Ffilm ramantus
Genre o ffilm draethiadol yw ffilm ramantus neu ffilm ramant sy'n ymwneud â thema cariad, ac yn adrodd stori o nwydau, emosiynau, a pherthnasau rhwng y prif gymeriadau. Cyfrwng poblogaidd o ffuglen ramant ydyw. Mae plot y ffilm ramantus nodweddiadol yn dilyn stori'r berthynas rhwng y cymeriadau drwy oedau, carwriaeth, dyweddïad, neu briodas, ac yn canolbwyntio'n bennaf ar y chwilfa am gariad rhamantus. Weithiau, mae'r cymeriadau yn wynebu rhwystrau megis diffyg ariannol, afiechyd, gwahaniaethu neu ragfarn, cyfyngiadau seicolegol, neu wrthwynebiad teuluol. Beth bynnag yw is-genre'r ffilm ramantus—drama, comedi, neu ddamcaniaethol—mae elfennau'r stori yn ceisio efelychu troeon realistig perthnasau rhamantus dynol, gan gynnwys tensiynau bywyd bob dydd, temtasiwn, a gwahaniaethau o ran cyfaddasrwydd y cwpl.[1]
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | ffuglen ramantus, ffilm |
Prif bwnc | cariad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ffilmiau rhamantus yn aml yn archwilio themâu a motiffau megis cariad ar yr olwg gynta], cariad cyntaf, cariad yr henoed, cariad annychweledig, obsesiwn, sentimentaliaeth, ysbrydolrwydd, cariad gwaharddedig, cariad platonig, traserch a rhyw, aberth, llathrudd, anffyddlondeb, y triongl serch, distryw, a thrasiedi. Mae'r ffilm ramantus yn darparu dihangdod neu ddychymyg i'r gynulleidfa, yn enwedig os yw'r cymeriadau yn goresgyn eu trafferthion, yn cyfaddef neu'n ailgyhoeddi eu cariad, ac yn byw'n ddedwydd byth wedyn.
Mae'r sgriptiwr ac ysgolhaig ffilm Eric R. Williams yn disgrifio'r ffilm ramantus fel un o'r 11 o uwch-genres ym myd y sinema, ynghyd â'r ffilm lawn cyffro, y ffilm drosedd, ffantasi, arswyd, gwyddonias, comedi, y ffilm chwaraeon, y ffilm gyffro, y ffilm ryfel, a'r Western.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Romance films". Filmsite.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2013. Cyrchwyd 10 November 2016.
- ↑ Williams, Eric R. (2017). The screenwriters taxonomy : a roadmap to collaborative storytelling. New York, NY: Routledge Studies in Media Theory and Practice. ISBN 978-1-315-10864-3. OCLC 993983488. P. 21