Machynlleth
Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] ( ynganiad ). Saif ger aber Afon Dyfi. Mae ganddi boblogaeth o 2,235 (2011),[3] 2,163 (2021),[4] 2,161 (2021)[5]. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,235, 2,163, 2,161 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.591°N 3.849°W |
Cod SYG | W04000326 |
Cod OS | SH745005 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas. Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yma ym Machynlleth yn 35 Heol Maengwyn, a hynny yn 1961.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[6] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[7] Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.
Hanes
golyguCynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Cloc y dref
- Garsiwn ("Ty Frenhinol")
- Gorsaf reilffordd Machynlleth
- MOMA, Wales
- Plas Machynlleth
- Senedd-dy Owain Glyn Dŵr
- Y Tabernacl
Pont-ar-Ddyfi a Phont Ddyfi Newydd
golyguCrybwyllir 'Pont ar Ddyfi' am y tro cyntaf yn 1533, gan Geoffrey Hughes yn ei gyfrol "Citizen and Merchant taylour of London" a adawodd £6 13s 4d (deg marc) i godi'r bont. Erbyn 1601 dywedwyd nad oedd "pont Ddyfi yng Nghantref Mochunleth" yn ddigonol, ac adeiladwyd yr un presennol yn 1805 am gost o £250.
Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Agorwyd y ffordd newydd yn 2023 a chostiodd tua £46 miliwn, arianwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.[11] Roedd yr hen bont dan lifogydd yn aml pan oedd llif yr afon yn gryf ond mae'r broblem hon bellach wedi'i datrys.
Hamdden
golyguMae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.
Digwyddiadau
golyguCynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:
- Gŵyl Machynlleth - mis Awst
- Gŵyl Gomedi Machynlleth - mis Mai
Enwogion
golygu- Llawdden, bardd canoloesol (fl. 1450) a fu'n byw ym Machynlleth
- John Evans (gwleidydd Columbia Brydeinig) (1816–1879)
- Emrys James (1928-1989), actor
- Gareth Glyn (g. 1951), cyfansoddwr
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:
Oriel
golygu-
Plas Machynlleth tua 1885
-
Y Stryd Fawr
-
Cloc y dref
-
Pont ar Ddyfi, ger y dref
-
Mynwent yr eglwys
-
Adeilad ar draws y ffordd i'r fynwent, ger y gofeb rhyfel
-
Tafarn y Llew Gwyn
-
Adeilad hynafol ym Machynlleth
-
Y gofeb rhyfel
-
Enwau'r milwyr a laddwyd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
- ↑ https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000326.
- ↑ https://www.cambrian-news.co.uk/news/valley-of-the-lonely-hearts-668205.
- ↑ "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ "Codi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth". Golwg360. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog