[go: up one dir, main page]

David Rees (gwleidydd)

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Llafur Cymru yw David Rees. Mae'n Aelod o'r Senedd dros Aberafan ers 2011.[1] Fe'i etholwyd yn ddirprwy Lywydd y Cynulliad ar 12 Mai 2021.

David Rees
AS
Dirprwy Lywydd y Senedd
Deiliad
Cychwyn y swydd
12 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganAnn Jones
Aelod o Senedd Cymru
dros Aberafan
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganBrian Gibbons
Mwyafrif6,402 (30.7%)
Manylion personol
Ganwyd (1957-01-17) 17 Ionawr 1957 (67 oed)
Port Talbot
Plaid wleidyddolLlafur
PriodMarie Rees
Plant2
CartrefCwmafan, Port Talbot
Alma materPrifysgol Caerdydd
GwaithDarlithiwr
ProffesiwnGwleidydd
GwefanGwefan wleidyddol

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Magwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd mewn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg a chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, tra'n gweithio mewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac yn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.[2]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid ac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad. 

Yn 2016 roedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .

Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[3]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Brian Gibbons
Aelod o'r Senedd dros Aberafan
2011
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Ann Jones
Dirprwy Lywydd y Senedd
2021 -
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?
  2. http://www.davidrees.wales/about-david/ Ad-alwyd 18/2/17
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-01. Cyrchwyd 2016-05-10.

Dolenni allanol

golygu