[go: up one dir, main page]

Cadog

un o wŷr pennaf yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Catwg)

Roedd Sant Cadog, weithiau Catwg (neu Catwg Ddoeth yn ffugiadau Iolo Morgannwg), yn un o'r pwysicaf o'r seintiau Cymreig yn y 6g. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Llancarfan ym Mro Morgannwg.

Cadog
Delw o Sant Cadog, yn Belz yn Llydaw.
Ganwyd497 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw580 Edit this on Wikidata
Benevento Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Swyddesgob, abad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl24 Ionawr Edit this on Wikidata
TadGwynllyw Edit this on Wikidata
MamSantes Gwladys Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ysgrifennwyd Buchedd Cadog tua 1100 gan Lifris o Lancarfan in circa 1100, c ysgrifennwyd un arall o waith Caradog o Lancarfan rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Nid oes llawer o werth hanesyddol iddynt, ond dywedir fod Cadog yn fab i Gwynllyw, brenin Gwynllŵg yn ne Cymru, brawd Sant Pedrog. Dywedir i Gwnllyw gipio buwch yn perthyn i'r mynach Gwyddelig Sant Tathyw, a phan ddaeth Tathyw ato i hawlio ei fuwch yn ôl, penderfynodd Gwynllyw roi ei fab iddo i'w addysgu.

Bu Cadog yn efengylu yng Nghymru a Llydaw, ac mae nifer sylweddol o eglwysi a chysylltiad ag ef yn y ddwy wlad, er enhraifft Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Belz, Locoal-Mendon a Gouenac'h yn Llydaw. Dywedir iddo hefyd adeiladu mynachlog yn yr Alban islaw "Mynydd Bannauc" (yn ôl y farn gyffredinol, i'r de-orllewin o Stirling). Yn ôl ei fuchedd aeth ar brererindod i Rufain a Jerusalem, a daeth i wrthdrawiad a'r Brenin Arthur ac a Maelgwn Gwynedd. Dywedir iddo dreulio cyfnod yn byw fel meudwy gyda Gildas ar ynys ym mae Morbihan yn Llydaw.

Ffugiadau Iolo Morganwg

golygu

Tadogodd yr hynafiaethydd a ffugiwr traddodiad enwog Iolo Morgannwg gyfres o drioedd diarebol a dywediadau ar Sant Cadog/Catwg dan yr enw "Trioedd Catwg Ddoeth".

Gŵyl mabsant

golygu

Ei ddydd gŵyl yw 24 Ionawr (ac weithiau ar y 25 Ionawr).[1] Gelwir arno i iachau byddardod.

Eglwysi

golygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Cadog Sant
 
51°42′44″N 3°02′17″W / 51.712189°N 3.037995°W / 51.712189; -3.037995 Trefddyn Q25999200
2 Eglwys Sant Cado, Llydaw
 
47°17′48″N 2°24′11″W / 47.2967°N 2.4031°W / 47.2967; -2.4031 Gwenrann Q2957167
3 Eglwys Sant Cadog
 
51°45′53″N 2°51′05″W / 51.7647°N 2.85141°W / 51.7647; -2.85141 Rhaglan Q5117381
4 Eglwys Sant Cadog
 
51°36′39″N 2°57′19″W / 51.6107°N 2.9554°W / 51.6107; -2.9554 Casnewydd
Caerllion
Q7401071
5 Eglwys Sant Cadog
 
51°56′22″N 3°53′00″W / 51.9395°N 3.88347°W / 51.9395; -3.88347 Llangadog Q17742799
6 Eglwys Sant Cadog
 
51°46′53″N 2°58′20″W / 51.7815°N 2.97216°W / 51.7815; -2.97216 Llanofer Q17744068
7 Eglwys Sant Cadog 51°31′21″N 3°07′26″W / 51.52236944444444°N 3.123938888888889°W / 51.52236944444444; -3.123938888888889 Caerdydd Q99471683
8 Eglwys Sant Cadog, Cheriton, Abertawe
 
