[go: up one dir, main page]

Eglwys San Pedr, Caerfyrddin

eglwys yng Nghaerfyrddin

Eglwys y plwyf hynafol yn nhref Caerfyrddin yw Eglwys San Pedr. Lleolir yr eglwys yng nghanol y dref, rhwng Heol yr Eglwys a Heol San Pedr. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]

Eglwys Sant Pedr
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
SirCaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr24.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.858°N 4.30267°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iSant Pedr Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 12fed ganrif o leiaf. Rhoddwyd rhwng 1107 a 1124 i Abaty Battle, Sussex, gan y Brenin Harri I.[2] Credir a adeilwyd y corff yr eglwys yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif, wedyn ailadeilwyd y tŵr tua diwedd y 15fed ganrif.[1] Rhwng yr 16eg ganrif a 1816, roedd yr eglwys yn eiddo i'r Goron, wedyn paswyd i Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.[2] Yn 20fed ganrif, paswyd i'r Esgob Tyddewi.[1]

Gwnaed llawer o waith adfer yn ystod y 19eg ganrif. Ailosodwyd y ffenestri yn 1846, wedyn yr toeau 18ed ganrif John Nash rhwng 1861-66. Symudwyd organ 1796 a bedd Syr Rhys ap Thomas. Gosodwyd lloriau teils ym 1866 a 1876.[1]

Adeiladwyd porth mynwent (rhestredig Gradd II) ar Heol San Pedr yn 1879.[3]

Atyniadau

golygu

Disgrifir y tŵr gorllewinol 3 llawr, sydd wedi'i baentio'n wyn, fel tirnod yn y dref.[4] Mae gan yr eglwys y casgliad helaethaf o henebion eglwysig yn ne-orllewin Cymru, rhai o'r safon uchaf.[1]

Claddedigaethau

golygu

Claddwyd yr awdwr Syr Richard Steele (m. 1729) yn yr eglwys. Yn 2000 darganfu archeolegwyr ei benglog, a gafodd ei ail-gladdu ym 1876.[5] Mae bedd bocs Syr William Nott i'w weld ym mynwent yr eglwys i'r gogledd.[1]

Her cadw ar agor

golygu

Yn 2014 adroddwyd ar y costau o gadw'r eglwys ar agor. Nodwyd bod cadw'r adeilad yn agored i eglwyswyr a'r cyhoedd yn costio oddeutu £50,000 y flwyddyn. Bwriadwyd hyrwyddo hanes yr eglwys gan gynnwys beddrod Rhys ap Thomas a'r cysylltiad gyda Llyfr Du Caerfyrddin fel modd o ddenu ymwelwyr a chefnogaeth ariannol.[6]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Parish Church of St Peter. British Listed Buildings. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2024.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Powel, Meilyr (2021). St Peter's Church, Carmarthen. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2024.
  3. (Saesneg) Lychgate to St Peter's Churchyard. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Awst 2024.
  4. (Saesneg) St Peter, Carmarthen, Carmarthenshire (PRN 50). Heneb - Archaeoleg Dyfed. Adalwyd ar 1 Awst 2024.
  5. "Tatler essayist's skull discovered in lead box". The Guardian. 26 Medi 2000. Cyrchwyd 10 Awst 2024.
  6. "Hanes i achub Eglwys Sant Pedr?". BBC Cymru Fyw. 23 Ebrill 2014.