[go: up one dir, main page]

Seicolegydd Americanaidd oedd Julian Jaynes (27 Chwefror 192021 Tachwedd 1997), a adnabyddir orau am ei lyfr The Origin of Consciousness in the Breakdown of the Bicameral Mind (1976), ynddi dadleuodd nad oedd pobl hynafol yn ymwybodol (nid oedent yn berchen ar lle-meddwl mewnsyllgar), ond y cyfarwyddwyd eu ymddygiad gan rhithweledigaethau clybodol, ac yr oeddent yn dehongli hyn fel lleis eu pennaeth, brenin neu dduwiau. Dadleuodd Jaynes y digwyddodd y newid o'r ffurf yma o feddwl (a elwodd yn feddwl bicameral) i ymwybyddiaeth drost gyfnod o ganrifoedd tua tair mil o flynyddoedd yn ôl, seilwyd ar ddatblygiad iaith trosiadol ac ymddangosiad ysgrifennu.

Julian Jaynes
Ganwyd27 Chwefror 1920 Edit this on Wikidata
Newton Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1997 Edit this on Wikidata
Charlottetown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethseicolegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus ambicameralism, The Origin of Consciousness in the Breakdown of the Bicameral Mind Edit this on Wikidata

Ganwyd Jaynes yng Ngorllewin Newton, Massachusetts a mynychodd Brifysgol Harvard. Roedd yn fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol McGill ac aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr a doethuriaeth o Brifysgol Yale. Frank Beach, ffrind agos i Edwin G. Boring., oedd ei fentor, a fe wnaeth Jaynes gyfraniadau sylweddol i faesydd ymddygiad anifeiliaid ac etholeg yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl Yale, treuliodd Jaynes nifer o flynyddoed yn Lloegr, yn gweithio fel actor a dramodydd. Dychwelodd Jaynes i'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach, a darlithiodd seicoleg ym Mhrifysgol Princeton rhwng 1966 a 1990, gan ddysgu dosbarth poblogaidd ar bwnc ymwybyddiaeth am y rhanfwyaf o'r cyfod hwnnw. Roedd llawer o alw amdano fel darlithydd, a gwahoddwyd ef i darlithio mewn cynadleddau mewn prifysgolion eraill fel darlithydd gwadd; gan gynnwys yn Harvard, Columbia, Cornell, Johns Hopkins, Rutgers, Dalhousie, Wellesley, Florida State, a Phrifysgolion Hampshire Newydd, Pennsylvania, Ynys Tywysog Edward, a Massachusetts yn Amherst a Porthladd Boston Harbor. Yn 1984, gwahoddwyd ef i roi darlith cyflawn yn Symposiwm Wittgenstein yn Kirchburg, Awstria. Fe wnaeth chwe darlith pwysig yn 1985 a naw yn 1986. Gwobrwywyd gyda gradd doethuriaeth anrhydedd gan Goleg Ynys Rhode yn 1979, ac un arall o Goleg Elizabethtown yn 1985.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Marcel Kuijsten (2007). Reflections on the Dawn of Consciousness: Julian Jaynes's Bicameral Mind Theory Revisited. Cymdeithas Julian Jaynes, tud. 13–68. ISBN 0-9790744-0-1

Dolenni allanol

golygu