[go: up one dir, main page]

Caesar Marcus Aurelius Antoninus Augustus neu Marcus Aurelius (26 Ebrill 12117 Mawrth 180) oedd Ymerawdwr Rhufain o 7 Mawrth 161 hyd ei farwolaeth. Ei enw gwreiddiol oedd Marcus Annius Catilius Severus. Wedi priodi cymerodd yr enw Marcus Annius Verus. Pan gyhoeddwyd ef yn ymerawdwr galwodd ei hun yn Marcus Aurelius Antoninus. Ystyrir ef fel yr olaf o'r "Pum Ymerawdwr Da".

Marcus Aurelius
GanwydMarcus Catilius Severus Annius Verus Edit this on Wikidata
26 Ebrill 121 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 180 Edit this on Wikidata
Vindobona Edit this on Wikidata
Man preswylRhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, llenor, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, quaestor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMeditations Edit this on Wikidata
Mudiadstoicism Edit this on Wikidata
TadMarcus Annius Verus, Antoninus Pius Edit this on Wikidata
MamCalvisia Domitia Lucilla Edit this on Wikidata
PriodFaustina yr Ieuengaf Edit this on Wikidata
PartnerCeionia Fabia Edit this on Wikidata
PlantCommodus, Marcus Annius Verus Caesar, Annia Aurelia Galeria Faustina, Fadilla, Lucilla, Annia Cornificia Faustina Minor, Vibia Aurelia Sabina, Titus Aurelius Fulvus Antoninus, Domitia Faustina Edit this on Wikidata
PerthnasauMalemnius Edit this on Wikidata
LlinachAntonines, Aurelies Edit this on Wikidata

Yn ystod ei deyrnasiad bu raid i Marcus Aurelius ryfela'n barhaus yn erbyn gwahanol bobloedd ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd yr Almaenwyr droeon ar Gâl, ac adenillodd y Parthiaid eu nerth ac ymosod ar yr ymerodraeth. Oherwydd y problemau hyn dewisodd Lucius Verus fel cyd-ymerawdwr, hyd farwolaeth Verus yn 169.

Mae Marcus Aurelius yn adnabyddus fel awdur y Myfyrdodau, a ysgrifennodd yn yr iaith Roeg yn ystod ymgyrchoedd milwrol rhwng 170 a 180. Ystyrir y llyfr yn glasur hyd heddiw. Credir mai yn ystod ei deyrnasiad ef y bu'r cysylltiad cyntaf rhwng yr ymerodraeth Rufeinig a Tsieina yn y flwyddyn 166.

Bu farw Marcus Aurelius ar 17 Mawrth 180 yn ninas Vindobona (Fienna heddiw) tra'n ymgyrchu yn erbyn y Marcomanni. Daethpwyd a'i gorff yn ôl i Rufain i'w gladdu. Yn wahanol i'r pedwar ymeradwr o'i flaen roedd ganddo fab i'w olynu. Gwnaeth ei fab Commodus yn gyd-ymerawdwr yn 177, a dilynodd ei dad yn 180. Yn anffodus ni fu Commodus yn ymerawdwr da, ac mae rhai haneswyr yn ystyried mai marwolaeth Marcus Aurelius yn 180 oedd diwedd y Pax Romana.

Cerflun o Marcus Aurelius yn Piazza del Campidoglio yn Rhufain
Rhagflaenydd:
Antoninus Pius
Ymerawdwr Rhufain
7 Mawrth 16117 Mawrth 180
gyda Lucius Verus 7 Mawrth 161? Mawrth 169
gyda Commodus 17717 Mawrth 180
Olynydd:
Commodus
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato