Robert Williams Parry
Roedd Robert Williams Parry (6 Mawrth 1884 – 4 Ionawr 1956), a adwaenir fel R. Williams Parry yn un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20g. Fe'i gladdwyd ym Mynwent Coetmor, ger Rachub, gyda'i wraig Myfanwy.
Robert Williams Parry | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1884 Tal-y-sarn |
Bu farw | 4 Ionawr 1956 o strôc Bethesda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, athro, darlithydd |
Priod | Myfanwy Williams Parry |
Magwraeth, coleg a dechrau dysgu
golyguGaned R. Williams Parry yn Nhalysarn, yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i T. H. Parry-Williams a Thomas Parry. Cafodd ei addysg yn Ysgolion Sir Gaernarfon a Phen-y-groes. Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd, ond gadawodd heb raddio, ac aeth yn athro. Yn 1907 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i orffen ei astudiaethau a graddiodd yn 1908. Ar ôl y Coleg dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Sir Brynrefail o 1908 hyd 1910.[1] Wedyn bu'n brifathro Ysgol y Sarnau (ger Cefnddwysarn) am tua naw mis rhwng 1912 ac 1913[2] cyn derbyn swydd fel athro yn Sarn, Llŷn. Yn 1915 symudodd i Ysgol Sir y Barri.
Oherwydd gorfodaeth filwrol, ymunodd â'r fyddin yn Nachweddd 1916 am gyfnod o ddwy flynedd. Dychwelodd i'r Barri ar ôl y rhyfel. Yn fuan wedyn cafodd le mewn ysgol yn Oakley Park, yn Sir Drefaldwyn.
Problemau prifysgol
golyguPenodwyd R. Williams Parry yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mangor yn Rhagfyr 1921. Darlithiai ar Lydaweg, a Chernyweg a hefyd ar Ramadeg Cymraeg. Yn 1912 cafodd M.A. am ysgrifennu traethawd ar Gysylltiadau'r Gymraeg a'r Llydaweg. [3] Yno roedd Syr John Morris-Jones yn Bennaeth ar y Coleg ac yn ei gynorthwyo roedd yr Athro Ifor Williams. Roedd Willams Parry yn hapus yno o 1922 hyd tua 1928 yn darlithio'n bennaf i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg. Roedd hefyd yn cynnal dosbarthiadau nos. Teimlai erbyn Hydref 1928 fel lledu ei adenydd. Roedd am ddarlitho i'r dosbarth Anrhydedd ar gelfyddyd barddoniaeth yn gyffredinol, ond teimlai Ifor Williams nad oedd y cyrsiau roedd yn ei gynnig yn ddigon academaidd eu natur. Bu'n frwydr chwerw a barhaodd am bymtheg mlynedd.[4]
Ei waith
golyguDaeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr. Cyhoeddodd ddau gasgliad o gerddi, Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) a Cherddi'r Gaeaf (1952). Ymysg ei gerddi enwocaf mae Mae Hiraeth yn y Môr, Y Llwynog, Eifionydd (am lonyddwch y Lôn Goed) ac Englynion Coffa Hedd Wyn.
Cyhoeddwyd casgliad o'i ryddiaith dan y teitl Rhyddiaith R. Williams Parry dan olygyddiaeth Bedwyr Lewis Jones yn 1974.
Llyfryddiaeth
golygu- Yr Haf a Cherddi Eraill (1924)
- Cerddi'r Gaeaf (1952)
- Rhyddiaith R. Williams Parry, gol. Bedwyr Lewis Jones (1974)
Astudiaethau
golygu- Bedwyr Lewys Jones, R. Williams Parry, Cyfres Writers of Wales (1972)
- T. Emrys Parry, Barddoniaeth R. Williams Parry (1973). Astudiaeth sy'n cynnwys ei holl gerddi fel atodiad.
- Alan Llwyd (gol.), R. Williams Parry, Cyfres y Meistri (1979). Cyfrol o ysgrifau beirniadol gan sawl awdur.
- Alan Llwyd, Llên y Llenor: R. Williams Parry (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1984)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997), erthygl am y bardd
- T. Emyr Pritchard, Bro a Bywyd: R. Williams Parry 1884-1956 (Cyhoeddiadau Barddas, 1998)
- Alan Llwyd, Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956 (Gwasg Gomer, 2013)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Parch John Pritchard (1940); Llyfr Hanes yr Ysgol Sir, Brynrefail, Arfon (cyhoeddwr: Llywodraethwyr yr ysgol; argraffwyr: Swyddfa’r Goleuad.)
- ↑ Elfyn Pritchard, cyn brifathro Ysgol Fridd y Llyn (ar lafar wrth Gareth Pritchard)
- ↑ Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif. Ben Rees.Cwmni Cyhoeddiadau Modern 1972
- ↑ Alan Llwyd, Barn 601 (Chwefror 2013)