Aneurin M. Thomas
Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru oedd Aneurin Morgan Thomas (3 Ebrill 1921 - 16 Ionawr 2009). Cafodd ei apwyntio i'r swydd ym 1966 pan oedd yn Bwyllgor Cymreig i'r Cyngor Celfyddydau'r Deyrnas Unedig. Un o'i fentrau cyntaf oedd apwyntio Cyfarwyddwr Llenyddiaeth a sefydlu pwyllgor a fyddai'n llunio polisi a fyddai'n cynnig cefnogaeth ariannol i ysgrifenwyr, llyfrau, cylchgronau a chyhoeddwyr yng Nghymru.
Aneurin M. Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ebrill 1921 |
Bu farw | 16 Ionawr 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cafodd ei eni yng Nghilybebyll, ger Pontardawe.