[go: up one dir, main page]

Nomad

aelod o gymuned o bobl sy'n byw mewn gwahanol leoliadau, gan symud o un lle i'r llall

Cymunedau dynol yw nomadiaid sydd yn symud o un lle i'r llall yn hytrach na chyfanheddu mewn un man yn arhosol. Mae rhyw 30-40 miliwn o nomadiaid yn y byd.[1] Dosbarthir diwylliannau nomadig yn dri chategori: helwyr-gasglwyr, sydd yn byw ar helwriaeth a phlanhigion gwyllt; nomadiaid bugeiliol, sydd yn symud â da byw; a nomadiaid peripatetig, sydd yn ymarfer crefft neu'n fasnachu.

Nomadiaid Cirgisaidd ar stepdiroedd Ymerodraeth Rwsia, tua 1910

Helwyr-gasglwyr

golygu

Mae nifer o grwpiau ethnig bychain sydd yn byw mewn amgylchedd caled yn chwilota am lysiau a ffrwythau ac yn hela anifeiliaid, yn enwedig mamaliaid bychain a physgod, wrth iddynt grwydro. Yn eu plith mae Brodorion Awstralia, y San (pobl y prysglwyni) yn y Kalahari, y pigmïaid yng ngoedwigoedd glaw y Congo, ac ambell lwyth o'r Americanwyr Brodorol a'r Inuit.

Bugeiliaid

golygu
 
Sami, gyda'u cŵn a'u pebyll (tua 1900–20).

Mae nomadiad bugeiliol yn cadw anifeiliaid, megis defaid a gwartheg, am eu cig a'u llaeth, eu crwyn a'u blew. Maent yn crwydro ar laswelltiroedd sych, gan symud o un borfa i'r llall, ac yn byw gan amlaf mewn pebyll. Ni ellir tyfu cnydau yn y fath dir. Mae rhai o nomadiaid yr anial yn cadw camelod, a'r Sami yn y Lapdir yn symud ar yr eira gyda'u ceirw.

Nomadiaid peripatetig

golygu

Enw ar yr amryw o grwpiau ethnig a chymdeithasol sydd yn ymgynnal eu hunain drwy ymarfer crefftau neu fasnachu â chymunedau sefydlog. Yn ogystal â phobloedd niferus megis y Roma, rhoddir yr enw hefyd ar gymunedau bychain o weithwyr ymfudol, er enghraifft y tinceriaid ym Mhrydain ac Iwerddon.

Ffyrdd hanner-grwydrol o fyw

golygu

Ffordd o fywoliaeth fugeiliol sy'n nomadaidd i raddau yw trawstrefa a nodweddir gan symud da byw yn dymhorol i ardal arall. Y ffurf arferol yw mudo i diroedd pori mynyddig yn y tymhorau cynnes ac i symud i diroedd isel yn ystod gweddill y flwyddyn. Y prif gwahaniaeth rhwng trawstrefa a bugeilyddiaeth nomadaidd yw'r trigfannau sefydlog sydd gan amaethwyr sy'n trawstrefa. Enghraifft o gyfundrefn drawstrefa ydy arfer y Cymry o symud rhwng yr hafod ar y mynydd yn yr haf a'r hendre ar lawr gwlad yn y gaeaf.

Pobloedd nomadaidd

golygu
Prif: Roma
 
Roma yn Lviv, yr Wcráin.

Pobl nomadaidd sy'n tarddu o'r India yw'r Roma neu'r Romani. Adnabyddir yn draddodiadol gan yr enw Sipsiwn, ond term a roddir arnynt gan eraill yw hwnnw a gall hefyd cyfeirio at grwpiau nomadaidd eraill. Mae'n bosib bod y Roma yn perthyn i'r Dom neu i'r cast Indiaidd Domba. Datblygodd yr iaith Romani rhywbryd ar ôl 500 CC yng nghanolbarth India. Dechreuodd y Roma fudo i'r gogledd tuag at Gashmir cyn 500 OC, ond arhosodd yn isgyfandir India tan tua'r 9g. Mudodd yna i'r gorllewin gan ymsefydlu yng ngorllewin Anatolia ac yn hwyrach ar draws Ewrop, ac erbyn heddiw ar draws y byd. Bu'r Roma yn dioddef rhagfarn ac erledigaeth trwy gydol eu hoes, gan gynnwys caethwasiaeth yn Nwyrain Ewrop, pogromau, ac hil-laddiad yn yr Holocost.

Sipsiwn eraill yn Ewrop

golygu

Nomadiaid Ewropeaidd o Ganolbarth Ewrop, yn bennaf y gwledydd Almaeneg, ydy'r Jenische. Maent yn byw yn yr Almaen, Awstria, y Swistir, a rhannau o Ffrainc. Daw Teithwyr Gwyddelig o Iwerddon, a mae nifer ohonynt yn byw yn y wlad honno ac ym Mhrydain.

Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol

golygu

Pobl Arabaidd nomadaidd sydd yn byw yn niffeithwch a lled-anialdiroedd Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol yw'r Bedowiniaid. Cyrhaeddant Gogledd Affrica yn sgil gorchfygiad yr ardal gan yr Arabiaid yn yr 8g. Cedwir defaid, geifr, camelod, ac weithiau gwartheg ganddynt. Mae'n bosib iddynt plannu cnydau ar hyd y llwybrau mudo a ddefnyddir amlaf, a'u cynaeafu ar y daith yn ôl. Maent yn masnachu â chymunedau sefydlog.

 
Dyn Twareg a'i fab yn Tombouctou (tua 1948–55).

Grŵp ethnig sy'n byw yng ngorllewin y Sahara yw'r Twareg, sydd yn draddodiadol yn nomadiaid sydd yn byw trwy gadw anifeiliaid. Bugeilwyr yn nwyrain y Sahara yw'r Bejaid sy'n byw ar laeth, menyn a chig a gynhyrchir gan eu gwartheg a'u camelod.

Canolbarth a Dwyrain Asia

golygu

Roedd nifer o bobloedd hynafol Canolbarth Asia yn nomadiaid, ac o'r rhanbarth honno daeth y bobloedd Dyrcig o Dyrcestan i Dwrci. I'r gogledd o Tsieina yn Nwyrain Asia daeth y Mongolwyr, yr ysbeilwyr a'r ymosodwyr a orchfygasant y mwyafrif o Ewrasia yn yr Oesoedd Canol. O'r ardal honno hefyd daeth y Tartariaid, a drosant yn Fwslimiaid ar eu ffordd i'r India ac Ewrop.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu