[go: up one dir, main page]

"Moeswers mewn Tair Act" wedi'i gyfansoddi gan Wil Sam Jones ac Emyr Humphreys yw Dinas. Cyfansoddwyd y ddrama ym 1970.[1]

Dinas
Dyddiad cynharaf1970
AwdurW.S. Jones ac Emyr Humphreys
CyhoeddwrLlyfrau'r Dryw
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1970
Argaeleddallan o brint
ISBN0853390673
GenreDramâu Cymraeg

"Mae tynged Dinas yn y fantol. Dibynna'r perchennog, John Barig, yn Ilwyr ar ffyddlondeb Ossie ei was, ond mae'r cartref yn prysur ddadfeilio, a daw'n amlwg fod gan bawb sy'n troi o'u cwmpas ddiddordeb dwfn yn nhynged yr hen le - at eu dibenion eu hunain wrth gwrs... Yn ôl yr awduron: "Ein nod fel arfer yw difyrru: ond os ceir ambell ergyd yma ac acw gorau ol" - ac er i'r ddrama gael ei 'sgwennu ym 1970 mae'r 'ergydion' mor berthnasol ag erioed."[2]

Cymeriadau

golygu
  • John Barig, gŵr Dinas
  • Ossie, y gwas
  • Neal, brawd Ossie
  • Maureen, cariad Neal
  • Yr Athro Rhydderch Barig M.A, nai John Barig
  • Nyrs Davies
  • Sgiffi, prynwr sgrap

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, Y Coleg Normal ym 1968. Cyfarwyddwr John Gwilym Jones; cast:

  • John Barig - William R Lewis
  • Ossie - Ieuan Bryn
  • Neal - Ken Hughes
  • Maureen - Wendy Lloyd Jones / Gweno Lloyd Price
  • Yr Athro Rhydderch Barig M.A, nai John Barig - Gwyn Parry
  • Nyrs Davies - Marwin Evans / Bethan Parry
  • Sgiffi, prynwr sgrap - Cenwyn Edwards

1970au

golygu

Darlledwyd y ddrama ar HTV ym 1972.

1980au

golygu
 
Llun o set Martin Morley ar gyfer y ddrama Dinas Cwmni Theatr Cymru 1982

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1982.[3]

 
Poster drama Wil Sam ac Emyr Humphreys Dinas Theatr Bara Caws (2023)

2020au

golygu

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Bara Caws yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionnydd yn 2023. Cyfarwyddydd Betsan Llwyd; cast: Iwan Charles, Richard Elfyn, Carys Gwilym, Dyfan Roberts, Mari Wyn, Rhodri Trefor, Llion Williams.

Cyfeiriadau

golygu
  1. W.S. Jones, ac Emyr Humphreys (1970). Dinas. Llyfrau'r Dryw.
  2. "Dinas | Arts Council of Wales". arts.wales. Cyrchwyd 2024-09-16.
  3. "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-16.