Tybaco
Math | cynnyrch, symbylydd |
---|---|
Yn cynnwys | dail baco |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir Tybaco (neu baco) o ddail planhigion yn y genws Nicotiana o'r teulu Solanaceae, a'r term cyffredinol am unrhyw gynnyrch a baratoir o ddail y planhigion hyn wedi'u sychu. Fe'i hadwaenir hefyd fel myglys. Fe'i defnyddir yn bennaf i'w ysmygu, ar ffurf sigaret, sigâr neu bibell, ond gellir ei gnoi hefyd. Mae pob ffurf ohono'n cynnwys nicotîn, a thros amser mae'r defnyddiwr yn debygol o fagu dibyniaeth arno. Ceir dros 70 rhywogaeth o dybaco, ond y prif gnwd masnachol yw N. tabacum. Mae'r amrywiad cryfach N. rustica hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.
Deillia tybaco o gyfandir America, ac ymddengys ei fod yn cael ei ddefnyddio yno cyn gynhared a 3000 CC. Roedd iddo le pwysig yn niwylliant llawer o frodorion America. Daw'r gair trwy'r Sbaeneg tabaco, efallai o'r iaith Arawaceg frodorol. Lledaenodd yr arfer o ysmygu trwy'r byd yn ddiweddarach; Bhutan yw'r unig wlad lle na chaniateir gwerthu tybaco.
Defnyddir dail tybaco sych yn bennaf ar gyfer ysmygu mewn sigaréts a sigars, yn ogystal â phibellau a shishas. Gellir eu bwyta hefyd fel snisin, cnoi tybaco, trochi tybaco a snws.
Mae tybaco yn cynnwys y symbylydd nicotin alcaloid hynod gaethiwus yn ogystal ag alcaloidau harmala.[1] Mae defnyddio tybaco yn achos neu'n ffactor risg ar gyfer llawer o afiechydon marwol, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar y galon, yr afu a'r ysgyfaint, yn ogystal â sawl canser. Yn 2008, enwodd Cyfundrefn Iechyd y Byd y defnydd o dybaco fel y prif achoswr marwolaeth (a ellir ei atal).[2]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r gair Cymraeg tybaco'n tarddu o'r gair Sbaeneg "tabaco"; baco a ddywedir ar lafar gan fwyaf.[3] Credir bellach fod y gair tybaco'n tarddu, yn rhannol o leiaf, o Taíno, iaith Arawacaidd y Caribî. Yn Taíno, dywedir ei fod yn golygu naill ai rholyn o ddail tybaco (yn ôl Bartolomé de las Casas, 1552), neu tabago, sef pibell siâp L a ddefnyddir ar gyfer mewn-anadlu mwg tybaco (yn ôl Oviedo), gyda'r dail eu hunain yn cael eu galw'n cohiba).[4][3]
Ond ceir posibilrwydd arall: trwy gyd-ddigwyddiad, efallai, defnyddiwyd geiriau tebyg mewn Sbaeneg, Portiwgaleg ac Eidaleg o 1410 ar gyfer rhai perlysiau meddyginiaethol. Mae'n debyg bod y rhain yn deillio o'r Arabeg طُبّاق ṭubbāq (hefyd طُباق ṭubāq ), gair sy'n dyddio o'r 9g yn ôl pob sôn, yn cyfeirio at wahanol berlysiau.[5][6]
Hanes
[golygu | golygu cod]Defnydd traddodiadol
[golygu | golygu cod]Mae tybaco wedi cael ei ddefnyddio ers amser maith yn yr Americas, gyda'r cynaeafu cyntaf ym Mecsico yn dyddio'n ôl i 1400-1000 CC,[7] a llawer o lwythau Brodorol America yn ei dyfu ac yn defnyddio tybaco cyn hynny. Yn hanesyddol, mae pobl o ddiwylliannau Northeast Woodlands (ardal llwythi'r Irocwo a'r Algoncwo wedi cario tybaco mewn codenni fel eitem masnachu hawdd ei defnyddio. Roedd yn cael ei smygu'n gymdeithasol ac yn seremoniol, megis i selio cytundeb heddwch neu gytundeb masnach rhwng y brodorion.[8][9] Mewn rhai diwylliannau Brodorol, mae tybaco yn cael ei weld fel anrheg gan y Creawdwr (duw), gyda mwg tybaco seremonïol yn cario meddyliau a gweddïau person i'r Creawdwr.[10]
Poblogeiddio
[golygu | golygu cod]Yn dilyn dyfodiad y gorchfygwyr gwyn Ewropeaidd cyntaf i'r Americas, daeth tybaco'n fwyfwy poblogaidd fel eitem fasnach. Hernández de Boncalo, croniclwr Sbaenaidd yr Indiaid, oedd yr Ewropead cyntaf i ddod â hadau baco i'r Hen Fyd, a hynny yn 1559 yn dilyn gorchmynion Brenin Felipe II, brenin Sbaen. Plannwyd yr hadau hyn ar gyrion Toledo, yn fwy penodol mewn ardal o'r enw "Los Cigarrales" a enwyd ar ôl pla parhaus y teulu o bryfed, cicadas (cigarras yn Sbaeneg).
