[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Vitoria-Gasteiz

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Vitoria)
Vitoria-Gasteiz
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasVitoria-Gasteiz City Edit this on Wikidata
Poblogaeth255,886 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1181 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMaider Etxebarria Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kutaisi, Vitoria, Angoulême, Kogo, Anaheim, Sullana, Zug, La Güera, Mar del Plata, Victoria, Ibagué, Dortmund Edit this on Wikidata
NawddsantSancta Maria ad Nives Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCuadrilla de Vitoria Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd276.81 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr525 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawZadorra Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArratzua-Ubarrundia, Elburgo/Burgelu, Barrundia, Iruraiz-Gauna, Bernedo, Iruña de Oca/Iruña Oka, Kuartango, Zuia, Zigoitia, Condado de Treviño, La Puebla de Arganzón Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.8467°N 2.6731°W Edit this on Wikidata
Cod post01001–01015 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Vitoria-Gasteiz Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMaider Etxebarria Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethAlfonso VIII of Castile, Alfonso X of Castile and Leon Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganSancho VI of Navarre Edit this on Wikidata

Vitoria-Gasteiz yw prifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a phrifddinas talaith Araba. Yr enw Sbaeneg yw Vitoria a'r enw Basgeg yw Gasteiz; "Vitoria-Gasteiz" yw'r ffurf swyddogol. Poblogaeth y ddinas yw 255,886 (2023).

Sefydlwyd Gasteiz yn 1181 gan Sancho VI, brenin Navarra, fel Nueva Victoria. Yn 1200 daeth yn rhan o Deyrnas Castillia pan gipiwyd y dref gan Alfonso VIII, brenin Castilla. Yn 1431 cafodd yr hawl i'w galw ei hun yn ddinas.

Ymladdwyd Brwydr Vitoria ar 21 Mehefin 1813, pan orchfygwyd byddin o Ffrancwyr gan fyddin dan Ddug Wellington, brwydr a roddodd ddiwedd ar yr ymladd yn Sbaen i bob pwrpas.

Ar 20 Mai 1980, cyhoeddwyd Vitoria-Gasteiz yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (sef tri yn unig o saith talaith Gwlad y Basgː Iruña yw prifddinas hanesyddol Gwlad y Basg trwyddi draw). Mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.

Paseo de la Senda.