[go: up one dir, main page]

Emilia-Romagna

rhanbarth yr Eidal

Rhanbarth yng ngogledd yr Eidal yw Emilia-Romagna. Bologna yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Modena, Parma, Reggio Emilia, Ravenna a Rimini.

Emilia-Romagna
Mathrhanbarthau'r Eidal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRomagna, Emilia Edit this on Wikidata
PrifddinasBologna Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,459,477 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethStefano Bonaccini Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iHessen, Ibaraki Edit this on Wikidata
NawddsantApollinaris Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd22,123.09 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr211 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Adria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaVeneto, Lombardia, Piemonte, Liguria, Toscana, Marche Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.75°N 11°E Edit this on Wikidata
IT-45 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Emilia-Romagna Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Emilia-Romagna Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arlywydd Emilia-Romagna Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethStefano Bonaccini Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.909 Edit this on Wikidata

Saif Emilia-Romagna rhwng y Môr Adriatig yn y dwyrain, afon Po yn y gogledd a mynyddoedd yr Appenninau yn y de. Ffurfiwyd y rhanbarth trwy uno rhanbarthau hanesyddol Emilia a Romagna. Caiff Emilia ei henw o'r via Æmilia, y ffordd Rufeinig o Rufain i ogledd yr Eidal.

Rhennir y rhanbarth yn naw talaith: Bologna, Ferrara, Forlì-Cesena, Modena, Parma, Piacenza, Ravenna, Reggio Emilia a Rimini. Amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yw'r elfen bwysicaf yn yr economi, gyda diwydiannau bwyd yn Parma a Bologna. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig hefyd, gyda Ferrari, Ducati, Lamborghini a Maserati yn cael eu cynrychioli yma. Mae mentrau cydweithredol yn arbennig o gyffredin yn Emilia-Romagna, ac mae'r chwith yn gryf yma yn wleidyddol.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 4,342,135.[1]

Lleoliad Emilia-Romagna yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn naw talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Taleithiau Emilia-Romagna

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020