Cyn datblygiad y mathau ysgafnach o faco Virginia a burley gwyn, roedd y mwg yn rhy gryf i'w anadlu. Roedd meintiau bach yn cael eu hysmygu ar y tro, gan ddefnyddio pibell fel y midwakh neu kiseru, neu bibellau dŵr newydd eu dyfeisio fel y bong neu'r hookah (gweler thuốc lào am barhad modern o'r arfer hwn). Daeth tybaco mor boblogaidd nes i wladfa Seisnig Jamestown ei ddefnyddio fel arian cyfred a dechrau ei allforio fel cnwd arian; dywedir yn aml mai tybaco a achubodd Virginia rhag fod yn ddim ond tir diffaith.[11]
Cyfrannodd manteision honedig tybaco at ei lwyddiant hefyd. Tybiai'r seryddwr Thomas Harriot, a aeth gyda Syr Richard Grenville ar ei daith i Ynys Roanoke yn 1585, fod y planhigyn "yn agor y corff" fel bod cyrff y brodorion "yn nodedig o iach, yn wahanol i ni yn Lloegr gyda'n afiechydon enbyd, ac yn aml dan gystudd."[12]
Daeth cynhyrchu baco ar gyfer ysmygu, cnoi, a snisin yn ddiwydiant mawr yn Ewrop a'i gwladfeydd, erbyn 1700.[13][14]
Mae baco wedi bod yn gnwd arian parod mawr (cash crop) yng Nghiwba ac mewn rhannau eraill o'r Caribî ers y 18g. Mae sigars Ciwba yn fyd-enwog.[15]
Ar ddiwedd y 19g, daeth sigaréts yn boblogaidd. Dyfeisiodd James Bonsack beiriant i awtomeiddio cynhyrchu sigaréts a gwelwyd twf aruthrol yn y diwydiant tybaco hyd at ddiwedd yr 20g pan gyhoeddwyd ymchwil fod baco'n creu afiechydon megis cansar.[16][17]
Canrif 21
[golygu | golygu cod]Yn dilyn cyhoeddiadau gwyddonol canol yr 20g, cafodd tybaco ei gondemnio fel perygl i iechyd, ac yn y pen draw fe'i cydnabuwyd ei fod yn achosi canser, yn ogystal â chlefydau anadlol a chylchrediadaethol eraill. Yn yr Unol Daleithiau, arweiniodd hyn at y Prif Gytundeb Setliad Tybaco (Tobacco Master Settlement Agreement), a setlodd yr achosion cyfreithiol niferus gan daleithiau'r UD yn gyfnewid am gyfuniad o daliadau blynyddol i'r taleithiau a chyfyngiadau gwirfoddol ar hysbysebu a marchnata cynhyrchion tybaco.
