Slofaciaid
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Slofacia yng Nghanolbarth Ewrop yw'r Slofaciaid. Slofaceg, o gangen orllewinol yr ieithoedd Slafonaidd, yw eu hiaith frodorol. Maent yn cyfri am ryw 84% o boblogaeth Gweriniaeth Slofacia gyfoes. Maent yn disgyn o'r llwythau Slafaidd a ymsefydlodd yn ardal Slofacia yn y 6g, ac yn perthyn yn agos i'r Slafiaid gorllewinol eraill: y Tsieciaid, y Pwyliaid, a'r Sorbiaid.
Slofaciaid dwyreiniol yn eu gwisg werin draddodiadol mewn ffair haf y cenhedloedd Carpathaidd yn Sanok, Gwlad Pwyl. | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Slofaceg |
Label brodorol | Slováci |
Poblogaeth | 6,200,000 |
Crefydd | Catholigiaeth, protestaniaeth, eglwysi uniongred |
Gwlad | Slofacia |
Rhan o | Slafiaid Gorllewinol |
Enw brodorol | Slováci |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn hanesyddol bu'r Slofaciaid o fewn ffiniau Teyrnas Hwngari a dan dra-arglwyddiaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cryfhaodd hunaniaeth y Slofaciaid yn oes cenedlaetholdeb y 19g, a gwnaed ymdrechion i hyrwyddo diwylliant gwerin Slofacaidd a'r celfyddydau ac addysg yn Slofaceg. Ymgyrchodd nifer o arweinwyr gwleidyddol a deallusol dros gysylltiadau agos â'r Tsieciaid, ac ym 1918 unodd y ddwy genedl i ffurfio Tsiecoslofacia. Diddymwyd yr uniad yn heddychlon ym 1992.
Mae cerddoriaeth werin y Slofaciaid yn defnyddio offerynnau traddodiadol megis y fujara a'r valaška. Dethlir diwylliant y gwerin mewn gwyliau lleol a rhanbarthol, ac mae nifer o Slofaciaid yn dal i wisgo dillad traddodiadol ar achlysuron. Adlewyrchiad o etifeddiaeth amaethyddol y werin yw coginiaeth y Slofaciaid, a nodweddir gan brydau sylweddol a bwyd cysur, er enghraifft twmplenni gyda chaws dafad (bryndzové halušky), cawl bresych picl (kapustnica), a chig a bara.
O ran crefydd, Catholigion Rhufeinig ydy'r mwyafrif o Slofaciaid, ac mae lleiafrifoedd yn aelodau o Eglwys Efengylaidd Cyffes Augsburg (Lutheraidd) a'r Eglwys Gristnogol Ddiwygiedig (Calfinaidd), Eglwys Gatholig Roeg Slofacia (un o eglwysi Catholig y Dwyrain), ac Eglwys Uniongred Tsiecia a Slofacia (Uniongrededd Ddwyreiniol).
Ethnogenesis
golyguGwladychwyd ardal Slofacia gan y Slafiaid yn ystod ail hanner y 6g. Mae olion archaeolegol, er enghraifft crochenwaith tal, yn dangos tebygrwydd rhwng diwylliannau materol Slofacia ac Wcráin a de Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, mae'r ffurf hynafaidd ar Slofaceg yn debycach i ieithoedd y Slafiaid deheuol nac y mae'r Hen Bwyleg yn debyg iddynt, ac felly ansicr mae'r ateb i'r cwestiwn o ba le daeth y Slofaciaid: credir iddynt darddu o'r ardal i ogledd Mynyddoedd Carpathia, o bosib mor bell i'r dwyrain ag Wcráin neu Foldofa, ac ymfudo i flaenau'r Elbe naill ai drwy Wlad Pwyl neu o ddyffryn Afon Donaw i'r de.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Carl Waldman a Catherine Mason, Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), tt. 768–9.
-