[go: up one dir, main page]


Sioe Feiblaidd i blant o ddiwedd y 1920au yw Noa, gan y Ffrancwr André Obey. Llwyfannwyd y cynhyrchiad am y tro cyntaf yn Llundain ym 1935 gyda John Gielgud yn y brif ran. Llwyfannwyd y sioe yn y Gymraeg am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1982, yn hytrach na'r pantomeim flynyddol draddodiadol. Hanes y ffermwr Noa a'i deulu o Lyfr Genesis yw craidd y sioe, wrth iddynt adeiladu'r Arch i'w gwarchod rhag Y Dilyw. Dyma'r cynhyrchiad cyntaf i Gwmni Theatr Cymru o dan arweiniad Emily Davies fel arweinydd artistig.

Noa
Dyddiad cynharaf1929-30
AwdurAndré Obey
GwladFfrainc
IaithFfrangeg
Genredrama lwyfan

Cefndir

golygu

"Nid o fwriad o gwbl y torrwyd ar draddodiad wrth gyflwyno Noa yn lle'r pantomeim arferol" cyhoedda Rhaglen y cynhyrchiad, "Ond nid ymwrthod â phantomeim wnaeth Emily Davies wrth lunio ei rhaglen ar gyfer y gyntaf o'i thair blynedd fel Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni", ychwanegodd.[1]

"Ers ei phenodiad yn ystod yr haf ni fu ganddi'r amser angenrheidiol i baratoi a chomisiynu pantomeim ar gyfer eleni. Yn ei le dewisodd gynhyrchiad sydd cyn debyced i bantomeim â dim, cynhyrchiad sydd yr un mor atyniadol a chyda'r un apel. Yn wahanol iawn i bantomeimiau'r Cwmni yn y gorffennol mae Noa yn seiliedig ar stori gyfarwydd ac adnabyddus: un Y Dilyw o'r Hen Destament. Diau y golyga hyn y gall y plant ei ddilyn yn llawer gwell na phantomeim nad ydynt yn gyfarwydd â'r stori. Fel pantomeim mae Noa yn gynhyrchiad lliwgar, bywiog sy'n llawn doniolwch a ffraethineb. Ceir ynddo hefyd ddawnsio a meim a phrif gymeriad fydd yn llawn mor gofiadwy â Guto Nyth Cacwn, Micos [o'r panto Mwstwr Yn Y Clwstwr] a'r gweddill. Bydd i Noa hefyd apêl ymysg y rhai hynny nad ydynt yn mwynhau pantomeim. Nid oes ynddo sŵn aflafar band ac yn yr amryw gyffyrddiadau dwysach diau y bydd digon i gnoi cil wedyn."[1]

Cymeriadau

golygu
  • Noa
  • Mrs Noa
  • Shem
  • Ham
  • Japheth
  • Naomi
  • Sella
  • Ada
  • yr arth
  • y llew
  • y mwnci
  • yr eliffant
  • y fuwch
  • yr oen
  • y blaidd
  • y teigar
  • y dyn
 
Rhaglen sioe Noa (1982)
 
Llun o gast y sioe Noa o 1982

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1930au

golygu

Llwyfannwyd y cyfieithiad Saesneg am y tro cyntaf yn y Theatr Newydd, Llundain ym 1935 gyda John Gielgud ac Alec Guinness ymysg y cast.

1980au

golygu

Llwyfannwyd y sioe Gymraeg am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru dros gyfnod y Gaeaf ym 1982/83. Cyfarwyddydd y cynhyrchiad oedd Emily Davies; cynllunydd Martin Morley; cast: Dafydd Hywel, Eirlys Parri, Ynyr Williams, Betsan Llwyd, Alun ap Brinley, Nia Caron a Geraint Lewis.

Mae'r actor a'r cyfarwyddwr Dafydd Hywel yn hel atgofion am y cynhyrchiad yn ei hunangofiant: "Ro'dd Emily Davies wedi dod i amlygrwydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn fawr ei pharch ledled Cymru a thu hwnt. [...] Penderfynodd Mrs Davies amgylchynu'i hun â chriw o'i chynfyfyrwyr [...] Ro'n nhw'n gyfarwydd â hi, yn ei heilunaddoli hyd yn oed, ac yn fodlon mynd dwy ddŵr a thân i'w phlesio hi. Ro'n i'n dipyn o outsider fel allech chi ddishgwl, ac fel o'dd y diwrnode'n mynd yn eu blan fe ddath pawb, yn actorion ac yn griw cefen llwyfan, i sylweddoli fod yna densiwn a thyndra yn yr aer... a fi odd Dennis the Menace! Yn 'y marn i, mistake odd rhoi cytundebe i gyment o'i chyn-fyfyrwyr."[2]

 
Llun o'r sioe Noa gan Gwmni Theatr Cymru

Yn ôl Dafydd Hywel, trodd yr ymarferion yn "hunlle" a cheisiwyd achub y cynhyrchiad ar sawl achlysur. Ar ben hynny, anafwyd dau o'r criw llwyfannu ar noson agoriadol y sioe yn Theatr Ardudwy, Harlech, a bu'n rhaid gohirio.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Noa. 1982.
  2. 2.0 2.1 Hywel, Dafydd (2012). Hunangofiant Alff Garnant. Gomer. ISBN 9781848515376.