Erbyn y 21g, roedd llawer o ysmygwyr caeth yn dymuno rhoi'r gorau iddi, a gwelwyd datblygu cynhyrchion rhoi'r gorau i dybaco.[18]
Yn 2003, mewn ymateb i'r twf yn y defnydd o dybaco mewn gwledydd sy'n datblygu, llwyddodd Sefydliad Iechyd y Byd[19] i gasglu 168 o wledydd i lofnodi'r Confensiwn Fframwaith ar Reoli Tybaco. Bwriad y confensiwn oedd gwthio am ddeddfwriaeth a gorfodi effeithiol ym mhob gwlad i leihau effeithiau niweidiol tybaco.[20]
Rhwng 2019 a 2021, roedd pryderon ynghylch mwy o risgiau iechyd COVID-19 oherwydd y defnydd o faco yn help i leihau'r nifer a oedd yn ysmygu. Credid fod y firws yn effeithio ysbygwyr yn fwy na phobl nad oeddent erioed wedi ysmygu baco.[21]
Bioleg
[golygu | golygu cod]Nicotiana
[golygu | golygu cod]Mae llawer o rywogaethau o dybaco yn y genws o berlysiau a elwir yn Nicotiana. Mae'n rhan o'r teulu'r mochlys (y codwarth neu'r cedowrach; y nightshades; Solanaceae) sy'n frodorol i Ogledd a De America, Awstralia, de orllewin Affrica, a De'r Môr Tawel.[22]
Mae'r rhan fwyaf o fochlys yn cynnwys lefelau gwahanol o nicotin, gyda'u niwrotocsin pwerus i bryfed. Fodd bynnag, mae tybaco'n tueddu i gynnwys crynodiad llawer uwch o nicotin na'r lleill. Yn wahanol i lawer o rywogaethau o Solanaceae eraill, nid ydynt yn cynnwys alcaloidau tropan, sy'n aml yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid eraill.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Ffermio baco
[golygu | golygu cod]Mae tybaco'n cael ei drin yn debyg i gynhyrchion amaethyddol eraill. Ar y dechrau, roedd hadau'n cael eu gwasgaru'n gyflym ar y pridd. Fodd bynnag, daeth ymosodiad cynyddol ar blanhigion ifanc gan chwilod chwain (Epitrix cucumeris neu E. pubescens ), a ddinistriodd hanner y cnydau baco yn yr Unol Daleithiau ym 1876. Erbyn 1890, cynhaliwyd arbrofion llwyddiannus lle gosodwyd y planhigyn mewn ffrâm wedi'i gorchuddio â ffabrig o gotwm tenau. Heddiw, mae hadau baco'n cael eu hau mewn fframiau oer neu welyau-poeth, gan fod eu heginiad yn cael ei sbarduno gan olau.[23] Yn yr Unol Daleithiau, defnyddir y mwyn apatit i wrteithio baco, sy'n newynu'r planhigyn yn rhannol o nitrogen, a yn creu blas mwy dymunol.
Ar ôl i'r planhigion dyfu'n 20 cm (8 modfedd) maent yn cael eu trawsblannu i'r caeau. Roedd yn rhaid i ffermwyr aros am dywydd glawog i blannu. Mae twll yn cael ei greu yn y ddaear a phlennir ynddo'r planhigyn baco, gyda naill ai erfyn pren crwm neu gorn carw. Ar ôl gwneud dau dwll i'r dde a'r chwith, byddai'r plannwr yn symud ymlaen ddwy droedfedd, yn dewis planhigion o'i fag, ac yn ailadrodd y broses. Dyfeisiwyd planwyr tybaco mecanyddol amrywiol fel Bemis, New Idea Setter, a New Holland Transplanter ar ddiwedd y 19g a'r 20g i otomeiddio'r broses: gwneud y twll, ei ddyfrio, plannu'r planhigyn - i gyd mewn un symudiad.[24]
