Dyfrbont Pontcysyllte
Math | dyfrbont fordwyol, dyfrbont |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Camlas Llangollen |
Lleoliad | Llangollen |
Sir | Llangollen Wledig |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 105 ha |
Uwch y môr | 63.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.9702°N 3.08782°W |
Hyd | 307 metr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Deunydd | bricsen, Haearn bwrw |
Dynodwr Cadw | DE175 |
Mae Pontcysyllte yn draphont i gychod, sy'n dwyn Camlas Llangollen dros ddyffryn Afon Dyfrdwy rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte, i'r dwyrain o Langollen. Cwblhawyd adeiladu'r bont yn 1805, ond hyd heddiw, hon yw'r draphont ddwr hiraf ac uchaf yng ngwledydd Prydain, ac mae'n adeiladwaith sydd wedi ei restru ar Raddfa I Adeiladau Rhestredig.[1] Yn ogystal mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y ddyfrbont gan Thomas Telford a William Jessop, mae'n 1,007 troedfedd o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder. Mae wedi ei wneud o gafn haearn bwrw wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen gwag. Mae gan bob bwa rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: roedd wedi adeiladu o leiaf un draphont i'r cynllun hwn ynghynt (sef Traphont Longdon-on-Tern) ar Gamlas Amwythig, sydd yn dal i'w gweld yno heddiw yng nghanol cae, er y gadawyd y gamlas flynyddoedd yn ôl.
Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn Ffowndri Plas Kynaston, a thaflwyd pob uniad cynffonnog i mewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddiwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn siwgr berwedig, ac wedyn eu selio â phlwm. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.
Yn rhan o gamlas a elwid yn wreiddiol yn Camlas Ellesmere, roedd yn un o'r campweithiau peirianneg sifil cyntaf a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog Thomas Telford (dan oruchwyliaeth y peiriannwr camlesi mwy profiadol, William Jessop). Cyflenwyd yr haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn Amwythig a gerllaw yng Nghefn Mawr. Agorwyd y ddyfrbont ar 26 Tachwedd 1805, ar ôl cymryd tua deng mlynedd a £47,000 i'w dylunio a'i hadeiladu.
Mae'r llwybr halio wedi ei gydbwyso dros y cafn, sydd yr un lled â'r draphont i alluogi i gychod cul symud yn fwy rhydd dros y dŵr. Mae rheiliau i warchod cerddwyr ar ochr allanol y llwybr, ond ni ddefnyddiwyd y tyllau ar gyfer rheiliau ar ochr arall y llwybr. Gan mai dim ond chwe modfedd uwchben y dŵr y mae ymyl y cafn, a'i fod felly o dan fwrdd y cychod, does dim byd rhwng gyrrwr y cwch a chwymp anferthol i waelod y dyffryn.
Roedd handlen hygyrch yn arfer bod mewn cwt ar y llwybr troed yng nghanol y bwa canolog; wrth dynnu'r handlen hon achosid i ddŵr dasgu i lawr i'r afon islaw. Gwelir y tasgiad o hyd bob cwpl o flynyddoedd pan wagir y draphont er mwynt ei chynnal.
Statws
[golygu | golygu cod]Cynigiwyd y draphont fel cystadleuydd ar gyfer statws Safle Treftadaeth y Byd yn 2005, ar ei dau ganmlwyddiant,[2] ac fe'i henwebwyd yn swyddogol yn 2006.[3] Ar 28 Mehefin 2009 rhoddwyd statws Safle Treftadaeth y Byd i'r bont, ynghyd â 11 milltir (18 km) o'r gamlas, gan bwyllgor UNESCO ym Madrid.[4]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Afon Dyfrdwy yn llifo dan y draphont
-
Y draphont yn y niwl
-
Y bont o'r cae pêl-droed
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- BBC Shropshire: golygfa banoramig 360 gradd
- (Saesneg) BBC: "There really is a plug in the bottom!"
- (Saesneg) Taith Wrecsam arlein: Pontcysyllte Aqueduct Archifwyd 2012-09-08 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adeiladau Rhestredig: Dyfrffos Pont Cysyllte, Trefor" Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback, Cyngor Bwrdeisdref Wrecsam, 25 Mai 2007
- ↑ Teitl: Aqueduct's big bicentenary party Cyhoeddwyr: BBC News Dyddiad: 27 Tachwedd 2005
- ↑ Teitl: Aqueduct set for heritage status Cyhoeddwyr: BBC News Dyddiad: 10 Hydref 2006
- ↑ "Pontcysyllte Aqueduct and Canal". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.