Gwyn
lliw
Lliw yw gwyn (ansoddair benywaidd: gwen). Cymysgedd cytbwys ydyw o olau o rannau gwahanyddol y sbectrwm gweledol.
Enghraifft o'r canlynol | lliw, lliw a enwir gan HTML4 |
---|---|
Math | goleuni, achromatic color |
Y gwrthwyneb | du |
Yn cynnwys | coch, oren, melyn, gwyrdd, glas yr awyr, glas, fioled |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Gwyn (gwahaniaethu).
Symboliaeth
golyguMae'r lliw gwyn yn gallu symboleiddio'r canlynol: purdeb, diniweidrwydd, bod yn rhydd o haint, eira, heddwch, ildio a marwolaeth (mewn gwledydd dwyreiniol fel Tsieina ac India). Mae'n symbol o rym positif, creadigol mewn symbolau fel y yin-yan, mewn cyferbyniaeth â du sy'n cynrychioli'r gwrthwyneb.
Gwyn yw lliw traddodiadol ffrogiau priodas.