[go: up one dir, main page]

Nofel hanes fer gan y llenor a hanesydd Cymreig R. T. Jenkins a gyhoeddwyd yn 1943 yw Orinda. Cymru yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr yw lleoliad y nofel, ac mae yn dilyn hanes "Orinda", sef y bardd Katherine Philips ("Y Ddigymar Orinda", 1631-64) a'i gŵr Syr James trwy lygaid y cymeriad dychmygol y Parchedig Richard Aubrey.

Orinda
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRobert Thomas Jenkins Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHughes a'i Fab Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1943 Edit this on Wikidata
Tudalennau68 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaerdydd Edit this on Wikidata

Lleolir y nofel yn ardal Aberteifi a'r cylch. Er mai ffuglen ydyw, mae'r nofel yn seiliedig ar wir hanes y brydyddes a gwleidyddiaeth y cyfnod yng Nghymru a Lloegr, ffrwyth ymchwil manwl gan yr hanesydd.

Manylion cyhoeddi

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.