[go: up one dir, main page]

Onnen

Coeden braff a chyffredin sy'n bwrw cysgod ysgafn ar y ddaear odditani.
Onnen
Fraxinus ornus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Oleaceae
Llwyth: Oleeae
Genws: Fraxinus
L.[1]
Rhywogaethau

Tua 45–65

Coeden sy'n perthyn i'r genws Fraxinus o'r teulu Oleaceae (teulu'r olewydd a'r lelog) yw onnen (ll. ynn; Saesneg: ash). Ceir cryn nifer o rywogaethau yn y genws hwn yn enwedig yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Maent yn goed mawr neu gweddol fawr. Yr onnen gyffredin yng Nghymru yw'r Onnen Ewropeaidd, Fraxinus excelsior. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau Fraxinus yn ddeuoecaidd sy'n golygu bod y blodau gwrywaidd a'r blodau benywaidd ar blanhigion gwahanol.

Mae'r dail gyferbyn â'i gilydd ac mae'n goeden hawdd ei hadnabod yn yr hydref, oherwydd yr 'hadau hofrennydd' sy'n disgyn ohoni. Ffrwyth ydy'r hedyn hwn, yn wyddonol, a elwir yn samara. Nid yw'r gerddinen yn perthyn i'r Fraxinus, er fod y dail a'r egin yn edrych yn union yr un peth, eithr mae'n perthyn i'r genws Sorbus.

Yr onnen Ewropeaidd yn ei blodau
Hadau'r onnen Ewropeaidd

Mae'r onnen Fraxinus excelsior yn aelod o'r un teulu a'r olewydden a lelog. Mae ‘excelsior' yn golygu ‘rhagorol'. Mae ei henw Saesneg ash yn tarddu o air Eingl-Sacsonaidd am 'waywffon'. Yr enw Llydaweg yw onnenn a'r enw Ffrangeg yw frêne (sy'n tarddu mae'n debyg o'r Lladin fraxinus).[2] Ei enw yn Almaeneg yw Esche. Amlygir yn glir o'r gymhariaeth hon dri teulu mawr o ieithoedd, y Gelteg, y Lladin a'r ieithoedd Germanaidd.

 
Y ffwng ar gangen o onnen yng ngwledydd Prydain, 2012

Ecoleg

golygu

Mae ynn yn gyffredin ledled Prydain ac maen nhw'n ffynnu ar galchfaen. Y goedwig fwyaf gogleddol lle maent yn tyfu ydy coedwig Rassal, Wester Ross yn yr Alban. Mae ynn yn ffafrio pridd llaith ac yn cynnal dros 110 o rywogaethau o bryfed a gwiddon (gweler isod). Bydd blagur du mawr yr onnen yn gyfarwydd i lawer ac yn aml mae'r rhain yn hynod o drawiadol yn ystod y gaeaf.
Mae'r dail yn ymddangos yn hwyrach yn y gwanwyn na llawer o goed eraill ac mae hyn yn golygu bod planhigion eraill yn gallu sefydlu eu hunain o dan y goeden trwy fanteisio ar heulwen a gwres; blodau fel briallu a blodyn y gwynt yn blodeuo'n braf ym mis Mai a mis Mehefin.[2]

Pryfed dibynnol

golygu

Mae nifer o loÿnnod byw a gwyfynod yn byw ac yn bwyta'r onnen gan gynnwys Teigr ôl-adain goch, Teigr cochddu, Gwyfyn drewllyd, y Llewpart, Brith y cyrens, Carpiog y gwyddfid, Gwyfyn teires y Gogledd, Brychan cochwyrdd, Carpiog pluog, Rhisglyn minfylchog bach, Carpiog mawr, Carpiog tywyll, Brychan Tachwedd, Pwtyn yr ynn, Rhisglyn brith, Carpiog y cyll, Brychan y gaeaf, Gwregys dau smotyn, Carpiog lloerennog, Carpiog porffor, Brychan y rhafnwydd, Gwyfyn Rhagfyr, Siobyn cynffon frown, Siobyn y sipsi, Siobyn, Ôl-adain gopor, Oren coch, Melyn yr onnen, Ôl-adain las a'r Ôl-adain goch.

