[go: up one dir, main page]

Cwpan Mitropa oedd un o brif gystadlaethau cyntaf pêl-droed Ewropaidd. Fe'i sefydlwyd fel La Coupe de l'Europe Centrale ym 1927. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd cafodd ei ddisodli gan gystadleuaeth o'r enw Cwpan Zentropa cyn adfywio'r enw Cwpan Mitropa ym 1955, ond daeth y gystadleuaeth i ben ym 1992.

 
Gwledydd cystadlu yng Nghwpan Mitropa Cup, 1927–1940

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymiad yr Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd, sefydlodd Awstria, Hwngari a Tsiecoslofacia gynghrieiriau pêl-droed proffesiynol; y gwledydd cyntaf ar gyfandir Ewrop i wneud hyn. Er mwyn sicrhau arian i'r clybiau proffesiynol newydd cafwyd cyfarfod yn Fenis, Yr Eidal ar 17 Gorffennaf, 1927 yn dilyn cais gan ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Awstria (ÖFB), Hugo Meisl, er mwyn sefydlu Cwpan Mitropa[1].

Am y ddau dymor cyntaf cafwyd dau glwb o Awstria, Hwngari, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia gyda AC Sparta Prâg yn ennill y gystadleuaeth agoriadol. Ym 1929 ymunodd clybiau'r Eidal â'r gystadleuaeth, gan gymryd lle clybiau Iwgoslafia. Ymestynwyd y gystadleuaeth i gael pedwar clwb o phob gwlad ym 1934 ac estynnwyd gwahoddiad i wledydd eraill gystadlu - Y Swistir ym 1936 a Romania, Y Swistir ac Iwgoslafia ym 1937. Tynodd Awstria yn ôl o'r gystadleuaeth yn dilyn yr Anschluss ym 1938.

Bu rhaid disgwyl hyd nes 1951 ar gyfer y gystadleuaeth cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac fe'i chwaraewyd o dan yr enw Cwpan Zentropa, ond ym 1955 atgyfodwyd yr enw Cwpan Mitropa. Oherwydd cystadlaethau pêl-droed newydd ar draws holl wledydd Ewrop, collodd Cwpan Mitropa ei apêl ac erbyn y 1980au roedd yn gystadleuaeth i dimau Ail Adran yn unig. Fe'i chwaraewyd am y tro olaf ym 1992 gyda Borac Banja Luka o Iwgoslafia yn dod y clwb olaf i dorri eu henwau ar y tlws.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mitropa Cup History". Unknown parameter |published= ignored (help)