Rhif màs
Y rhif màs (A), a hefyd elwir yn rhif màs atomig neu rhif niwcleon, yw'r nifer o niwcleonau (protonau a niwtronau) mewn niwclews atomig. Mae'r rhif màs yn unigryw ar gyfer pob isotôp o elfen a caiff ei ysgrifennu ar ôl enw'r elfen neu fel uwchysgrif i'r chwith o symbol yr elfen. Er enghraifft, mae gan carbon-12 (12C) 6 proton a 6 niwtron. Mae gan y symbol isotôp llawn y rhif atomig (Z) mewn îsysgrif i'r chwith o'r symbol elfen yn uniongyrchol o dan y rhif màs: . Dylid nodi fod y rhif atomig yn cyfateb i'r symbol elfennol, ac felly anaml caiff isotôpau eu hysgrifennu yn ffurf llawn hwn (ond ysgrifennir isotôpau yn y ffurf hwn yn aml gyda adweithiau atomig, lle rydym eisiau dangos y nifer o brotonau).
Math | nifer, maint corfforol, meintiau sgalar, cyfrif newidyn |
---|
Drwy ddefnyddio'r rhif atomig a'r rhif màs, gellir darganfod y nifer o niwtronnau (n) mewn niwclews atom: n = A - Z.