Caiff baco'i gynaeafu'n flynyddol, a hynny mewn sawl ffordd. Yn y dull hynaf, sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw (2022), mae'r planhigyn cyfan yn cael ei gynaeafu ar unwaith trwy dorri'r coesyn ar y ddaear gyda chyllell dybaco; yna rhoddir pedwar i chwe phlanhigyn ar un ffon, a'i hongian mewn ysgubor i'w sychu. Yn y 19g, dechreuwyd cynaeafu tybaco trwy dynnu dail unigol oddi ar y coesyn wrth iddynt aeddfedu. Mae'r dail yn aeddfedu o'r ddaear i fyny, felly mae cae o dybaco a gynaeafir yn y modd hwn yn golygu cynhaeaf cyfresol o nifer o "primings", gan ddechrau gyda'r dail volado ger y ddaear, gan weithio i'r dail seco yng nghanol y planhigyn, a gorffen gyda'r dail ligero cryf ar frig y planhigyn. Cyn cynaeafu, rhaid tocio'r cnwd pan fydd y blodau pinc yn blodeuo. Mae tocio bob amser yn cyfeirio at dynnu'r blodyn baco cyn cynaeafu'r dail yn systematig. Wrth i'r chwyldro diwydiannol gydio, roedd y wagenni cynaeafu a ddefnyddiwyd i gludo dail yn cynnwys peiriant i glymu cortyn o amgylch y planhigion (tebyg i felar), offer a oedd yn defnyddio cortyn i gysylltu dail ar bolyn. Yn y cyfnod modern, mae caeau mawr yn cael eu cynaeafu'n fecanyddol, er bod brigo'r blodyn ac mewn rhai achosion mae tynnu dail anaeddfed yn dal i gael ei wneud â llaw.
Y prif gynhyrchwyr baco yn yr Unol Daleithiau yw Gogledd Carolina a Kentucky, gyda Tennessee, Virginia, Georgia, De Carolina a Pennsylvania yn dynn wrth eu sodlau.[25]
Sychu
[golygu | golygu cod]Mae sychu dail baco, a'r aeddfedu dilynol, yn caniatáu ocsidiad araf a diraddio carotenoidau araf. Mae hyn yn cynhyrchu rhai cyfansoddion defnyddiol yn y dail baco ac yn rhoi arogl (neu flas) tebyg i gae o wenith melys, ogla te, olew rhosyn, neu flas aromatig ffrwythol sy'n cyfrannu at "fwynder" y mwg. Mae starts yn cael ei drawsnewid yn siwgr, sy'n glycateiddio'r protein, ac yn ei ocsidio i mewn i gynhyrchion terfynol glyciad datblygedig (advanced glycation endproducts AGEs), proses o garameleiddio sydd hefyd yn ychwanegu blas. Mae anadlu mwg baco o'r AGEs hyn yn cyfrannu at atherosglerosis a chanser.[26] Dibyna'r lefelau o AGE ar y dull sychu a ddefnyddir.
Gellir sychu baco trwy sawl dull, gan gynnwys:
- Mae tybaco wedi'i sychu ag aer, lle mae'r baco'n cael ei hongian mewn ysguboriau sydd wedi'u hawyru'n dda dros gyfnod o bedair i wyth wythnos. Mae tybaco wedi'i awyru fel hyn yn isel mewn siwgr, sy'n rhoi blas ysgafn, ysgafn i'r mwg baco, ac yn uchel mewn nicotin. Rhoddir baco sigârs a byrli mewn ysguboriau aer 'tywyll'.[27]
- Rhoddir baco wedi'i sychu gan dân i hongian mewn ysguboriau mawr lle llosgir pren caled yn olosg, naill ai'n barhaus neu'n ysbeidiol, dros gyfnos o dridiau i ddeg wythnos, yn dibynnu ar y broses a'r math o faco. Drwy'r broses hon, ceir baco sy'n isel mewn siwgr ac yn uchel mewn nicotin. Mae baco pibelll, baco cnoi, a baco snisin wedi'u sychu â thân.
