llyfrgell Genedlaethol. Dw i'n meddwl mai drafft ydy hwn ac y caiff ei gywiro pan gaiff @Jason.nlw: amser. Mae newydd orffen 2,700 o erthyglau newydd, chwarae teg! Ond diolch am dynnu ein sylw at hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:02, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Helo Cymrodor. Diolch yn fawr am eich sylw. Penderfynais i gadw at yr un enw 'Celtic Knot', ar ôl trafod efo'r grŵp trefni, am 2 rheswm.
- Mae hwn yn gynhadledd ryngwladol, ac mae'r enw wedi cael eu sefydlu ers blwyddyn ddiwethaf. Roedd 'na' teimlad bydd roi enw arall i'r gynhadledd yn Gymraeg yn lleihau cryfder y 'brand' wrth i ni fynd ati hyrwyddo a thyfi'r gynhadledd newydd yma. O fy mhrofiad i mae cynadleddau sydd yn symid i un wlad i'r llall wastad yn cadw'r un enw.
- Yr enw amlwg yn y Gymraeg yw'r Cwlwm Celtaidd ond mae'r enw yma mewn defnydd yn barod gan y Gŵyl Ryng-Geltaidd. Mae ganddyn nhw wefan efo'r teitl ac yn brysir iawn yn hyrwyddo'r Cwlwm Celtaidd 2018 trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Felly bydd e'n ddryslyd ac yn annheg arnyn nhw i ddefnyddio'r union yr un enw i hyrwyddo digwyddiad hollol wahanol yng Nghymru.
- Ond, os mae 'na nifer o bobl yn teimlo'n gryf am y peth, ac yn gallu awgrymu enw addas rwy’n hapus i ddefnyddio'r enw yna ar y logo Cymraeg a ble bynnag sydd yn bosib wrth i ni hyrwyddo’r digwyddiad. Jason.nlw (sgwrs) 08:46, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Beth bynnag ydy'r enw mae'n edrych yn addawol iawn. Edrychaf ymlaen i gyfarfod a phobl o'r anian a mi! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:07, 31 Ionawr 2018 (UTC)
- Daeth yr enw o gysyniad gwreiddiol Ewan McAndrew, Wicipediwr preswyl Prifysgol Caeredin, i gynnal cynhadledd i hyrwyddo presenoldeb y gwledydd Celtaidd ar Wikipedia Saesneg ac i hybu'r wicis yn yr ieithoedd Celtaidd. Erbyn dyddiad y gynhadledd roedd wedi datblygu yn organig i ddyfod yn drafodaeth am Wikipedia yn holl ieithoedd lleiafrifol Ewrop gyda chyfraniadau am Gatalaneg, Basgeg, Ceffalwneg, Románsh, Estoneg, Sami ac eraill. Rwy'n tybio bydd cynhadledd Aberystwyth hefyd yn rhannu profiadau ieithoedd lleiafrifol nad ydynt yn Geltaidd. Sy'n codi'r cwestiwn a ydy (a oedd, hyd yn oed) Celtic Knot yn enw addas bellach? Gwerth cael trafodaeth dros banad neu beint yn Aberystwyth i drafod enw newydd, sy'n adlewyrchu sgôp y drafodaeth yn well, cyn cynhadledd 2019? Yn y cyfamser diolch i Jason am ei waith wrth drefnu cynhadledd eleni; edrych ymlaen yn arw at fynychu. AlwynapHuw (sgwrs) 16:56, 7 Chwefror 2018 (UTC)
- Diolch Alwyn, fi'n cytuno bod angen i ni ail edrych ar yr enw. Bydd rhaid cadw at Celtic Knot/Cwlwm Celtaidd eleni ond bydd e'n dda cael sesiwn yn y gynhadledd/tafarn i drafod enw newydd ar gyfer y dyfodol gan fod y gynhadledd wedi dyblygu gymaint. Felly mae croeso i bobl awgrymu enwau da posib yma. Jason.nlw (sgwrs) 09:43, 8 Chwefror 2018 (UTC)
Erthyglau am Feddygon
golygu@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:
Helo pawb. Fi'n wrthi baratoi batsh o tua 800 o erthyglau eginyn am bobol bwysig yn y maes iechyd. Mae rhai darnau o'r erthyglau wedi eu hawtomeiddio, ond mae pob un hefyd yn cynnwys o leiaf un frawddeg sydd wedi creu ar law i bwysleisio cyflawniadau'r unigolyn. Dyma 3 enghraifft i chi. Hoffwn i gael eich barn cyn i mi lwytho’r cyfan, a byddaf yn ddiolchgar am eich help i adnabod unrhyw gamgymeriadau/typos yn yr erthyglau.
Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 11:58, 15 Chwefror 2018 (UTC)
- Hia Jason. 1) Ydi'n bosib rhoi'r dyddiadau geni/marw yn llawn ar ôl yr enw? Mae nhw hefyd yn ail-ddatgan y dyddiad geni/oedran yn y testun a byddai dim angen rheiny. *O ie, a mae angen y Categori Genedigaethau/Marwolaethau * 2) Mae yna linellau dwbl gwag yn y markup sy'n ychwanegu bylchau di-angen yn y dudalen. 3) Ydi'n bosib cysylltu nhw a chenedligrwydd penodol? Byddai'n bosib mynd trwy nhw wedyn i newid/ychwanegu y categoriau a rhoi DEFAULTSORT, er bydd yn cymryd amser. 4) Yr unig typo weles i oedd 'Darluth' - fi wedi cywiro hwn yn Wikidata... Heblaw am hynny, grêt! --Dafyddt (sgwrs) 12:26, 15 Chwefror 2018 (UTC)
- Gwych iawn Jason.nlw, un peth bach Mae Baruch Samuel Blumberg wedi ennill y gwobrau canlynol o ganlyniad eu gwaith. esiau newid eu i i'w 12:41, 15 Chwefror 2018 (UTC)
- Ia wir! Bril! sSylwer ar un neu ddau ar yr erthygl gyntaf; efallai un cat arall os yn bosib. Ond manion yw'r rhain! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:38, 15 Chwefror 2018 (UTC)
- Diolch am y'r holl sylwadau.Mi wna'i gweithio ar y gwellianau cyn profi eto. Jason.nlw (sgwrs) 09:28, 16 Chwefror 2018 (UTC)
Caleb Hllier Parry - rhaid cywiro 'Fe'i ganed yn Cafodd ei eni yn Cirencester,'. Mae poeth arall yn edrych yn iawn Lesbardd
- Lesbardd Diolch yn fawr iawn am eich adborth. Mi wna'i sieco'r data i wneud yn siŵr bod y 'glitsh' yma dim yn digwydd eto. Jason.nlw (sgwrs) 16:35, 19 Chwefror 2018 (UTC)
- Fi yn ceisio ychwanegu at yr erthygl oedd yn gyfrifol am Fe'i ganed yn Cafodd ei eni yn Cirencester nid cyfraniad awtomatig Jason.nlw, ond mae'n codi'r cwestiwn faint gellir ehangu, addasu, golygu erthyglau o'r fath? AlwynapHuw (sgwrs) 07:20, 17 Chwefror 2018 (UTC)
- Helo AlwynapHuw, Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad i'r erthygl yma, ac yn arbennig am ddarganfod cyswllt Cymraeg!. Camgymeriad wrth i mi baratoi'r erthyglau oedd Fe'i ganed yn Cafodd ei eni yn Cirencester. A dyma'r union reswm i ni brofi a rhannu enghreifftiau cyn llwytho'r holl erthyglau. Ond, unwaith mae'r erthyglau yn fyw nid oes gen i unrhyw reolaeth dros y cynnwys, heblaw am unrhyw elfennau Wikidata (dim ond y gwybodlen yn yr achos yma), felly'r bwriad yw, bydd pobl yn gwella'r erthyglau dros amser fel gydag unrhyw erthygl arall - yn union fel wyt ti wedi gwneud yn yr achos yma. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 16:35, 19 Chwefror 2018 (UTC)
- @AlwynapHuw, Lesbardd, Dafyddt, Llywelyn2000: Helo pawb. Fi wedi gwneud newidiadau i'r data, gan gynnwys newid fformat y dyddiadau, a chynnwys categorïau ychwanegol. Felly dyma'r ail swp o brofion. Oes 'na' gwelliannau bellach sydd angen cyn i mi lwytho'r cwbl? Diolch eto am eich cymorth. Jason.nlw (sgwrs) 10:17, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Dim ond y categoriau dwi'n poeni am nawr Jason! Alli di ddefnyddio Categori:Egin meddygon - bydd e'n haws dod o hyd iddyn nhw wedyn. Hefyd dwi'n credu mai dim ond un categori Meddygon sy angen e.e. Meddygon Cymreig. Ond mai angen edrych drwy y categoriau 'Meddygon' i wneud yn siwr os ydi nhw gyd yn gywir ac yn cyfateb gyda ffurfiau blaenorol yn Categori:Pobl yn ôl galwedigaeth a chenedligrwydd. Wnai fynd drwyddyn nhw os gai gyfle. --Dafyddt (sgwrs) 10:33, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Diolch Dafydd, Felly wyt ti'n awgrymu defnyddio Categori:Egin meddygon yn lle Categori:meddygon ar gyfer pob un? Erbyn hyn bydd gan pob erthygl categori sydd yn is-categori i Categori:Meddygon yn ôl cenedligrwydd megus 'Meddygon Ffrengig' (wedi creu'r categoriau'n barod). Felly a ddyla'i defnyddio'r categoriau yma yn lle Categori:Egin meddygon? Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 11:05, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Sori nes i gamgymeriad. Fi'n awgrymu defnyddio y nodyn Nodyn:Eginyn meddyg yn lle Nodyn:Eginyn, a bydd y categori yn dod o'r Nodyn. Wrthi'n mynd drwy y categoriau Meddyg/cenedligrwydd ar hyn o bryd, mae ambell un wedi ail-enwi ond wnai grynodeb ar y diwedd. --Dafyddt (sgwrs) 11:43, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Grêt, diolch Dafydd Jason.nlw (sgwrs) 11:51, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Cytuno efo Dafydd. Gwerth chweil! Sylwa bod treiglad pan fo'r person yn ddyn: "i'w waith" ond nid i fenywod: 'i'w gwaith'. Manion! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:56, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Reit.. wedi cwblhau edrych dros y categoriau Meddygon. Dyma'r rhai dwi wedi ail-enwi er mwyn cysondeb gyda chategoriau arall:
- Cytuno efo Dafydd. Gwerth chweil! Sylwa bod treiglad pan fo'r person yn ddyn: "i'w waith" ond nid i fenywod: 'i'w gwaith'. Manion! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:56, 21 Chwefror 2018 (UTC)
Meddygon o Slofacia -> Meddygon Slofacaidd Meddygon o De Affrica ->Meddygon De Affricanaidd Meddygon o Slofenia -> Meddygon o Slofenia Meddygon o Ariannin -> Meddygon Archentaidd Meddygon o'r Undeb Sofietaidd -> Meddygon Sofietaidd Meddygon Rwsiadd - > Meddygon Rwsiaidd Meddygon o'r Iseldiroedd -> Meddygon Iseldiraidd Meddygon Eidaleg -> Meddygon Eidalaidd Meddygon Groegiaid -> Meddygon Groegaidd Meddygon o Weriniaeth Tsiec -> Meddygon Tsiecaidd Meddygon Japaniaid -> Meddygon Japaneaidd
- Dwi wedi gadael rhain fel y mae nhw am bo nhw yn wledydd hanesyddol a mae'n anodd ffeindio lle iddyn nhw.
Meddygon o Iwgoslafia Meddygon o'r Ymerodraeth yr Almaen Meddygon o Weriniaeth Sosialaidd Rwmanaidd Meddygon Awstro-Hwngaraiddaidd Meddygon Angolaidd (dim llawer o gategoriau o dan Angola)
- Diolch yn fawr iawn am hyn Dafyddt. Mi wna'i gwneud y newidiadau i'r data - a cywiro'r treiglad mae Llywelyn2000 wedi sylwi. Jason.nlw (sgwrs) 12:30, 21 Chwefror 2018 (UTC)
- Ffantastig Jason.nlw. Rwyf wedi newid un o dy Feddygon o Thomas Young Davis i Thomas Young, camgymeriad ar Wikidata oedd roi'r Davis (enw morwynol ei fam) ar ddiwedd ei enw.
A oes modd danfon un o'r botiau trwy'r erthyglau i roi {.{DEFAULTSORT}} arnynt? Os nad oes mi af trwyddynt i'w gwneud a llaw.
Os oes gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi ar rai o'r erthyglau oes eisiau eu rhoi ar adran Wedi Gwella Wicipedia:Wicibrosiect Wici-Iechyd neu ydy hynny'n mynd i ddrysu'r ystadegau trwy eu cyfrif ddwywaith? AlwynapHuw (sgwrs) 00:01, 22 Chwefror 2018 (UTC)
- Ffantastig Jason.nlw. Rwyf wedi newid un o dy Feddygon o Thomas Young Davis i Thomas Young, camgymeriad ar Wikidata oedd roi'r Davis (enw morwynol ei fam) ar ddiwedd ei enw.
- Cats - gwych iawn! Diolch @Dafyddt:! @AlwynapHuw, Jason.nlw: gwd sbot Alwyn! Mae gosod {{DEFAULTSORT}} yn bosib efo AWB; jyst defnyddio ?itemlabel a ?lastnameLabel Wicidata i ffindio enw/au bedydd a chyfenw/au. Mi wneith awb bloncio'r Nodyn gorffenedig yn ei le os y gwnei ddewis More -> Enabled -> Append. Dio'm ots os dio'n ymddangos ar y gwaelod, mi wneith awb ei roi yn y lle cywir ar ei ymweliad nesaf. Nifer erthyglau heddiw - 97,025! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 23 Chwefror 2018 (UTC)
- @Jason.nlw: @Llywelyn2000: Be sy'n digwydd fan hyn - Раї́са Мойсе́ївна Аза́рх? Mae'r enw Cyrillig yno'n gywir ond mae'n debyg nad yw'r ffont yn medru dangos rhai o'r nodau estynedig yma. --Dafyddt (sgwrs) 19:56, 23 Chwefror 2018 (UTC)
- @Dafyddt: hmm od iawn. Fi wedi datrys trwy newid yr enw o'r wyddor Gyrilig i'r wyddor Ladin. Jason.nlw (sgwrs) 09:13, 26 Chwefror 2018 (UTC)
- Cats - gwych iawn! Diolch @Dafyddt:! @AlwynapHuw, Jason.nlw: gwd sbot Alwyn! Mae gosod {{DEFAULTSORT}} yn bosib efo AWB; jyst defnyddio ?itemlabel a ?lastnameLabel Wicidata i ffindio enw/au bedydd a chyfenw/au. Mi wneith awb bloncio'r Nodyn gorffenedig yn ei le os y gwnei ddewis More -> Enabled -> Append. Dio'm ots os dio'n ymddangos ar y gwaelod, mi wneith awb ei roi yn y lle cywir ar ei ymweliad nesaf. Nifer erthyglau heddiw - 97,025! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 23 Chwefror 2018 (UTC)
Trafferth efo labelu delwedd
golyguOes modd i rywun cael golwg ar y darlun
a dweud wrthyf be di'r broblem efo hi? Mae'n gadael fy nghyfrifiadur i efo'r holl eiriau'n gyfan, ond yn cyrraedd yma efo nifer ohonynt wedi torri. Lwcus fy mod yn foel neu byddwn wedi tynnu fy ngwallt allan! AlwynapHuw (sgwrs) 03:06, 19 Chwefror 2018 (UTC)
- Gan mai dim ond meddalwedd agored gaiff ei ddefnyddio gan brosiectau Wicimedia (ee Ogg fel fideo) yna mae'n rhaid defnyddio ffont agored, rhydd o hawlfraint. Efo ffeiliau svg gelli ddefnyddio 'Liberation Sans', a mi weithith yn iawn; 'dyw'r un sydd gen ti ddim yn cael ei gefnogi gan feddalwedd wici, felly 'dyw e ddim yn ymddangos yn gywir ac mae'r testun yn gorlifo dros y ddalen. Jyst newid y testun i un o deulu Liberation. Gyda llaw, wyt ti wedi ystyried:
- 1. newid lliw'r ffont i goch / glas (gwythienau / rhydweliau)
- 2. codi maint y ffont neu ddarparu chwydd wydr am ddim ;-) i'r darllenwyr
- 3. uwchlwytho i Comin. Dw i di dechra categori [:Comin:Category:SVG diagrams in Welsh|SVG diagrams in Welsh].
- 4. prynnu wig!
- Llywelyn2000 (sgwrs) 05:52, 19 Chwefror 2018 (UTC)
- Diolch Robin Llywelyn2000. Rwy'n credu ei fod yn gywir bellach, wedi sawl ymgais. Os nad ydyw nid ydwyf am afradu chwaneg o amser arno. Oes modd iti guddio meiau rhag y werin trwy ddileu'r cynnigion blaenorol? AlwynapHuw (sgwrs) 02:45, 20 Chwefror 2018 (UTC)
- Dewadd anwyl! Pe bawn i'n dechrau cuddio meiau ar wici mi faswn angen einioes a haner arall! Heb ei fai... Drafftiau ydyn nhw, datblygiad sgiliau codio! Ond os ti'n mynnu... wedi gwneud! ON Newydd ei huwchlwytho i Comin. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:20, 23 Chwefror 2018 (UTC)
- Diolch Robin Llywelyn2000. Rwy'n credu ei fod yn gywir bellach, wedi sawl ymgais. Os nad ydyw nid ydwyf am afradu chwaneg o amser arno. Oes modd iti guddio meiau rhag y werin trwy ddileu'r cynnigion blaenorol? AlwynapHuw (sgwrs) 02:45, 20 Chwefror 2018 (UTC)
- Ti'm yn ffan o Bantycelyn Robin Llywelyn2000?
Cudd fy meiau rhag y werin,
Cudd hwy rhag cyfiawnder ne';
Cofia'r gwaed un waith a gollwyd
Ar y groesbren yn fy lle
AlwynapHuw (sgwrs) 05:33, 25 Chwefror 2018 (UTC)
- Nid ers iddo symud o DPD Wrecsam i chwarae i Bristol Rovers! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 25 Chwefror 2018 (UTC)