Gwyn Nicholls
Roedd Erith Gwyn Nicholls (15 Gorffennaf 1874 – 24 Mawrth 1939) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb ac enillodd 24 o gapiau i Gymru fel canolwr.
Gwyn Nicholls | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1874 Swydd Gaerloyw |
Bu farw | 24 Mawrth 1939 Bro Morgannwg |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Canolwr |
Er iddo gael ei eni yn Lloegr, yn Westbury-on-Severn, Swydd Gaerloyw, dechreuodd Nicholls ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda Sêr Caerdydd cyn chwarae i Gaerdydd yn 1893. Treuliodd bron y cyfan o'i yrfa yn chwarae i Gaerdydd, gan chwarae iddynt am 18 tymor. Yr unig eithriad oedd hanner tymor gyda Casnewydd yn 1901-02 pan ddechreuodd fusnes golchfa yno.
Enillodd ei 24 cap dros Gymru rhwng 1896 a 1906, gan gynnwys deg gêm fel capten. Ef oedd capten Cymru pan enillwyd y Goron Driphlyg yn 1902. Er ei fod wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ar ddiwedd y tymor cynt, dychwelodd i fod yn gapten Cymru ar gyfer y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905. Aeth ar daith i Awstralia gyda tîm yr Ynysoedd Prydeinig yn 1899, ac ef oedd yr unig Gymro ar y daith yma.
Ar 26 Rhagfyr 1949 cynhaliwyd agoriad swyddogol "Gatiau Coffa Gwyn Nicholls" ym Mharc yr Arfau. Agorwyd hwy gan ei gyd-chwaraewr Rhys Gabe.
Cyfeiriadau
golygu- David Parry-Jones (1999) Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the first golden age of Welsh rugby (Seren, 1999)
- David Smith a Gareth Williams, Fields of praise: the official history of the Welsh Rugby Union 1881-1981 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)