- Sychu drwy ffliw. Yn wreiddiol roedd tybaco wedi'u sychu a gwres canol / ffliw lle gosodwyd y baco ar ffyn baco a oedd yn cael eu hongian oddi ar bolion haen mewn ysguboriau halltu neu odynau, gyda'r tân y tu allan a'i wres yn cael ei bibellu i fewn ac o amgylch yr ysgubor. Yn gyffredinol, mae'r broses yn cymryd tua wythnos. ac mae'r dull hwn yn cynhyrchu baco sigaréts sy'n uchel mewn siwgr a lefelau canolig i uchel o nicotin. Mae'r rhan fwyaf o sigaréts yn cynnwys tybaco wedi'i halltu â ffliw, sy'n cynhyrchu mwg mwynach a haws ei anadlu. Amcangyfrifir bod 1 goeden yn cael ei thorri i driniaeth ffliw bob 300 sigarét, gan arwain at ganlyniadau amgylcheddol difrifol.[28]
- Sychir baco hefyd yn yr haul heb ei gysgodi rhag yr haul. Defnyddir y dull hwn yn Nhwrci, Gwlad Groeg, a gwledydd Môr y Canoldir eraill i gynhyrchu baco dwyreiniol. Mae baco wedi'i sychu fel hyn yn isel mewn siwgr a nicotin ac fe'i defnyddir mewn sigaréts.
Mae rhai dail baco'n mynd trwy ail broses o sychu, a elwir yn eplesu neu'n chwysu.[29] Mae Cavendish yn cael ei eplesu wedi'i wasgu mewn toddiant casin sy'n cynnwys siwgr a / neu gyflasyn.[30]
Cynhyrchu byd-eang
[golygu | golygu cod]Tueddiadau
[golygu | golygu cod]Cynyddodd cynhyrchiant dail tybaco 40% rhwng 1971, pan gynhyrchwyd 4.2 miliwn o dunelli o ddail, a 1997, pan gynhyrchwyd 5.9 miliwn o dunelli o ddail.[32] Yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, roedd disgwyl i gynhyrchiant dail tybaco gyrraedd 7.1 miliwn o dunelli erbyn 2010. Mae'r nifer hwn ychydig yn is na'r cynhyrchiad uchaf erioed ym 1992, pan gynhyrchwyd 7.5 miliwn o dunelli o ddail baco.[33] Roedd y twf cynhyrchu bron yn gyfan gwbl o ganlyniad i gynhyrchiant cynyddol gan wledydd datblygol, lle cynyddodd y cynhyrchiant 128%.[34] Yn ystod yr un amser, gostyngodd cynhyrchiant mewn gwledydd datblygedig.[33] Cynhyrchodd Tsieina mwy o faco, ffactor unigol mwyaf yn y cynnydd mewn cynhyrchiant bydeang. Cynyddodd cyfran Tsieina (o farchnad y byd) 17% ym 1971 ac i 47% ym 1997.[32] Gellir esbonio'r twf hwn yn rhannol gan fodolaeth tariff mewnforio isel ar faco tramor sy'n dod i mewn i Tsieina. Er bod y tariff hwn wedi'i ostwng o 66% yn 1999 i 10% yn 2004,[35] mae'n dal i fod wedi arwain at sigaréts lleol, Tsieineaidd sy'n cael eu ffafrio dros sigaréts tramor oherwydd eu cost is.
Prif gynhyrchwyr baco, 2017 [36] | ||||
---|---|---|---|---|
Gwlad | Cynnyrch (mewn tunnell) | Nodyn | ||
Gweriniaeth Pobl Tsieina | 2,391,000 | |||
Brasil | 880,881 | |||
India | 799,960 | Amcang. | ||
United States | 322,120 | |||
Simbabwe | 181,643 | Amcang. | ||
Indonesia | 152,319 | |||
Sambia | 131,509 | Amcang. | ||
Pacistan | 117,750 | Amcang. | ||
Yr Ariannin | 117,154 | |||
Tansanïa | 104,471 | Amcang. | ||
Byd | 6,501,646 | Cyfan. | ||
Dim nodyn = ffigwr swyddogol, Amcang. = Amcangyfrif FAO, Cyfan. = Cyfanred (gall gynnwys amcangyfrif swyddogol, lledswyddogol neu amcangyfrif). |
Bob blwyddyn, mae tua 6.7 miliwn o dunelli o faco'n cael eu cynhyrchu ledled y byd. Y prif gynhyrchwyr baco yw Tsieina (39.6%), India (8.3%), Brasil (7.0%) a'r Unol Daleithiau (4.6%).[37]
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- "WHO REPORT on the global TOBACCO epidemic" (PDF). World Health Organization. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar February 7, 2009. Cyrchwyd January 1, 2008.
