[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Tocelaw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tokelau)
Tokelau
ArwyddairTokelau for the Almighty Edit this on Wikidata
Mathgrŵp o ynysoedd, rhestr o diriogaethau dibynnol, endid tiriogaethol gwleidyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasFakaofo Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,499 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+13:00, UTC+12:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tokelauan, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSeland Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Tocelaw Tocelaw
Arwynebedd10 ±1 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.1667°S 171.8333°W Edit this on Wikidata
Map
ArianNew Zealand dollar Edit this on Wikidata

Tiriogaeth yn ne'r Cefnfor Tawel yw Tocelaw (hefyd Tokelau ac Ynysoedd Tocelaw) sy'n perthyn i Seland Newydd ac sy'n cynnwys tair atol yn unig. Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi dynodi Tokelau yn Diriogaeth An-Hunanlywodraethol (Non-Self-Governing Territory). Hyd 1976 yr enw swyddogol oedd Ynysoedd Tocelaw (Tokelau Islands). Weithiau cyfeirir at Tocelaw o hyd yn Saesneg wrth yr hen enw trefedigaethol The Union Islands. Mae'n rhan o ynysoedd Polynesia.

Does gan Tocelaw ddim prifddinas fel y cyfryw, gyda chanolfan weinyddol ar gyfer pob un o'r tair ynys fechan. Mae tua 1,416 o bobl yn byw ar yr ynysoedd.

Saesneg yw'r iaith swyddogol, ond siaredir yr iaith Tocelaweg, un o ieithoedd Polynesia, gan fwyafrif yr ynyswyr.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]