Hymenoscyphus pseudoalbidus

golygu

Adnabyddwyd y ffwng Hymenoscyphus pseudoalbidus am y tro cyntaf yn 2006 dan yr enw Chalara fraxinea.[3] Mae'n tyfu ar yr onnen yn ystod yr haf ac mae'r sborau'n ymledu gan y gwynt.[4] Ataliwyd mewnforio pren a choed yr onnen i mewn i wledydd Prydain gan ddeddfwriaeth yn Hydref 2012.[5]

Hanes yr onnen yng ngwledydd Prydain

golygu

Weithiau cyferir at yr onnen fel ‘coeden arloesol'. Bedwen arian a draenen wen ydy'r coed arloesol eraill a byddan nhw'n sefydlu eu hunain yn rhwydd ar lecyn agored. Dyma pam bod ynn yn gyffredin mewn hen chwareli ac ar hyd hen reilffyrdd. Mae hanes coetiroedd yn dechrau tua 1200 CC pan ddaeth yr Oes Ia ddiwethaf i ben. Bedw arian, pinwydd, coed cyll a'r helyg deilgron oedd y rhywogaethau cyntaf i ymfudo i ogledd ynys Prydain ar ôl i'r iâ encilio. Yna, mudodd yr onnen ynghyd a'r gelynnen, y ffawydden, masarnen y maes a'r oestrwydden. Mae'r drefn hon yn cael ei adnabod trwy ddadansoddi paill yn y mawndiroedd.

Mae onnen yn ffynnu'n well mewn hinsawdd cynhesach, felly doedd hi ddim yn rhy gyffredin ym Mhrydain yn y canrifoedd ar ôl diwedd yr Oes Ia diwethaf, ond roedd cyfnod hir (7000-5000 BC) pan oedd yr hinsawdd yn sefydlog a byddai coed yn gorchuddio Prydain i gyd heblaw copaon mynyddoedd, ardaloedd bach o weundir, twyni arfordirol a morfeydd heli. Roedd yna felly ehangder sylweddol o goed cyn gweithgarwch dynol ar raddfa fawr.

Erbyn 5000 BC, roedd ynn yn llawer mwy cyffredin. Trwy esgeuluso'r ymarfer o brysgoedio a defnydd eang o dderw yn ystod cyfnodau o ryfel, mae coetiroedd onnen prydferth yn fwy cyffredin. Mae'r fath goetiroedd (fel Salisbury Wood) i'w gweld yn ne Sir Fynwy ac ar ffin Sir Fynwy/swydd Henffordd. Un o'r coetiroedd ynn gorau yng ngwledydd Prydain ydy'r un sy'n rhan o warchodfa natur Craig y Rhiwarth. Mae'r warchodfa hon ger parc gwledig Craig y Nos ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ceir ardaloedd eang o goed ynn ger rhai afonydd, fel Afon Wysg, gan fod y coed yn ffynnu ar dir gwlyb. Er hynny, bydd llifogydd rheolaidd ar y tir wrth ymyl afonydd yn atal onnen rhag tyfu ar y glannau.[2]

Defnydd

golygu

Pren caled ydy pren yr onnen ac mae'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu powlenni, batiau pêl fas, gitarau trydanol a choesau dodrefn ac offer arall. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn grisiau hefyd gan fod y pren mor ddeniadol a chadarn. Cafodd fframiau ceir ac awyrennau cynnar eu hadeiladu efo pren onnen oherwydd ei hyblygrwydd. Mae cwmni car The Morgan Motor Company, a sefydlwyd ym Malvern ym 1910, yn dal i ddefnyddio pren onnen i wneud fframiau eu ceir.[2]

Mytholeg a Llên Gwerin

golygu

Ewropeaidd

golygu

Mae'r onnen yn arwyddocaol mewn mytholeg. Nymffod yr onnen oedd y Meliae ym Mytholeg Roeg ac ym Mytholeg Lychlynnaidd, gwelid ‘Yggdrasill', coeden hudolus iawn, fel brenhinbren. Âi'r duwiau at y goeden hon yn ddyddiol er mwyn cynnal eu cymanfaoedd a adwaenid fel ‘Y Things'.

Yn ôl llên gwerin Iwerddon mae'r cnydau'n cael eu difrodi gan gysgod yr onnen ac yn Swydd Gaer, credid y basai'r onnen yn gwella dafadennau a'r llech (Rickets). Mewn rhannau o Ewrop, credid y buasai nadroedd yn cael eu gwrthyrru gan gylch a dynnwyd gan gangen yr onnen neu gan ddail yr onnen. Yn Sussex, adwaenid ynn fel widowmakers gan y buasai canghennau mawr yn syrthio heb rybudd.[2]

Rhywogaethau

golygu
Dwyrain Gogledd America
Gorllewin a de-orllewin Gogledd America
Y Palaearctig gorllewinol (Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia)
Y Palaearctig dwyreiniol (canolbarth a dwyrain Asia)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Fraxinus L." Germplasm Resources Information Network. United States Department of Agriculture. 2006-04-03. Cyrchwyd 2010-02-22.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 39
  3. "FRAXBACK - Category: Chalara". FRAXBACK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-04. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.
  4. "Chalara dieback of ash (Chalara fraxinea)". Y Comisiwn Coedwigaeth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-05. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
  5. David Batty and agencies (27 Hydref 2012). "Ash tree ban Mai be too late to avert 'UK tragedy', says expert". The Guardian. Cyrchwyd 29 Hydref 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)