- "The Global Burden of Disease 2004 Update" (PDF). World Health Organization. 2008. Cyrchwyd January 1, 2008.
- G. Emmanuel Guindon; David Boisclair (2003). "Past, current and future trends in tobacco use" (PDF). Washington DC: The International Bank for Reconstruction and Development / The World Bank. Cyrchwyd January 2, 2008.
- The World Health Organization; The Institute for Global Tobacco Control, Johns Hopkins School of Public Health (2001). "Women and the Tobacco Epidemic: Challenges for the 21st Century" (PDF). World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar November 28, 2003. Cyrchwyd January 2, 2009.
- "Surgeon General's Report — Women and Smoking". Centers for Disease Control and Prevention. 2001. Cyrchwyd January 3, 2009.
- Richard Peto; Alan D Lopez; Jillian Boreham; Michael Thun (2006). "Mortality from Smoking in Developed Countries 1950-2000: indirect estimates from national vital statistics" (PDF). New York, NY: Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar February 24, 2005. Cyrchwyd January 3, 2009.
- Gilman, Sander L.; Zhou, Xun (2004). Smoke: A Global History of Smoking. Reaktion Books. ISBN 978-1-86189-200-3. Cyrchwyd January 1, 2009.
- "Cancer Facts & Figures 2015". American Cancer Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-17. Cyrchwyd February 23, 2015.
- Paul Lichtenstein; Niels V. Holm; Pia K. Verkasalo; Anastasia Iliadou; Jaakko Kaprio; Markku Koskenvuo; Eero Pukkala; Axel Skytthe et al. (2000). "Environmental and Heritable Factors in the Causation of Cancer — Analyses of Cohorts of Twins from Sweden, Denmark, and Finland". New England Journal of Medicine 343 (2): 78–85. doi:10.1056/NEJM200007133430201. PMID 10891514.
- Montesano, R.; Hall, J. (2001). "Environmental causes of human cancers". European Journal of Cancer 37: 67–87. doi:10.1016/S0959-8049(01)00266-0. PMID 11602374.
- Janet E. Ash; Maryadele J. O'Neil; Ann Smith; Joanne F. Kinneary (June 1997) [1996]. The Merck Index (arg. 12). Merk and Co. ISBN 978-0-412-75940-6.
- Benedict, Carol (April 10, 2011). Golden-Silk Smoke: A History of Tobacco in China, 1550–2010. ISBN 9780520948563.
- Brandt, Allan (January 6, 2009). The Cigarette Century: The Rise, Fall, and Deadly Persistence of the Product That Defined America. ISBN 9780786721900.
- Breen, T. H. (1985). Tobacco Culture: The Mentality of the Great Tidewater Planters on the Eve of Revolution. ISBN 0-691-00596-6.. Source on tobacco culture in 18th-century Virginia pp. 46–55
- Burns, Eric (October 6, 2006). The Smoke of the Gods: A Social History of Tobacco. ISBN 9781592134823.
- Hawks, S. N.; Collins, W. K. (1983). Principles of Flue-Cured Tobacco Production.
- Cosner, Charlotte (February 10, 2015). The Golden Leaf: How Tobacco Shaped Cuba and the Atlantic World. ISBN 9780826520340.
- Fuller, R. Reese (Spring 2003). "Perique, the Native Crop". Louisiana Life.
- Gately, Iain (December 2007). Tobacco: A Cultural History of How an Exotic Plant Seduced Civilization. ISBN 9780802198488.
- Goodman, Jordan (August 4, 2005). Tobacco in History: The Cultures of Dependence. ISBN 9781134818402.
- Graves, John (1980). From a Limestone Ledge: Some Essays and Other Ruminations about Country Life in Texas. ISBN 0-394-51238-3.