51°36′58″N 4°14′22″W / 51.6161°N 4.23948°W / 51.6161; -4.23948 Llangynydd, Llanmadog a Cheriton Q17743651
9 Eglwys Sant Cadog, Glyn Nedd
 
51°44′33″N 3°38′18″W / 51.7425°N 3.6383°W / 51.7425; -3.6383 Aberpergwm
Glyn-nedd
Q17740083
10 Eglwys Sant Cadog, Llangatwg Lingoed
 
51°52′32″N 2°55′44″W / 51.8755°N 2.92886°W / 51.8755; -2.92886 Y Grysmwnt Q5117380
11 Eglwys Sant Cadog, Pendoylan
 
51°28′53″N 3°21′19″W / 51.4813°N 3.35522°W / 51.4813; -3.35522 Y Bont-faen
Pendeulwyn
Q17722609
12 Eglwys Sant Cadwg
 
51°56′36″N 3°26′20″W / 51.943333333333°N 3.4388888888889°W / 51.943333333333; -3.4388888888889 Glyn Tarell Q29485886
13 Eglwys Sant Cattwg 51°32′47″N 4°12′45″W / 51.546491°N 4.212462°W / 51.546491; -4.212462 Q114773981
14 Eglwys Sant Cattwg, Tregatwg
 
51°24′59″N 3°15′09″W / 51.4164°N 3.25257°W / 51.4164; -3.25257 y Barri Q17744116
15 Eglwys Sant Catwg
 
51°40′20″N 3°48′02″W / 51.6721°N 3.80049°W / 51.6721; -3.80049 Blaenhonddan Q17739556
16 Eglwys Sant Catwg
 
51°51′14″N 3°08′50″W / 51.8539°N 3.14709°W / 51.8539; -3.14709 Llangatwg Q17740423
17 Eglwys Sant Catwg
 
51°50′13″N 2°47′24″W / 51.837°N 2.7901°W / 51.837; -2.7901 Llangatwg Feibion Afel Q17743968
18 Eglwys Sant Catwg
 
51°24′55″N 3°28′01″W / 51.4152°N 3.46707°W / 51.4152; -3.46707 Llan-faes Q17744228
19 Eglwys Sant Catwg
 
51°45′49″N 2°45′31″W / 51.7637°N 2.75853°W / 51.7637; -2.75853 Llanfihangel Troddi Q17744316
20 Eglwys Sant Catwg
 
51°31′39″N 3°17′39″W / 51.527389°N 3.2940791°W / 51.527389; -3.2940791 Pentyrch Q29499987
21 Eglwys Sant Catwg
 
51°39′52″N 3°15′04″W / 51.664485°N 3.2511639°W / 51.664485; -3.2511639 Gelli-gaer Q29502466
22 Eglwys y Plwyf, Llangadog, Llancarfan
 
51°25′22″N 3°21′57″W / 51.4228°N 3.36591°W / 51.4228; -3.36591 Llancarfan Q17743863
23 Prieuré Saint-Cado d'Auray
 
47°39′50″N 2°59′23″W / 47.66375°N 2.989861°W / 47.66375; -2.989861 An Alre Q22927260
24 Saint-Cado 47°41′03″N 3°11′07″W / 47.684298°N 3.185158°W / 47.684298; -3.185158 Belz Q110802611
25 Tregatwg
 
51°24′49″N 3°15′25″W / 51.41361111111111°N 3.2569444444444446°W / 51.41361111111111; -3.2569444444444446 Bro Morgannwg Q13132002
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llyfryddiaeth

golygu
  • E.G. Bowen, Saints, Seaways and Settlements in the Celtic Lands (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969)

Cyfeiriadau

golygu
  1. oxfordindex.oup.com;[dolen farw] adalwyd 24 Ionawr 2017.