Eic Davies
Athro ysgol, dramodydd a darlledwr radio
Athro ysgol, dramodydd a darlledwr radio yn adran chwaraeon y BBC oedd Isaac ‘Eic’ Davies (1909 – Mehefin 1993). Creodd nifer o dermau Cymraeg ar gyfer defnydd yn y byd chwaraeon, yn enwedig ym maes rygbi. Eic oedd bennaf gyfrifol am fathu termau fel ‘blaenwr’, ‘canolwr’, ‘cefnwr’, ‘maswr', ‘ mewnwr’, ‘asgellwr’, a ‘golwr’ ac ati sy’n llifo mor naturiol o enau ei fab, y darlledwr a'r sylwebydd Huw Llywelyn Davies.[1]
Eic Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1909 |
Bu farw | Mehefin 1993 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, dramodydd, cyflwynydd chwaraeon |
Plant | Huw Llywelyn Davies |
Roedd yn athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Yn y 1940au roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni plant gyda BBC Cymru. Aeth ymlaen i gyflwyno rhaglenni teledu yn y 1960au.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Eic Davies, Ewch Ati (Llandybïe, 1954).
- Eic Davies, Fy Mrodyr Lleiaf (Gwauncaegurwen, 1950).
- Eic Davies, Lleuad Iawn (Gwauncaegurwen, 1950).
- Eic Davies, Nos Calan Geuaf (Gwauncaegurwen, 1950).
- Eic Davies, Botymau Prês (Caerdydd, 1944).
- Eic Davies, Cwac Cwac (Gwauncaegurwen, 1951).
- Eic Davies, Cynaeafau (Caerdydd, 1943).
- Eic Davies, Dim ond ‘i fod e’!! (Aberdâr, 1945).
- Eic Davies, Y Dwymyn (Morgannwg, 1958) (2il arg.). [Methu dod o hyd i’r arg. cyntaf]
- Eic Davies, Fforshêm (Caerdydd, 1945).
- Eic Davies, Randibŵ (Caerdydd, 1947).
- Eic Davies, Y Tu Hwnt i’r Llenni (Llandybïe, 1954).
- Eic Davies, Doctor Iŵ Hŵ (Llandysul, 1966).
- Eic Davies, Y Cam Gwag (Llanydybïe, 1947).
- Eic Davies, Llwybrau’r Nos (Cyhoeddwyd gan yr awdur, 1943).
Amdano
golygu- (Gol.) Myrddin ap Dafydd, Cyfrol Deyrnged Eic Davies (Llanrwst, 1995).
- Dafydd Rowlands, ‘Eic’, Barn, rhif 368 (Medi 1993), tt. 18–19.
- Rita Williams, ‘Isaac Gawr’, Golwg, cyfrol 5, rhif 40 (17 Mehefin, 1993), t. 30.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tu ôl i'r meic - Huw Llywelyn Davies; BBC Cymru Fyw; Adalwyd 1 Ionawr 2016
- ↑ Chwiliad Genome, Archif Radio Times
- Gwyddoniadur Cymru, t. 272.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Eic Davies ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.