- Grehan, James (2006). "Smoking and "Early Modern" Sociability: The Great Tobacco Debate in the Ottoman Middle East (Seventeenth to Eighteenth Centuries)". The American Historical Review 111 (5): 1352–1377. doi:10.1086/ahr.111.5.1352. JSTOR 10.1086/ahr.111.5.1352. PMID 17907367. https://archive.org/details/sim_american-historical-review_2006-12_111_5/page/1352.
- Hahn, Barbara M. (October 27, 2011). Making Tobacco Bright: Creating an American Commodity, 1617-1937. ISBN 9781421402864.; examines how marketing, technology, and demand figured in the rise of Bright Flue-Cured Tobacco, a variety first grown in the inland Piedmont region of the Virginia-North Carolina border.
- Killebrew, Joseph Buckner; Myrick, Herbert (1897). Tobacco Leaf, Its Culture and Cure, Marketing and Manufacture: A Practical Handbook on the Most Approved Methods in Growing, Harvesting, Curing, Packing and Selling Tobacco, Also of Tobacco Manufacture. Orange Judd Company. Source for flea beetle typology (p. 243)
- Kluger, Richard (1999-06-07). Ashes to Ashes: America's Hundred-Year Cigarette War, the Public Health, and the Unabashed Triumph of Philip Morris. ISBN 9780517451106., Pulitzer Prize
- Murphey, Rhoads (January 2007). Studies on Ottoman Society and Culture, 16th-18th Centuries. ISBN 978-0-7546-5931-0.
- Neuburger, Mary C. (Hydref 4, 2012). Balkan Smoke: Tobacco and the Making of Modern Bulgaria. ISBN 978-0801465505.
- Aristée Poché, L. (2002). Perique Tobacco Mystery and History: A Monograph.
- Price, Jacob M. (1954). "The Rise of Glasgow in the Chesapeake Tobacco Trade, 1707-1775". The William and Mary Quarterly 11 (2): 179–199. doi:10.2307/1922038. JSTOR 1922038. https://archive.org/details/sim_william-and-mary-quarterly_1954-04_11_2/page/179.
- Tilley, Nannie M. (2012). The Bright Tobacco Industry, 1860-1929. ISBN 9780807879535.
- Schoolcraft, Henry Rowe (1851). Historical and statistical information respecting the history, condition and prospects of the Indian tribes of the United States: Collected and prepared under the direction of the Bureau of Indian Affairs per act of Congress of March 3rd, 1847. Historical American Indian Press.
- Shechter, Relli (Ebrill 28, 2006). Smoking, Culture and Economy in the Middle East. ISBN 1-84511-137-0.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rudgley, Richard. "Tobacco: from The Encyclopedia of Psychoactive Substances". Biopsychiatry. Little, Brown and Company (1998). Cyrchwyd November 26, 2017.
- ↑ "WHO Report on the global tobacco epidemic, 2008 (foreword and summary)" (PDF). World Health Organization. 2008. t. 8. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar February 15, 2008.
Tobacco is the single most preventable cause of death in the world today.
- ↑ 3.0 3.1 Ernst, A. (1889). "On the etymology of the word tobacco". The American Anthropologist A2 (2): 133–142. doi:10.1525/aa.1889.2.2.02a00020. https://zenodo.org/record/1448956.
- ↑ "World Association of International Studies, Stanford University".
- ↑ Lane's Lexicon. page 1879.
- ↑ The word ṭubāq no longer refers to various herbs, but has come to refer, in some dialects, specifically to tobacco.
- ↑ Goodman, Jordan.
- ↑ e.g.
- ↑ "They smoke with excessive eagerness ... men, women, girls and boys, all find their keenest pleasure in this way."
- ↑ Jack Jacob Gottsegen, Tobacco: A Study of Its Consumption in the United States, 1940, p. 107.
- ↑ Appleby, Joyce (2010). The Relentless Revolution: A History of Capitalism. W.W. Norton & Company. tt. 131.
- ↑ Harriot, Thomas, A Brief and True Report of the New Found Land of Virginia, 1590, http://www.gutenberg.org/files/4247/4247-h/4247-h.htm
- ↑ Eric Burns, The Smoke of the Gods: A Social History of Tobacco (2006), A popular history focused on the US.
