Omaloma
Prosiect cerddorol George Amor (Sen Segur gynt) a Llŷr Pari (Y Niwl) yw Omaloma. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, “Ha Ha Haf”, ym mis Ebrill 2016. Cyhoeddwyd eu halbwm gyntaf, Swish, yn 2020, wedi iddi gael ei chynhyrchu yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed, gan Llŷr Pari.
Bu'r band ar daith o amgylch gwledydd Prydain gyda Gwenno Saunders ar ddechrau 2018.
Yn chwarae yn fyw mae George Amor (prif leisydd ac allweddellau), Llŷr Pari (dryms), Gruff ab Arwel (gitâr ac allweddellau), Daf Owain (gitâr fas), Alex Morrison (gitâr ac allweddellau).