Port Sunlight
Pentref model yn Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Port Sunlight.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Cilgwri. Saif ar benrhyn Cilgwri ar lan gorllewinol Afon Merswy, rhwyg Bebington a New Ferry.
Math | anheddiad dynol, maestref, pentref model |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.355°N 2.994°W |
Cod OS | SJ338847 |
Cod post | CH62 |
Fe'i sefydlwyd gan Arglwydd William Hesketh Lever yn 1888 ar gyfer gweithwyr yn ei ffatri sebon. Prynodd ei gwmni, Lever Brothers a ddaeth yn rhan o Unilever ym 1930, 56 erw o dir ar lan deheuol yr afon ar gyfer ffatri a pentref. Gweithiodd bron 30 o benseiriau yn ystod y prosiect, ac adeiladwyd 800 o dai rhwng 1899 a 1914. Enwyd y pentref ar ôl "Sunlight", sebon golchi poblogaidd Lever Brothers.
Mae amgueddfa ac Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever yn y pentref.[2]
Mae’r pentref wedi bod yn ardal cadwriaeth ers 1978. Mae dros 900 o adeiladau rhestredig gradd II. Mae dros 300,000 o bobl yn ymweld yn flynyddol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Pentref Port Sunlight ym 1999 gan gwmni Unilever.[3]
Agorwyd parc ar lan yr afon yn 2014 ar hen safle tirlenwi. Mae’r gwlyptir cyfagos yn bwysig i adar y môr. Perchnogion y parc yw yr ymddiriedolaeth tir, a rheolir y parc gan Autism Today.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2019
- ↑ Gwefan y pentref
- ↑ "Tudalen yr Ymddiriedolaeth ar wefan y pentref". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-15. Cyrchwyd 2019-02-14.
- ↑ Gwefan y ‘Land Trust