- ↑ Jordan Goodman, Tobacco in History: The Cultures of Dependence (1993), A scholarly history worldwide.
- ↑ Charlotte Cosner, The Golden Leaf: How Tobacco Shaped Cuba and the Atlantic World (Vanderbilt University Press; 2015)
- ↑ Richard Kluger, Ashes to Ashes: America's Hundred-Year Cigarette War (1996)
- ↑ Allan Brandt, The Cigarette Century: The Rise, Fall, and Deadly Persistence of the Product That Defined America (2007)
- ↑ Commissioner, Office of the (2020-09-09). "Want to Quit Smoking? FDA-Approved Products Can Help" (yn en). FDA. https://www.fda.gov/consumers/consumer-updates/want-quit-smoking-fda-approved-products-can-help.
- ↑ "WHO | WHO Framework Convention on Tobacco Control (WHO FCTC)". Who.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 27, 2008. Cyrchwyd September 18, 2008.
- ↑ "WHO | WHO Framework Convention on Tobacco Control". WHO. Cyrchwyd 2021-02-17.
- ↑ Yang, Haiyang; Ma, Jingjing (2021-08-01). "How the COVID-19 pandemic impacts tobacco addiction: Changes in smoking behavior and associations with well-being" (yn en). Addictive Behaviors 119: 106917. doi:10.1016/j.addbeh.2021.106917. ISSN 0306-4603. PMID 33862579.
- ↑ Lewis, Albert (1931). "Tobacco in New Guinea". The American Anthropologist 33 (1): 134–139. doi:10.1525/aa.1931.33.1.02a00290.
- ↑ Garner, W. W. (February 27, 1914). "Tobacco Culture". Farmers' Bulletin (United States Department of Agriculture) (571): 3–4. https://books.google.com/books?id=_MX4JEAVPi4C&pg=RA21-PA1. Adalwyd March 22, 2020.
- ↑ van Willigen, John; Eastwood, Susan (2015). Tobacco Culture: Farming Kentucky's Burley Belt. University Press of Kentucky. t. 91. ISBN 9780813148083. Cyrchwyd February 2, 2018.
- ↑ "USDA/NASS QuickStats Ad-hoc Query Tool". quickstats.nass.usda.gov. 2019. Cyrchwyd July 1, 2020.
- ↑ "Tobacco smoke is a source of toxic reactive glycation products". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 94 (25): 13915–20. 1997. Bibcode 1997PNAS...9413915C. doi:10.1073/pnas.94.25.13915. PMC 28407. PMID 9391127. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=28407.
- ↑ "tobacco curing."
- ↑ Organization, World Health (2017). Tobacco and its environmental impact: an overview. World Health Organization. [Geneva, Switzerland?]. ISBN 9789241512497. OCLC 988541317.
- ↑ "Tobacco Leaf Harvesting, Curing, and Fermenting". Leaf Only. Cyrchwyd April 20, 2017.
- ↑ "Pipe Tobacco". Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 17, 2013. Cyrchwyd April 20, 2017.
- ↑ "Tobacco production". Our World in Data. Cyrchwyd March 7, 2020.
- ↑ 32.0 32.1 Food and Agriculture Organization of the United Nations.
- ↑ 33.0 33.1 The Food and Agriculture Organization of the United Nations.
- ↑ Rowena Jacobs; et al. (2000). "The Supply-Side Effects Of Tobacco Control Policies". In Prabhat Jha; Frank J. Chaloupka (gol.). Tobacco Control in Developing Countries. New York: Oxford University Press. tt. 311ff. ISBN 978-0-19-263250-0.
- ↑ Hu, T-W; Mao, Z (2006). "China at the Crossroads: The Economics of Tobacco and Health". Tobacco Control 15: i37–i41. doi:10.1136/tc.2005.014621. PMC 2563551. PMID 16723674. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2563551.
- ↑ "FAOSTAT". Food And Agriculture Organization Of The United Nations. Cyrchwyd November 3, 2019.
- ↑ US Census Bureau-Foreign Trade Statistics, (Washington DC; 2005)