Andreas Vesalius
Anatomydd a meddyg o Fflandrys oedd Andreas Vesalius (Lladineiddio o'r enw Iseldireg Andries van Wesel) (31 Rhagfyr 1514 – 15 Hydref 1564). Roedd yn awdur llyfr dylanwadol ar anatomeg, De Humani Corporis Fabrica (Basel, 1543).
Andreas Vesalius | |
---|---|
Portread o Vesalius yn ei De Humani Corporis Fabrica (1543) | |
Ganwyd | Andries Wytinck van Wesel 31 Rhagfyr 1514 Mont aux Potences - Galgenberg |
Bu farw | 16 Hydref 1564 Zakynthos |
Dinasyddiaeth | Habsburg Netherlands |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | anatomydd, biolegydd, meddyg, llawfeddyg, academydd, ffisiolegydd, llenor |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | De Humani Corporis Fabrica |
Prif ddylanwad | Galen |
Priod | Anne van Hamme |
Fe'i ganwyd ym Mrwsel. Astudiodd ym Mhrifysgol Leuven (1528-32), ym Mhrifysgol Paris (1533-7) ac ym Mhrifysgol Padova, Gweriniaeth Fenis (1537). Yn syth ar ôl iddo gael ei ddoethuriaeth yn Padova, penodwyd ef yn athro llawdriniaeth ac anatomeg yno.
Ar ôl ei ymchwiliadau ei hun, fe ddaeth i'r casgliad bod llawer o ddamcaniaethau ffisiolegol hynafol Galen yn anghywir. Cynhwyswyd ei ddarganfyddiadau yn ei lyfr De Humani Corporis Fabrica, a gyhoeddodd pan oedd yn 28 mlwydd oed.
Yn fuan wedi cyhoeddi ei lyfr, penodwyd ef yn feddyg yn llys Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ac yn ddiweddarach gwasanaethodd ei fab Philip II.
Yn ystod bererindod i'r Tir Sanctaidd ym 1564 bu farw pan gafodd ei longddryllio ar ynys Zakynthos.