Henry Fielding
Llenor o Loegr oedd Henry Fielding (22 Ebrill 1707 – 8 Hydref 1754), a aned ger Glastonbury yng Ngwlad yr Haf, Lloegr.
Henry Fielding | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1707 Sharpham |
Bu farw | 8 Hydref 1754 o sirosis Lisbon |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, cyfreithegwr, barnwr, nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, ynad, ynad heddwch, awdur storiau byrion |
Swydd | barnwr |
Arddull | dychan, picaresque novel, stori fer |
Tad | Edmund Fielding |
Mam | Sarah Gould |
Priod | Charlotte Craddock, Mary Daniel |
Plant | Henrietta Fielding, William Fielding, Allen Fielding |
Bywyd
golyguCafodd Henry Fielding ei eni yn 1707 yn Sharpham Park, ger Glastonbury. Ar ôl cael ei addysg yn Eton, aeth i'r Iseldiroedd ac astudiodd y Clasuron yn Leiden. Pan ddychwelodd i Loegr parhaodd i astudio'r gyfraith ond ar yr un pryd dechreuodd ysgrifennu dramâu ac erthyglau i gylchgronau. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1740 ac yn 1749 fe'i apwyntiwyd yn ustus yn Westminster. Teithiodd i Lisbon, prifddinas Portiwgal, ym 1754 a bu farw yno ar yr 8fed o Chwefror. Cyhoeddwyd ei ddyddiadur o'r daith yn 1755, ar ôl ei farwolaeth.
Gwaith llenyddol
golyguRoedd Fielding yn adwur toreithiog. Ysgrifennodd nifer o ddramâu ac erthyglau ond fe'i cofir yn bennaf am ei nofelau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Llyfryddiaeth
golygu- A. Digeon, The Novels of Fielding (1924)
- H. Austin Dobson, Henry Fielding (1907)
- F.H. Dudden, Fielding (1952)
- M.P. Wilcocks, A True-Born Englishman (1947)