Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig
Ymerodres Gydweddog i Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig oedd yr Archdduges Maria o Awstria (21 Mehefin 1528 – 26 Chwefror 1603). Gwasanaethodd Maria fel rhaglaw tra oedd ei thad, yr Ymerawdwr Siarl V, yn absennol o Sbaen rhwng 1548 a 1551, ac eto, rhwng 1558 a 1561 tra oedd ei brawd Felipe II, brenin Sbaen yn absennol.
Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1528 Madrid |
Bu farw | 26 Chwefror 1603 Convent of Las Descalzas Reales |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | brenhines cyflawn |
Swydd | Holy Roman Empress |
Tad | Siarl V |
Mam | Isabel o Bortiwgal |
Priod | Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Plant | Anna o Awstria, Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Ernst van Oostenrijk, Elisabeth of Austria, Matthias, Maximilian III, Archduke of Austria, Albert VII, Archduke of Austria, Archduke Wenceslaus of Austria, Archduchess Margaretha of Austria, Ferdinand von Habsburg, Friedrich von Habsburg, Marie von Habsburg, Karl von Habsburg, Eleonore Erzherzogin von Österreich, Marie von Habsburg |
Perthnasau | Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Llinach | Habsburg |
Ganwyd Maria ym Madrid yn ferch i Siarl V, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd a Brenin Sbaen, ac Isabella o Bortiwgal. Fe’i magwyd yn Toledo a Valladolid yn bennaf gyda’i brawd Felipe a chwaer Joanna.
Ym 1548, yn 20 oed, priododd ei chefnder yr Archddug Maximilian.[1][2] Rhoddodd hi 16 o blant iddo yn ystod 28 mlynedd o briodas. Roedd hi a Maximilian yn Rhaglywiaid Sbaen tra roedd ei thad yn delio â materion gwleidyddol yn yr Almaen o 1548 i 1551. Ar ôl i'w thad ddychwelyd i Madrid fe symudon nhw i fyw yn llys tad Maximilian, Ferdinand I, yn Fienna. Ar ôl i Ferdinand farw ym 1564, daeth Maximilian yn Ymerawdwr. Er bod ei gŵr yn oddefgar ynghylch materion crefyddol, roedd Maria yn Babydd brwd. Bu farw Maximilian ym 1576, ond parhaodd Maria i fyw yn y llys ymerodrol yn Fienna tan 1582, pan ddychwelodd i Madrid, lle bu’n byw hyd at ei marwolaeth ym 1603.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kamen, Henry (1998). Philip of Spain (yn Saesneg). Yale University Press. t. 35. ISBN 978-0-300-07800-8.
- ↑ Anne Ake (2001). Austria (yn Saesneg). Lucent Books. t. 25. ISBN 978-1-56006-758-0.